Cynnal gofal cwsmeriaid
URN: PPL1GEN3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Cyffredinol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu lefel dda o wasanaeth i’ch cwsmeriaid a helpu i ddelio ag unrhyw broblemau sydd ganddynt.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynnal gofal cwsmeriaid
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwisg a golwg
- Sefydlu a chynnal perthynas broffesiynol a chwrtais gyda’r cwsmer
- Cynnal ffocws ar y cwsmer a’i anghenion
- Delio â cheisiadau cwsmeriaid yn unol â gweithdrefnau gwasanaeth eich sefydliad
- Delio ag unrhyw anghenion ychwanegol sydd gan gwsmeriaid
- Rhoi i’r cwsmer y wybodaeth y mae ar gwsmeriaid ei hangen heb roi unrhyw wybodaeth gyfrinachol iddynt
- Darparu’r gwasanaeth yn gywir a gwirio bod y cwsmer yn fodlon neu os gallwch ei helpu mewn rhyw fodd arall
- Cydnabod pan fydd rhywbeth yn broblem o safbwynt y cwsmer
- Cydnabod problem y cwsmer ac ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra
- Rhoi sicrwydd iddynt y bydd y person priodol yn delio â’r broblem
- Delio â phroblem y cwsmer yn gyflym ac yn ddigynnwrf, gan ddilyn y gweithdrefnau sefydliadol cywir
- Rhoi gwybod i aelod priodol o staff am help os na allwch ddelio â’r broblem eich hun
- Rhoi gwybod i’r cwsmer beth sy’n digwydd
- Sicrhau bod rhywun wedi delio â’r broblem
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gofal cwsmeriaid a sut i roi’r rhain ar waith
- Pwysigrwydd gofal da ar gwsmeriaid i chi a’ch sefydliad
- Pwysigrwydd gwerthoedd a chanllawiau brand / sefydliadol a sut i’w cynrychioli
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwisg a golwg a pham mae’r rhain yn bwysig
- Sut i greu argraff gyntaf dda ar y cwsmer a pham mae hyn yn bwysig
- Pam mae’n bwysig cynnal eich ffocws ar y cwsmer a’i anghenion a sut i ddarganfod a allwch ei gynorthwyo ymhellach
- Sut i helpu’ch cwsmer i deimlo bod croeso iddo ac i ymlacio
- Ceisiadau cyffredin ac arbennig posibl sydd gan gwsmeriaid a sut i ddelio â’r rhain
- Y mathau o gwestiynau posibl sydd gan gwsmeriaid, sut i’w hateb a’r mathau o wybodaeth na ddylech eu rhoi i gwsmeriaid
- Sut i ymddwyn gyda chwsmeriaid pan fyddwch chi’n darparu gwasanaeth a sut i fod yn gwrtais ac yn gymwynasgar ac ymddwyn mewn ffordd sy’n gwneud iddynt deimlo’u bod o bwys
- Pam mae’n bwysig gweld y broblem o safbwynt y cwsmer, cydnabod y broblem ac ymddiheuro i’r cwsmer
- Y mathau o broblemau posibl sydd gan gwsmeriaid a sut i ddelio â’r rhain eich hun
- Mathau o broblemau cwsmeriaid y dylech eu trosglwyddo i aelod arall o’r staff a phwy yw’r aelod hwnnw o staff
- Sefyllfaoedd pan fydd hi’n bwysig esbonio wrth y cwsmer beth sydd wedi achosi’i broblem
- Pam mae’n bwysig rhoi gwybod i’r cwsmer beth sy’n digwydd i ddatrys ei broblem
- Pam mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod y cwsmer yn fodlon â’r hyn rydych chi wedi’i wneud
- Sut gall rhoi gwybod am broblemau cwsmeriaid helpu i wella gofal cwsmeriaid yn y dyfodol
Cwmpas/ystod
1 Cwsmeriaid
17.1 ag anghenion cyffredin
17.2 ag anghenion anghyffredin
2 Problemau
2.1 gyda’r gwasanaeth
2.2 cyfathrebu
2.3 digwyddiadau a damweiniau
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL1GEN3
Galwedigaethau Perthnasol
Aelod o'r tîm, Gweinydd/Gweinyddes, Staff bar, Derbynnydd, Gwasanaethydd ystafell (cadw tŷ), Morwyn ystafell
Cod SOC
9263
Geiriau Allweddol
cynnal, gofal, cwsmeriaid, cwynion, cyfathrebu