Coginio a gorffen cynhyrchion bara a thoes syml
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â choginio a gorffen cynhyrchion bara a thoes syml, er enghraifft:
• toes wedi’i wneud yn ffres
• toes parod wedi’i goginio’n rhannol
Byddwch yn defnyddio’r dulliau coginio a gorffen canlynol:
• pobi
• sgleinio
• ysgeintio
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i goginio a gorffen cynhyrchion bara a thoes syml; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Goginio a gorffen cynhyrchion bara a thoes syml
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio’r cynhyrchion i sicrhau eu bod yn addas i’w coginio
- Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer coginio a gorffen cynhyrchion bara a thoes syml
- Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth goginio a gorffen cynhyrchion bara a thoes syml
- Coginio a gorffen y cynnyrch yn ôl y gofyn
- Sicrhau bod y cynnyrch bara a thoes ar y tymheredd cywir i’w ddal a’i weini
- Storio unrhyw gynhyrchion bara a thoes wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i storio cynhyrchion bara a thoes heb eu coginio
- Sut i wirio i sicrhau bod cynhyrchion bara a thoes yn addas i’w coginio a’u gorffen
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r bara, y toes neu’r cynhwysion eraill, ac i bwy
- Yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer y dulliau coginio a gorffen
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer a’r cyfarpar cywir
- Sut i ddefnyddio’r dulliau coginio a gorffen yn gywir
- Y gofynion storio cywir ar gyfer cynhyrchion bara a thoes syml na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
Cwmpas/ystod
1. Cynhyrchion bara a thoes
1.1 Toes ffres
1.2 Toes parod wedi’i goginio’n rhannol
2. Dulliau paratoi, coginio a gorffen
2.1 Pobi
2.2 Sgleinio
2.3 Ysgeintio