Paratoi a choginio pysgod

URN: PPL1PC3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol,Cynhyrchu a Choginio Bwyd
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi a choginio pysgod ar gyfer prydau syml, er enghraifft:
• cacen bysgod
• pysgod mewn cytew (wedi’i baratoi)
• pysgod mewn briwsion bara (wedi’i baratoi)
• sgampi (wedi’i baratoi)
• ffiled pysgodyn wedi’i rewi

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi a choginio pysgod; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi a choginio pysgod


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dadmer pysgod os bydd angen, yn gywir ac yn unol â chanllawiau diogelwch bwyd
  2. Gwirio bod y pysgod yn addas i’w coginio
  3. Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer paratoi a choginio pysgod
  4. Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi a choginio pysgod
  5. Paratoi’r pysgod i fodloni gofynion
  6. Coginio’r pysgod yn ôl y gofyn
  7. Gorffen y pysgod yn ôl y gofyn
  8. Sicrhau bod y pysgod ar y tymheredd cywir i’w dal a’u gweini
  9. Storio unrhyw bysgod na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Sut i storio pysgod yn gywir cyn eu coginio
  2. Sut i wirio bod y pysgod yn addas i’w paratoi a’u coginio
  3. Sut i benderfynu p’un a oes angen dadmer pysgod cyn eu coginio a pham mae hyn yn bwysig
  4. Sut i ddadmer pysgod yn gywir a pham mae hyn yn bwysig
  5. Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r pysgod neu unrhyw gynhwysion eraill, ac i bwy
  6. Y tymereddau a’r amserau coginio cywir ar gyfer gwahanol fathau o bysgod
  7. Yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer y dulliau paratoi
  8. Sut i baratoi pysgod yn gywir
  9. Yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer y dulliau coginio
  10. Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer a’r cyfarpar cywir
  11. Sut i gyflawni’r dulliau coginio yn gywir
  12. Sut i benderfynu pa ddulliau coginio sy’n briodol ar gyfer gwahanol fathau o bysgod a sut i sicrhau eu bod wedi coginio’n gywir
  13. Sut i garnisio a chyflwyno pysgod wedi’u coginio yn ôl y gofyn
  14. Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini pysgod
  15. Y gofynion storio cywir ar gyfer cynhyrchion pysgod na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith

Cwmpas/ystod

1. Pysgod
1.1 wedi’u caenu
1.2 heb eu caenu
1.3 wedi’u rhewi
1.4 heb eu rhewi

2. Dulliau paratoi
2.1 dadmer
2.2 caenu

3. Dulliau coginio
3.1 ffrio (dwfn / bas)
3.2 grilio
3.3 pobi


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL1PC3

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

Cod SOC

5435

Geiriau Allweddol

paratoi, coginio, pysgod