Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â sut yr ydych yn paratoi a gweini diodydd o safle coffi arbenigol. Mae’n cynnwys sut yr ydych yn rhyngweithio â’ch cwsmer er mwyn canfod ei anghenion, sut yr ydych yn gwneud a chyflwyno amrywiaeth o ddiodydd, fel coffi, te, siocled poeth a smwddis.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a sgiliau technegol mae eu hangen i baratoi a gweini diodydd o safle coffi arbenigol. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a gwybodaeth technegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol ym maes arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn lleoliad lletygarwch
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
•
Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
• Paratoi a gweini diodydd o safle coffi arbenigol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Cydnabod eich cwsmeriaid a’u cynorthwyo fel bo angen
2. Sicrhau bod gan eich cwsmeriaid y wybodaeth gywir a’r rhestr gywir i ddewis ohoni
3. Rhoi i’ch cwsmeriaid wybodaeth gywir sy’n ychwanegu at eu profiad, gan ateb cwestiynau a hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau eich cwmni
4. Cynorthwyo’ch cwsmeriaid i wneud dewisiadau lle bo’n briodol ac achub ar gyfleoedd i sicrhau’r archeb fwyaf posibl trwy ddefnyddio technegau gwerthu
5. Cynnig cyfwydydd sy’n briodol i’r ddiod a archebwyd
6. Paratoi diodydd gan ddefnyddio’r mesurau, technegau a chyfarpar a argymhellir, yn brydlon ac yn unol â safon eich gweithle
7. Cadw’r man a chyfarpar paratoi/gwasanaeth yn lân ac yn daclus, a heb sbwriel a thameidiau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and
understand:
1. Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi a gweini diodydd o safle coffi arbenigol
2. Ble ac oddi wrth bwy y gellir cael deddfwriaeth ynghylch iechyd a diogelwch a diogelwch bwyd
3. Pam mae’n bwysig rhoi gwybodaeth gywir i gwsmeriaid am gynhwysion, nodweddion sylfaenol, cyfwydydd priodol a pha mor gryf yw eu diodydd
4. Pam mae’n bwysig rhoi gwybodaeth gywir i gwsmeriaid am gynigion arbennig a hyrwyddiadau
5. Pam mae’n bwysig deall yr amrywiaeth o ddiodydd ar eich rhestr
6. Y dull a thymheredd cywir ar gyfer stemio llaeth a’r technegau mae eu hangen i baratoi amrywiaeth o ddiodydd sy’n seiliedig ar goffi
7. Yr amrywiaeth o gynhyrchion te sydd ar gael, y dulliau o’u cynhyrchu a sut mae hyn yn effeithio ar eu nodweddion a’u blas
8. Beth yw’r technegau a’r tymereddau ar gyfer paratoi a gweini’r amrywiaeth o gynhyrchion te
9. Y dull cywir o baratoi a gweini siocled poeth
10. Beth yw smwddi a’r technegau mae eu hangen i’w gynhyrchu
11. Pam ac i bwy y dylid rhoi gwybod am yr holl ddigwyddiadau sy’n ymwneud â chwsmeriaid
12. Y mathau o sefyllfaoedd annisgwyl a all godi wrth baratoi a gweini diodydd a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1. Coffi
1.1 espresso
1.2 americano
1.3 cappuccino
1.4 latte
1.5 mocha
2.1 te du
2.2 te gwyrdd
2.3 te gwyn
2.4 te wlong
2.5 trwythau perlysiau / ffrwythau
Siocled poeth
3.1 powdr
4.1 ar sail ffrwythau ffres
4.2 ar sail surop
Eitemau gwasanaeth
5.1 llestri
5.2 cyllyll, ffyrc a llwyau
5.3 llestri gwydr
5.4 cwpanau / cloriau tafladwy
5.5 napcynau
6.1 llaeth
6.2 hufen
6.3 siwgr
6.4 powdr ysgeintio
6.5 malws melys
6.6 suropau
Galwedigaethau Perthnasol
Aelod o'r tîm, Gweinydd/Gweinyddes, Staff bar
Geiriau Allweddol
Aelod o dîm; Gweinydd/Gweinyddes; Staff Bar; diodydd poeth; coffi; barista