Paratoi a choginio seigiau wedi’u gwneud o blanhigion
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi a choginio cynnyrch ar gyfer seigiau wedi’u gwneud o blanhigion, er enghraifft:
• byrgyrs, selsig neu friwgig Quorn
• tofu
• protein llysiau ansoddedig
Mae’r safon hon yn ymwneud â dulliau paratoi a choginio sy’n gysylltiedig â seigiau wedi’u gwneud o blanhigion a’r gwahanol fathau ohonynt, gan gynnwys seigiau rhewedig, oer a sych.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi a choginio seigiau wedi’u gwneud o blanhigion; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi a choginio seigiau sylfaenol wedi’u gwneud o blanhigion
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio’r cynhwysion wedi’u gwneud o blanhigion i sicrhau eu bod yn addas i’w paratoi a’u coginio
- Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer paratoi a choginio’r cynhwysion wedi’u gwneud o blanhigion
- Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi a choginio’r cynhwysion wedi’u gwneud o blanhigion
- Paratoi a choginio’r cynhwysion wedi’u gwneud o blanhigion i fodloni gofynion
- Coginio’r cynhwysion wedi’u gwneud o blanhigion yn ôl y gofyn
- Cyflwyno’r seigiau wedi’u gwneud o blanhigion yn ôl y gofyn
- Sicrhau bod y saig wedi’i gwneud o blanhigion ar y tymheredd cywir i'w dal a’i gweini
- Storio unrhyw gynhyrchion a baratowyd sydd wedi’u gwneud o blanhigion na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i storio cynhwysion wedi’u gwneud o blanhigion, sydd heb eu coginio, cyn eu coginio
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cynhwysion wedi’u gwneud o blanhigion
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cynhwysion wedi’u gwneud o blanhigion neu gynhwysion eraill, ac i bwy?
- Pam mae’n bwysig osgoi halogi gan gynhyrchion cig a physgod a sut i wneud hynny
- Yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer y dulliau paratoi a choginio
- Sut i gyflawni’r dulliau paratoi a choginio
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer a’r cyfarpar cywir
- Sut i sicrhau bod cynhwysion wedi’u gwneud o blanhigion wedi’u coginio’n gywir
- Y tymereddau cywir ar gyfer dal cynhyrchion wedi’u gwneud o blanhigion
- Sut i storio cynhyrchion wedi’u gwneud o blanhigion sydd wedi’u coginio, ond na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi seigiau wedi’u gwneud o blanhigion
Cwmpas/ystod
1. Protein llysiau
11.1 wedi’i rewi
11.2 oer
11.3 sych
2. Dulliau paratoi a choginio
2.1 dadmer
2.2 marinadu
2.3 ffrio (dwfn / bas / tro ffrio)
2.4 grilio
2.5 ar gridyll
2.6 brwysio