Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â sut yr ydych yn paratoi amrywiaeth o frechdanau poeth ac oer gan gynnwys:
•brechdanau
•rholiau
•byrgers
•parseli (wraps) / fajitas
•paninis
Mae’n ymdrin â pharatoi’r llenwadau a’r cynhyrchion bara gan weithio mewn modd diogel a hylan.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a sgiliau technegol mae eu hangen i baratoi brechdanau poeth ac oer. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a gwybodaeth technegol ar gyfer y safon:
•Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol ym maes arlwyo
•Cynnal diogelwch bwyd yn y gegin
•Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
•Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Paratoi brechdanau poeth ac oer
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Sicrhau bod y man paratoi’n lân, heb ei ddifrodi ac yn barod i’w ddefnyddio yn unol â safon eich gweithle
2. Sicrhau bod y cyfarpar (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, heb eu difrodi, lle dylent fod ac wedi’u cynnau’n barod i’w defnyddio
3. Dewis y cyfarpar cywir ar gyfer y math o frechdan yn unol â safon eich gweithle
4. Paratoi’r brechdanau’n gywir ac yn effeithlon yn unol â safonau’ch gweithle a safonau diogelwch bwyd
5. Storio unrhyw frechdanau a llenwadau na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
6. Cadw’r man paratoi a’r cyfarpar yn lân ac yn daclus a heb sbwriel a thameidiau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and
understand:

Cwmpas/ystod
1. Cynhyrchion bara
1.1 bara wedi’i dafellu
1.2 bara heb ei dafellu
1.3 parseli (wraps)
1.4 rholiau / byns / paninis
2. Llenwadau
2.1 brasterau / taeniadau
2.2 cig a dofednod
2.3 pysgod
2.4 cynhyrchion llaeth
2.5 salad / llysiau / ffrwythau
2.6 sawsiau / dresins / relish
Dulliau paratoi
3.1 tafellu
3.2 paratoi llenwadau
3.3 addurno
3.4 cynhesu / crasu
Cyfarpar
4.1 byrddau torri
4.2 cyllyll
4.3 unedau oeri
4.4 peiriant crasu / peiriant panini
4.5 stof / ffwrn
Galwedigaethau Perthnasol
Pen-cogydd, Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin