Casglu dillad gwely a chyweirio gwelyau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â thynnu a chyweirio gwelyau, trafod dillad gwely a gorchuddion gwely, ynghyd â chasglu gorchuddion gwely a’u symud i’r ystafelloedd. Mae ar gyfer pobl sy’n gwasanaethu ystafelloedd gwely yn rheolaidd ac yn cyweirio gwelyau, fel gweinyddion ystafelloedd.
Gall y ffordd o gyflwyno gwely helpu i greu awyrgylch croesawgar mewn pob math o sefydliad, gan gynnwys gwestai, cartrefi preswyl neu leoliadau gwely a brecwast. Yn dibynnu ar y sefydliad, gall cwsmeriaid neu westeion gael mwy o ddewis erbyn hyn o ran gobenyddion neu ddillad gwely, gan ychwanegu ymhellach at brofiad y gwestai.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gasglu dillad gwely a chyweirio gwelyau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio amserlenni ar gyfer llwyth gwaith arfaethedig a chynllunio gwaith yn unol â hynny
- Dewis a chasglu’r dillad gwely a lleiniau ystafelloedd ymolchi a gorchuddion gwely sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich amserlen waith
- Sicrhau bod y dillad gwely a’r gorchuddion gwely yn bodloni safonau eich sefydliad
- Trin a symud y dillad gwely a’r gorchuddion gwely yn ddiogel
- Cadw eich storfa dillad gwely yn ddiogel
- Tynnu’r holl ddillad gwely a gorchuddion gwely o’r gwelyau
- Trin a storio dillad gwely a gorchuddion gwely budr yn gywir
- Paratoi’r gwely i’w gyweirio
- Gwirio bod gwaelod y gwely, pen y gwely, dillad gwely a gorchuddion gwely yn lân a heb eu difrodi
- Cyweirio’r gwely gan ddefnyddio’r dillad gwely a’r gorchuddion gwely cywir, yn dibynnu ar y math o gwsmer a’u gofynion personol, os yw’r rhain yn hysbys
- Gadael y gwely yn daclus, heb grychiadau ac yn barod i’w ddefnyddio
- Delio ag eiddo personol cwsmeriaid yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Technegau codi a thrin diogel a pham dylech chi eu defnyddio bob amser
- Safonau eich sefydliad ar gyfer dillad gwely a gorchuddion gwely
- Pam dylech chi gadw dillad gwely budr ar wahân i ddillad gwely glân
- Pam mae’n rhaid i chi gadw’ch dillad gwely a’ch storfa dillad gwely dan glo
- Pam mae’n bwysig archwilio dillad gwely i sicrhau ei fod yn lân ac yn cyrraedd y safon
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd pan fyddwch chi’n dewis ac yn casglu dillad gwely o’r storfa dillad gwely a sut i ddelio â’r rhain
- Y ffordd gywir o ddelio â dillad gwely budr
- Y ffordd gywir o sortio gwahanol ffabrigau
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyweirio ac ailosod cynfasau gwely
- Pam mae’n bwysig defnyddio dillad gwely o’r maint cywir
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r math cywir o obennydd neu ddillad gwely ar gyfer cwsmeriaid neu westeion unigol
- Y mathau o broblemau, gan gynnwys digwyddiadau cwsmeriaid, a all ddigwydd wrth dynnu a chyweirio gwelyau a sut i ddelio â’r rhain
- Sut i adnabod pỳcs neu blâu eraill a, phan fyddant yn bresennol, pa weithdrefnau i’w dilyn
- Beth yw’r goblygiadau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â defnyddio dillad gwely a lleiniau ystafell ymolchi
- Beth yw’r gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am ddifrod
Cwmpas/ystod
1. Dillad gwely a gorchuddion gwely
15.1 cynfasau / gorchuddion duvet / casys gobennydd
15.2 blancedi / duvets
15.3 cwrlidau / carthenni
15.4 cynfasau gwrth-ddŵr
15.5 falansau / gwarchodwyr matresi
15.6 gobenyddion
15.7 lleiniau ystafell ymolchi
15.8 clustogau / gorchuddion glustogau
2. Gwelyau
2.1 gwelyau dwbl / sengl
2.2 crudiau / gwelyau plyg
2.3 sipio a chysylltu
2.4 gwelyau soffa
3. Cwsmeriaid
3.1 newydd
3.2 sy’n aros drosodd
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Digwyddiadau cwsmeriaid
Er enghraifft, mae’r cwsmer yn yr ystafell o hyd neu daw i mewn i’r ystafell tra byddwch chi’n gweithio.