Paratoi a choginio grawn

URN: PPL1PC9
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, coginio a gorffen seigiau grawn syml, gan gynnwys defnyddio’r cynhwysion canlynol:
• haidd (gwyn)
• ceirch
• gwenith (cous cous)

Byddwch yn defnyddio’r dulliau paratoi a choginio canlynol:
• berwi
• eu gadael dan orchudd
• mwydo
• hidlo
• brwysio
• ffrio bas

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi a choginio grawn; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi a choginio grawn


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Gwirio bod y grawn yn addas i’w coginio
  2. Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer paratoi a choginio grawn
  3. Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi a choginio grawn
  4. Paratoi’r grawn i fodloni gofynion
  5. Coginio’r grawn yn ôl y gofyn
  6. Gorffen y grawn yn ôl y gofyn
  7. Sicrhau bod y grawn ar y tymheredd cywir i’w dal a’u gweini
    8.S torio unrhyw rawn na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Sut i storio grawn heb eu coginio
  2. Sut i wirio’r grawn i sicrhau eu bod yn addas i’w paratoi a’u coginio
  3. Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r grawn neu gynhwysion eraill, ac i bwy
  4. Yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer y dulliau paratoi a choginio
  5. Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer a’r cyfarpar cywir
  6. Sut i ddefnyddio’r dulliau paratoi a choginio
  7. Yr amserau a’r prosesau coginio cywir ar gyfer grawn
  8. Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini grawn wedi’u coginio
  9. Y gofynion storio cywir ar gyfer seigiau grawn sylfaenol na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith

Cwmpas/ystod

1. Grawn
1.1 haidd (gwyn)
1.2 ceirch
1.3 gwenith (bwlgar, semolina, cous cous)
1.4 cwinoa

2. Dulliau paratoi a choginio
2.1 berwi
2.2 eu gadael dan orchudd
2.3 mwydo
2.4 hidlo
2.5 brwysio
2.6 ffrio bas


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL1PC9

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

Cod SOC

9263

Geiriau Allweddol

paratoi, coginio, grawn