Paratoi a choginio cig a dofednod
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi a choginio cig a dofednod ar gyfer prydau syml, er enghraifft:
• stêcs
• byrgyrs
• cytledi
• selsig
• bacwn
• darnau cyw iâr
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi a choginio cig a dofednod; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi a choginio cig a dofednod
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dadmer cig a dofednod os bydd angen, yn gywir a chan ddilyn canllawiau diogelwch bwyd
- Gwirio bod y cig a’r dofednod yn addas i’w coginio
- Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer paratoi a choginio cig a dofednod
- Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi a choginio cig a dofednod
- Paratoi’r cig a’r dofednod i fodloni gofynion
- Coginio’r cig a’r dofednod yn ôl y gofyn
- Gorffen y cig a’r dofednod yn ôl y gofyn
- Sicrhau bod y cig a’r dofednod ar y tymheredd cywir i’w dal a’u gweini
- Storio’r cig neu’r dofednod na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i storio cig a dofednod ffres ac wedi’u rhewi yn gywir cyn eu coginio
- Sut i wirio bod cig a dofednod yn addas i’w paratoi a’u coginio
- Sut i benderfynu p’un a oes angen dadmer cig a dofednod cyn eu coginio a pham mae hyn yn bwysig
- Sut i ddadmer cig a dofednod yn gywir a pham mae hyn yn bwysig
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cig a dofednod neu unrhyw gynhwysion eraill, ac i bwy
- Y tymereddau a’r amserau coginio cywir ar gyfer gwahanol fathau o gig a dofednod
- Yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer y dulliau paratoi
- Sut i baratoi cig a dofednod gan ddefnyddio’r dulliau paratoi cywir
- Yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer y dulliau coginio
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer a’r cyfarpar cywir
- Sut i gyflawni’r dulliau coginio yn gywir
- Sut i benderfynu pa ddulliau coginio sy’n briodol ar gyfer gwahanol fathau o gig a dofednod a sut i sicrhau eu bod wedi’u coginio’n gywir
- Sut i orffen a sesno cig a dofednod yn unol â gofynion
- Y gofynion storio cywir ar gyfer cig a dofednod na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
- Sut i storio cig a dofednod wedi’u coginio na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
Cwmpas/ystod
1. Cig a dofednod
1.1 wedi’u paratoi ymlaen llaw
1.2 heb eu caenu
1.3 stêcs
1.4 golwython
1.5 darnau cyw iâr
2. Dulliau paratoi
2.1 dadmer
2.2 sesno
3. Dulliau coginio
3.1 grilio
3.2 ar gridyll
3.3 ffrio (dwfn / bas)