Derbyn, storio a dosbarthu stoc diodydd
URN: PPL2FBS12
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Bwyd a Diod
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2016
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â sut yr ydych yn paratoi ar gyfer danfoniadau diodydd a’u gwirio, gan gwblhau’r holl ddogfennau angenrheidiol a storio’r stoc yn ddiogel. Mae hefyd yn cynnwys sut yr ydych yn monitro ac yn rheoli amodau storio a lefelau stoc.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a sgiliau technegol mae eu hangen i dderbyn, storio a dosbarthu stoc diodydd. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a gwybodaeth technegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol ym maes arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn lleoliad lletygarwch
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
• Derbyn, storio a dosbarthu stoc diodydd
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Paratoi ar gyfer y danfoniad a sicrhau bod y mannau derbyn a storio yn lân, yn glir ac wedi’u diogelu rhag mynediad anawdurdodedig
2. Gwirio bod y dogfennau danfoniadau’n cyfateb i’r stoc rydych yn ei dderbyn a rhoi gwybod i’r person priodol am unrhyw anghysondebau
3. Gwirio nad yw’r stoc wedi’i ddifrodi a’i fod o’r ansawdd cywir ac o fewn y dyddiad ‘defnyddio erbyn’
4. Cwblhau a chadw unrhyw gofnodion danfoniadau yn gywir ac yn unol â safon eich gweithle
5. Defnyddio gweithdrefnau diogel i gludo’r stoc i’r man storio gan gymryd gofal i beidio â’i ddifrodi ar y ffordd
Storio a dosbarthu stoc diodydd
6. Cynnal amodau’r man storio a defnyddio gweithdrefnau cylchdroi stoc er mwyn sicrhau y cynhelir ansawdd y stoc
7. Cofnodi manylion y stoc a gafodd ei dderbyn, ei storio a’i ddosbarthu yn unol â safon eich gweithle
8. Dosbarthu stoc yn unol â gofynion eich gweithle a rhoi gwybod i’r person priodol os yw’r lefelau stoc yn isel
9. Cadw’r holl fannau storio’n lân, yn daclus, heb sbwriel ac yn ddiogel rhag mynediad anawdurdodedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Arferion gweithio diogel a hylan wrth dderbyn danfoniadau diodydd
2. Ble ac oddi wrth bwy y gellir cael gwybodaeth am iechyd a diogelwch
3. Pam y dylid diogelu mannau derbyn rhag mynediad anawdurdodedig
4. Pam ac i bwy y dylid rhoi gwybod am unrhyw anghysondebau neu ddifrod
5. Pa gofnodion y dylid eu cadw at ddibenion archwilio
6. Y mathau o sefyllfaoedd annisgwyl a all godi wrth dderbyn stoc diodydd a sut i ddelio â’r rhain
Storio a dosbarthu stoc diodydd
7. Arferion gweithio diogel a hylan wrth storio a dosbarthu stoc diodydd
8. Pam y dylid diogelu mannau storio rhag mynediad anawdurdodedig bob amser
9. Pam y dylid dilyn gweithdrefnau storio a chylchdroi stoc
10. Pam mae’n rhaid cynnal lefel isaf benodol o stoc a safon eich gweithle ar gyfer rhoi gwybod am y rhain ac am wyro oddi wrthyn nhw
11. Pam y dylid dilyn y gweithdrefnau cywir a dangos y dogfennau cywir cyn y gellir dosbarthu stoc
12. Y mathau o sefyllfaoedd annisgwyl a all godi wrth storio a dosbarthu stoc diodydd a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Danfoniadau
1.1 diodydd mewn cratiau
1.2 diodydd mewn bocsys
1.3 barilanau
1.4 nwy
1.5 cyfarpar bar
1.6 gwydrau
Amodau storio
2.1 goleuadau
2.2 awyru
2.3 tymheredd
2.4 glendid
Diodydd
3.1 poteli mewn cratiau
3.2 poteli mewn bocsys
3.3 poteli unigol
3.4 barilanau
3.5 casgenni
3.6 caniau
3.7 cartonau
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL2BS9/10
Galwedigaethau Perthnasol
Aelod o'r tîm, Gweinydd/Gweinyddes, Staff bar
Cod SOC
Geiriau Allweddol
derbyn; storio; dosbarthu; stoc diodydd