Paratoi llysiau
URN: PPL1PC1
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2016
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â pharatoi llysiau i’w defnyddio mewn seigiau wedi’u coginio neu heb eu coginio, er enghraifft:
•cloron (tubers) – tatws, artisiogau neu datws melys
•gwreiddiau – panas, moron
•pennau blodau – blodfresych, brocoli
•dail – bresych, letys
Byddwch yn paratoi’r llysiau trwy’r dulliau canlynol:
•golchi
•plicio / pilio
•torri – tafellu, torri’n ddarnau a rhwygo
•blansio
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a sgiliau technegol mae eu hangen i baratoi llysiau. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a gwybodaeth technegol ar gyfer y safon:
•Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol ym maes arlwyo
•Cynnal diogelwch bwyd yn y gegin
•Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
•Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Paratoi llysiau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Gwirio bod y llysiau yn addas i gael eu paratoi
2. Dewis yr offer, cyllyll a chyfarpar cywir i baratoi llysiau
3. Defnyddio’r offer, cyllyll a chyfarpar yn gywir wrth baratoi llysiau
4. Paratoi’r llysiau i fodloni’r gofynion
5. Storio unrhyw lysiau sydd wedi'u paratoi na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn ddiogel
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Sut i storio llysiau rhewedig a heb eu rhewi cyn iddynt gael eu paratoi
2. Beth ddylech chi chwilio amdano er mwyn sicrhau bod pob math o lysieuyn yn addas i gael ei baratoi
3. Pam ac i bwy y dylech roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r llysiau
4. Yr offer a chyfarpar cywir ar gyfer pob dull paratoi
5. Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer a chyfarpar cywir
6. Sut y dylech gyflawni pob dull paratoi yn gywir
7. Y gofynion cywir o ran storio llysiau sylfaenol na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
Cwmpas/ystod
1. Llysiau
1.1 cloron (tubers)
1.2 gwreiddiau
1.3 pennau blodau
1.4 dail
1.5 ffrwythau llysiau
1.6 coesynnau
1.7 bylbiau
1.8 ffyngau sylfaenol
- Dulliau paratoi
2.1 golchi
2.2 plicio / pilio
2.3 torri (tafellu / torri’n ddarnau / rhwygo)
2.4 blansio
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL 1FPI/16
Galwedigaethau Perthnasol
Pen-cogydd, Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin
Cod SOC
Geiriau Allweddol
paratoi, llysiau