Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo

URN: PPL1GEN8
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu a Choginio Bwyd,Lletygarwch - Cyffredinol,Systemau Dosbarthu Diodydd
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal amgylchedd gweithio diogel a hylan. Mae hyn yn cynnwys cynnal golwg bersonol lân a hylan, trin unrhyw friw a thor-croen a rhoi gwybod am afiechydon a heintiau. Mae hyn hefyd yn cynnwys trin bwyd yn ddiogel ar lefel sylfaenol.

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dilyn safonau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dillad, esgidiau, gorchuddion pen, gwallt, gemwaith, persawr a cholur
  2. Sicrhau bod unrhyw dor-croen, briwiau neu glwyfau yn cael eu trin gan y person cywir
  3. Rhoi gwybod am unrhyw afiechyd a haint yn brydlon i’r person cywir
  4. Golchi dwylo’n gywir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  5. Glanhau arwynebau a chyfarpar trwy ‘lanhau wrth i chi weithio’
  6. Gwaredu gwastraff yn gywir
  7. Trin bwyd yn gywir i atal halogi
  8. Storio bwyd ar y tymheredd cywir

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Eich cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth diogelwch bwyd berthnasol
  2. Pam mae’n bwysig gweithio mewn ffordd ddiogel a hylan
  3. O ble y gallwch gael gwybodaeth am hylendid a diogelwch bwyd yn eich gweithle
  4. Eich cyfrifoldebau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  5. Rheolau cyffredinol ar hylendid y mae’n rhaid i chi eu dilyn, gan gynnwys gweithdrefnau golchi dwylo’n gywir
  6. Pam dylai dillad, esgidiau a gorchuddion pen cywir gael eu gwisgo bob amser
  7. Pam mae’n bwysig cynnal hylendid personol da
  8. Beth dylech chi ei wneud os oes gennych dor-croen, briwiau a chlwyfau a pham mae hyn yn bwysig
  9. Pam mae’n bwysig gwahanu bwyd amrwd a bwyd wedi’i goginio
  10. Pam mae’n bwysig gwahanu bwydydd sy’n cynnwys alergenau
  11. Sut i storio bwyd yn gywir a pham mae hyn yn bwysig
  12. Tymereddau coginio a storio cywir a pham mae’r rhain yn bwysig
  13. Gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer glanhau a pham mae’n bwysig eu dilyn

Cwmpas/ystod

1. Trin bwyd
13.1 paratoi
13.2 coginio
13.3 gweini
13.4 storio


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Mae’r safon hon yn cysylltu â’r holl safonau yng nghyfres lletygarwch y safonau galwedigaethol


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL1GEN8

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin, Aelod o'r tîm, Gweinydd/Gweinyddes, Staff bar, Derbynnydd, Gwasanaethydd ystafell (cadw tŷ), Morwyn ystafell, Technegydd Systemau Dosbarthu Diodydd, Technegydd y Tim Cynnal a Chadw

Cod SOC

9263

Geiriau Allweddol

gwaith; lletygarwch; tîm