Paratoi a choginio wyau
URN: PPL1PC11
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2016
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â pharatoi, coginio a gorffennu seigiau wyau syml, er enghraifft:
•wyau wedi’u ffrio
•wyau wedi’u sgramblo
•wyau wedi’u berwi
•wyau wedi’u potsio
Mae’n ymdrin â’r technegau paratoi a choginio canlynol:
•cracio
•curo
•sesno
•berwi
•ffrio’n fas
•gradellu
•sgramblo
•potsio
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol mae eu hangen i baratoi a choginio wyau. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
•Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol ym maes arlwyo
•Cynnal diogelwch bwyd yn y gegin
•Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
•Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Paratoi a choginio wyau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Gwirio bod yr wyau a’r cynhwysion eraill yn addas i’w coginio
2. Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir i baratoi a choginio wyau
3. Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi a choginio wyau
4. Paratoi’r wyau i fodloni’r gofynion
5. Coginio’r wyau yn ôl y gofyn
6. Gorffennu’r wyau yn ôl y gofyn
7. Sicrhau bod yr wyau ar y tymheredd cywir i gael eu cadw a’u gweini
8. Storio unrhyw wyau na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Sut i storio wyau amrwd
2. Sut i wirio bod wyau amrwd yn addas i gael eu paratoi a’u coginio
3. Pam ac i bwy y dylech roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r wyau neu gynhwysion eraill
4. Yr offer a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi a choginio
5. Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer a’r cyfarpar cywir
6. Sut i ddefnyddio’r dulliau paratoi a choginio
7. Sut i ddweud a yw wyau wedi’u coginio’n iawn
8. Y tymereddau cywir ar gyfer cadw a gweini wyau wedi’u coginio
9. Y gofynion storio cywir ar gyfer wyau na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
Cwmpas/ystod
1. Dulliau paratoi
1.1 cracio
1.2 curo
1.3 sesno
- Dulliau coginio
2.1 berwi
2.2 ffrio’n fas
2.3 gradellu
2.4 sgramblo
2.5 potsio
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL 1FPC5/16
Galwedigaethau Perthnasol
Pen-cogydd, Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin
Cod SOC
Geiriau Allweddol
paratoi, coginio, wyau