Helpu i lanhau a chynnal a chadw mannau wedi’u dodrefnu

URN: PPL1HK4
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Cadw Tŷ a Swyddfa Flaen
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymdrin â pharatoi a glanhau wynebau fel pren, plastig a ffabrig. Mae hefyd yn ymdrin â glanhau lloriau a gorchuddion llawr fel carpedi, finyl a chorc. Yn olaf mae’r safon yn ymdrin â gwasanaethu mannau wedi’u dodrefnu, er enghraifft gwirio gwresogyddion/goleuadau a gwagio biniau. Mae i gynorthwywyr cadw tŷ a glanhawyr sy’n glanhau’r mannau hyn yn rheolaidd. Mae glanweithdra a golwg mannau ym mhob math o sefydliadau’n chwarae rhan allweddol wrth sicrhau boddhad gwesteion. Gall gwesteion neu gwsmeriaid wneud sylwadau yn fuan iawn, yn arbennig ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol. Gallai’r mannau hyn fod yn gyntedd mewn gwesty, yn fan i westeion mewn cartref preswyl, neu yn ystafell fwyta mewn llety gwely a brecwast, yn ogystal ag ystafelloedd gwely.

Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:

•Helpu i lanhau a chynnal a chadw mannau wedi’u dodrefnu



Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Glanhau wynebau, dodrefn, gosodiadau a ffitiadau

  1.   Gwirio’r amserlenni ar gyfer y llwyth gwaith arfaethedig
2.   Paratoi’r man gweithio ar gyfer glanhau
3.   Gwirio a pharatoi’r cyfarpar glanhau yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr cyn eu defnyddio
4.   Glanhau wynebau, dodrefn a ffitiadau fel eu bod heb lwch, tameidiau a marciau y gellir eu gwaredu
5.   Dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr wrth ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau
6.   Delio â chyfarpar glanhau yn gywir ar ôl eu defnyddio 
7.   Cyfleu delwedd gadarnhaol o’r sefydliad wrth ddod i gysylltiad â chwsmeriaid ac aelodau eraill o’r staff

Glanhau lloriau a gorchuddion llawr

  1.   Gwirio’r amserlenni ar gyfer y llwyth gwaith arfaethedig
9.   Paratoi’r man gweithio ar gyfer glanhau
10. Gwirio a pharatoi’r cyfarpar a deunyddiau glanhau yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr cyn eu defnyddio
11. Glanhau’r llawr a’r gorchuddion llawr yn ddiogel ac yn systematig
12. Gwirio bod y lloriau a gorchuddion llawr gorffenedig yn sych a heb lwch, budreddi, tameidiau a marciau y gellir eu gwaredu
13. Gwaredu gwastraff a dŵr budr yn gywir ac yn ddiogel
14. Glanhau a storio cyfarpar a deunyddiau glanhau yn gywir ar ôl eu defnyddio
15. Cyfleu delwedd gadarnhaol o’r sefydliad wrth ddod i gysylltiad â chwsmeriaid ac aelodau eraill o’r staff

Gwasanaethu mannau wedi’u dodrefnu

​16. Gwirio bod y systemau gwresogi, goleuo ac awyru wedi’u gosod yn gywir

17. Gwirio bod mannau sydd wedi’u dodrefnu heb aroglau annymunol
18. Gwagio biniau sbwriel a’u gadael yn lân ac yn barod i’w defnyddio
19. Paratoi gwastraff ar gyfer ei gasglu, gan ei ddidoli yn unol â’r gweithdrefnau amgylcheddol a chynaliadwyedd
20. Cyfleu delwedd gadarnhaol o’r sefydliad wrth ddod i gysylltiad â chwsmeriaid ac aelodau eraill o’r staff 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Glanhau wynebau, dodrefn, gosodiadau a ffitiadau

1.Pam mae’n bwysig ystyried amserlenni wrth lanhau a chynnal a chadw mannau wedi’u dodrefnu

2.Pam mae’n bwysig cyfleu delwedd gadarnhaol o’ch sefydliad i gwsmeriaid ac aelodau eraill o’r staff wrth weithio
3.Pam y dylech wisgo cyfarpar diogelu personol wrth lanhau 
4.Pam na ddylech gymysgu deunyddiau glanhau
5.Pam y dylech godi arwyddion perygl a diogelu mannau cyfagos
6.Pam y dylech gael gwared ar holl olion deunyddiau glanhau o wynebau mewnol, dodrefn, gosodiadau a ffitiadau
7.Pa ragofalon y dylech eu cymryd wrth ddefnyddio ysgolion neu symud celfi wrth lanhau
8.Pam y dylech ddiogelu mannau cyfagos wrth lanhau wynebau mewnol, dodrefn, gosodiadau a ffitiadau
9.Pam y dylech ddilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr wrth ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau glanhau
10.Sut i ddelio â chyfarpar ar ôl i chi orffen eu defnyddio
11.Sut i adnabod a rhoi gwybod am gyfarpar mae angen eu hatgyweirio neu eu gwasanaethu
12.Gofynion cyfreithiol sylfaenol ynghylch defnyddio cyfarpar a deunyddiau glanhau
13.Pa ragofalon y dylech eu cymryd wrth weithio uwchben uchder cyrhaeddiad eich llaw

Glanhau lloriau a gorchuddion llawr

14.Pa beryglon a achosir wrth i ddŵr ddod i gysylltiad â chyflenwadau trydan neu fatris wrth lanhau lloriau a gorchuddion llawr

15.Pa ragofalon y dylech eu cymryd i osgoi trydanu wrth lanhau lloriau a gorchuddion llawr
16.Pam y dylech ddilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr wrth ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau glanhau i lanhau lloriau a gorchuddion llawr 
17.Sut i osgoi achosi llithriadau wrth lanhau lloriau a gorchuddion llawr
18.Sut i waredu deunyddiau glanhau sydd wedi’u defnyddio yn ddiogel ac yn gywir

Gwasanaethu mannau wedi’u dodrefnu

19.Beth yw’r gwahanol amodau amgylcheddol a pham mae’n bwysig eu cynnal yn briodol

20.Pam y dylid trin a gwaredu gwastraff yn gywir
21.Beth yw’r gwahanol ffyrdd o ddelio â gwastraff a pham mae’n bwysig defnyddio’r un briodol
22.Pam mae’n bwysig adnabod gwastraff yn gywir a sut gallwch adnabod gwastraff peryglus


Cwmpas/ystod

1.   Paratoi’r man gweithio
1.1 defnyddio cyfarpar diogelu personol
1.2 codi arwyddion perygl
1.3 diogelu’r mannau cyfagos

  1.   Wynebau, dodrefn, gosodiadau a ffitiadau

2.1 pren
2.2 plastig / finyl / linoliwm / deunydd laminedig
2.3 gwydr
2.4 ceramig / cerrig / marmor / gwenithfaen
2.5 metel
2.6 wynebau wedi’u paentio 
2.7 ffabrig

  •   Cyfarpar a deunyddiau

  • 3.1 cyfarpar llaw
    3.2 cyfarpar a bwerir
    3.3 cemegolion glanhau

  •   Gwastraff

  • 4.1 peryglus
    4.2 heb fod yn beryglus

  •   Dulliau casglu

  • 5.1 casgliadau allanol
    5.2 llosgi / cywasgu
    5.3 ailgylchu


    Cwmpas Perfformiad


    Gwybodaeth Cwmpas


    Gwerthoedd


    Ymddygiadau


    Sgiliau


    Geirfa


    Dolenni I NOS Eraill


    Cysylltiadau Allanol


    Fersiwn rhif


    Dyddiad Adolygu Dangosol

    01 Maw 2021

    Dilysrwydd

    Ar hyn o bryd

    Statws

    Gwreiddiol

    Sefydliad Cychwynnol

    People 1st

    URN gwreiddiol

    PPL 1HK4/10

    Galwedigaethau Perthnasol

    Howscipar, Gwasanaethydd ystafell (cadw tŷ), Morwyn ystafell

    Cod SOC


    Geiriau Allweddol

    glanhau, cynnal a chadw, mannau wedi’u dodrefnu