Paratoi prydau i fodloni safonau maeth perthnasol a osodir ar gyfer prydau ysgol

URN: PPL1PRD5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol,Cynhyrchu a Choginio Bwyd
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi amrywiaeth o brydau iach sy’n bodloni’r safon genedlaethol a osodwyd ar gyfer prydau ysgol. Mae’n delio â sut byddech chi’n paratoi’r prydau yn ddiogel, dulliau coginio / adfywio priodol a sgiliau cyflwyno, ond mae’n sicrhau yn bennaf bod y prydau yn gytbwys yn faethol ac yn bodloni’r canllawiau perthnasol a osodwyd.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi prydau i fodloni’r safonau maeth perthnasol a osodir ar gyfer prydau ysgol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi prydau i fodloni’r safonau maeth perthnasol a osodir ar gyfer prydau ysgol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Sicrhau bod yr ardal baratoi yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
  2. Sicrhau bod y cyfarpar (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, yn briodol i’r dasg, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
  3. Gwirio bod yr holl gynhwysion yn bodloni gofynion y saig, diogelwch bwyd a’ch gweithle
  4. Cydweithio â’r bobl berthnasol i nodi’r cynnwys maethol gofynnol ar gyfer pob saig
  5. Paratoi a choginio / adfywio’r prydau i fodloni gofynion maethol, gan wneud yn siŵr bod lliw, ansawdd, tewychedd a blas y seigiau gorffenedig yn gywir
  6. Sicrhau bod yr holl brydau’n cael eu coginio / hadfywio a’u dal ar y tymheredd cywir
  7. Cyflwyno a gorffen y prydau i fodloni gofynion y cwsmer a’ch gweithle
  8. Storio unrhyw brydau wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â gofynion y gweithle, yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
  9. Rhoi gwybod i’r person priodol am unrhyw broblemau gyda seigiau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen prydau maethlon
  2. Ble i ddod o hyd i’r safonau maethol a chanllawiau’r meintiau dyddiol presennol a osodwyd ar gyfer prydau ysgol
  3. Yr amrywiaeth o wahanol ofynion dietegol arbennig y gallech ddod ar eu traws, a’u heffaith ar gynhyrchu bwyd
  4. Y gwahaniaethau rhwng gofynion dietegol, crefyddol a diwylliannol, a sut mae eich gweithle yn cyfrif am y rhain
  5. Pam mae’n bwysig dilyn gofynion diogelwch bwyd wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen prydau ysgol
  6. Sut i wirio bod y cynhwysion yn bodloni gofynion eich gweithle a’u bod yn addas i’w defnyddio, a bod eu nifer a’u hansawdd yn gywir
  7. Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cynhwysion, ac i bwy
  8. Sut i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio / adfywio a gorffen perthnasol ar gyfer y saig i sicrhau eich bod yn bodloni safonau maethol
  9. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen prydau
  10. Sut i gyflwyno prydau ysgol maethol mewn ffordd sy’n bodloni gofynion cwsmeriaid a’ch gweithle
  11. Y gofynion storio cywir ar gyfer prydau sylfaenol na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
  12. Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen prydau ysgol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL1PRD5

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

Cod SOC

5435

Geiriau Allweddol

paratoi, prydau, safonau, maethol, ysgol