Glanhau a chau safle coffi arbenigol
URN: PPL2FBS11
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Bwyd a Diod
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2016
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â sut yr ydych yn glanhau cyfarpar arbenigol ac yn cau’r safle ar ôl gwasanaeth.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a sgiliau technegol mae eu hangen i lanhau a chau safle coffi arbenigol. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a gwybodaeth technegol ar gyfer y safon:
•Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol ym maes arlwyo
•Cynnal diogelwch bwyd mewn lleoliad lletygarwch
•Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
•Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Glanhau a chau safle coffi arbenigol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Blaenoriaethu gwaith a’i gyflawni mewn modd effeithlon
2. Glanhau’r holl gyfarpar arbenigol yn unol â gofynion y gwneuthurwr a gofynion eich gweithle
3. Sicrhau bod yr holl eitemau gwasanaeth wedi’u glanhau a’u storio’n gywir yn barod ar gyfer y gwasanaeth nesaf
4. Gwirio bod y cyfarpar arbenigol wedi’u diffodd a bod y plygiau wedi’u tynnu allan lle bo angen
5. Gwaredu malurion coffi a chynhyrchion te sydd wedi’u defnyddio’n unol â safon eich gweithle
6. Gwirio a chofnodi bod y cyfarpar storio bwyd yn bodloni gofynion eich gweithle a’r gofynion cyfreithiol, a bod y bwyd wedi’i storio’n gywir
7. Rhoi gwybod i’r person priodol am unrhyw broblemau gyda’r cyfarpar
8. Cwblhau’r gwaith a’r dogfennau yn unol â’r gofynion cyfreithiol, gweithdrefnau’r gweithle a’r ddeddfwriaeth gyfredol mewn perthynas ag arferion gweithio hylan a diogel wrth gau’r safle ar ôl gwasanaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Arferion gweithio diogel a hylan wrth gau’r safle ar ôl gwasanaeth
2. Pam y dylid glanhau a storio’r holl eitemau a chyfarpar gwasanaeth yn gywir ar ôl eu defnyddio
3. Pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau’r gwneuthurwyr a’r gweithle i ddiffodd cyfarpar, tynnu plygiau allan a glanhau’r cyfarpar ar ôl eu defnyddio
4. Y gweithdrefnau cywir ar gyfer storio’r holl eitemau stoc bwyd
5. Y dull cywir o waredu malurion coffi a chynhyrchion te
6. Pam ac i bwy y dylid rhoi gwybod am unrhyw broblemau
7. Y mathau o sefyllfaoedd annisgwyl a all godi wrth gau safle coffi arbenigol ar ôl gwasanaeth a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Cyfarpar
1.1 peiriant espresso
1.2 malwr
1.3 bocs gwastraff
1.4 tampio
1.5 unedau oeri
Stoc
2.1 ffa coffi
2.2 cydau coffi mâl (digaffein)
2.3 bagiau te
2.4 te rhydd
2.5 powdr/surop siocled poeth
2.6 ffrwythau ffres
Eitemau gwasanaeth
3.1 llestri
3.2 cyllyll, ffyrc a llwyau
3.3 llestri gwydr
3.4 napcynau
3.5 cwpanau / cloriau tafladwy
3.6 stensiliau
Cyfwydydd
4.1 llaeth
4.2 siwgr
4.3 powdr ysgeintio
4.4 malws melys
4.5 hufen
4.6 suropau
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL2BS8
Galwedigaethau Perthnasol
Aelod o'r tîm, Gweinydd/Gweinyddes, Staff bar
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Aelod o dîm; Gweinydd/Gweinyddes; Staff Bar; diodydd poeth; coffi; barista