Cynnal safonau ardderchog o ymddygiad personol ym maes lletygarwch
URN: PPL1GEN2
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu a Choginio Bwyd,Lletygarwch - Cyffredinol,Systemau Dosbarthu Diodydd
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2016
Trosolwg
Gall ein hymddygiad yn y gweithle gyfrannu’n gadarnhaol at greu amgylchedd cynhyrchiol a chytûn lle gall cyflogeion gael eu hysbrydoli a chyflawni eu potensial llawn. Fodd bynnag, pan mae ymddygiad yn amhriodol neu’n gamweithredol gall gael canlyniadau difrifol i gynhyrchiant, boddhad swydd a lles corfforol a seicolegol y staff. Mae ar holl aelodau’r tîm ddyletswydd gofal i’w gilydd a rhaid iddyn nhw gydymffurfio â safonau brand y sefydliad er mwyn atal a lleihau i’r eithaf ymddygiad a all gael effaith andwyol ar gytgord yn y gweithle a/neu achosi niwed neu anaf i eraill.
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Cynnal safonau ardderchog o ymddygiad personol ym maes lletygarwch
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Ymgyflwyno’n unol â gofynion y sefydliad
2. Trefnu’ch gwaith eich hun i sicrhau’r perfformiad gorau posibl a chyflawni nodau
3. Dilyn gweithdrefnau mewn modd cyson ac ymateb yn gadarnhaol i gyfarwyddyd
4. Defnyddio technoleg mewn ffordd onest y gellir ymddiried ynddi
5. Cydymffurfio â safonau’r brand y tu mewn a’r tu allan i’r sefydliad / cynrychioli eich sefydliad mewn modd cadarnhaol
6. Gweithio gydag uniondeb mewn modd diogel, teg a phroffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Beth yw safonau’r sefydliad a pham maen nhw’n bodoli
2. Sut mae safonau’n amrywio rhwng gwahanol sefydliadau
3. Beth yw safonau brand y sefydliad a pham mae’n bwysig cydymffurfio â nhw
4. Pam mae’n bwysig cydymffurfio â safonau’r sefydliad ar gyfer dillad ac ymgyflwyniad personol
5. Sut i gynrychioli safonau brand eich sefydliad mewn modd cadarnhaol yn fewnol ac yn allanol
6. Sut i drefnu’ch gwaith eich hun a phryd i ofyn am arweiniad neu gymorth
7. Pa ymddygiad sy’n dderbyniol ar safle’r sefydliad ac oddi arno a pham mae’n bwysig ymddwyn fel hyn
8. Sut i hybu safonau’r brand
9. Sut y gall cyfryngau cymdeithasol effeithio ar safonau’r brand
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL1GENA/15
Galwedigaethau Perthnasol
Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin, Aelod o'r tîm, Gweinydd/Gweinyddes, Staff bar, Derbynnydd, Howscipar, Gwasanaethydd ystafell (cadw tŷ), Technegydd Systemau Dosbarthu Diodydd, Technegydd y Tim Cynnal a Chadw
Cod SOC
Geiriau Allweddol
gweithio; lletygarwch; tîm