Paratoi a gorffennu seigiau salad a ffrwythau syml
URN: PPL1PC5
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol,Cynhyrchu a Choginio Bwyd
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2016
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â pharatoi a chyflwyno seigiau salad a ffrwythau, er enghraifft:
•saladau ffrwythau
•saladau llysiau
•saladau corbys a ffa
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a sgiliau technegol mae eu hangen i baratoi a gorffennu seigiau salad a ffrwythau syml. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a gwybodaeth technegol ar gyfer y safon:
•Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol ym maes arlwyo
•Cynnal diogelwch bwyd yn y gegin
•Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
•Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Paratoi a gorffennu seigiau salad a ffrwythau syml
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Gwirio’r cynhwysion i sicrhau eu bod yn addas i’w paratoi
2. Dewis yr offer, cyllyll a chyfarpar cywir i baratoi a gorffennu salad a ffrwythau
3. Defnyddio’r offer, cyllyll a chyfarpar yn gywir wrth baratoi a gorffennu salad a ffrwythau
4. Paratoi’r cynhwysion yn gywir ar gyfer y saig
5. Cyflwyno’r saig i fodloni’r gofynion
6. Storio unrhyw eitemau sydd wedi’u paratoi na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Sut i storio salad a ffrwythau cyn iddynt gael eu paratoi
2. Beth ddylech chi chwilio amdano er mwyn sicrhau bod pob math o salad, ffrwythau a chynhwysion eraill yn addas i’w defnyddio
3. Pam ac i bwy y dylech roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r salad, ffrwythau neu gynhwysion eraill
4. Yr offer a chyfarpar cywir ar gyfer y dulliau paratoi
5. Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer a chyfarpar cywir
6. Sut y dylech gyflawni’r dulliau paratoi yn gywir
7. Y gofynion storio cywir ar gyfer seigiau salad a ffrwythau syml na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
Cwmpas/ystod
1.Cynhwysion
1.1 ffrwythau rhewedig
1.2 ffrwythau ffres
1.3 salad ffres
1.4 ffrwythau wedi’u paratoi
1.5 salad wedi’i baratoi
- Paratoi trwy
2.1 bilio / plicio
2.2 trimio
2.3 golchi
2.4 mwydo
2.5 torri
2.6 cymysgu
2.7 sesno
2.8 dogni
2.9 cyflwyno
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL1FC1/16
Galwedigaethau Perthnasol
Pen-cogydd, Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin
Cod SOC
Geiriau Allweddol
paratoi, gorffennu, salad, ffrwythau