Cynnal iechyd a diogelwch mewn lletygarwch
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag iechyd a diogelwch sylfaenol mewn amgylchedd lletygarwch. Mae’r safon yn delio â gweithdrefnau i gynnal gweithle iach a diogel, helpu i adnabod peryglon yn y gweithle yn brydlon, a delio â nhw yn unol â gweithdrefnau’r gweithle, a dilyn gweithdrefnau brys yn achos digwyddiadau neu ddamweiniau.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynnal iechyd a diogelwch mewn lletygarwch
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi unrhyw beryglon neu beryglon posibl yn eich ardal weithio
- Delio’n gywir â pheryglon a nodwyd
- Rhoi gwybod am unrhyw ddamweiniau neu ddamweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd, yn gyflym ac yn gywir i’r person priodol
- Dilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch eich sefydliad yn eich holl waith
- Ymarfer gweithdrefnau brys yn gywir
- Dilyn gweithdrefnau diogeledd eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Eich cyfrifoldebau o dan y rheoliadau a’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch perthnasol e.e. y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Pam mae’n bwysig gweithio mewn ffordd iach a diogel
- Y mathau o gyfarpar diogelwch personol i’w gwisgo
- O ble y gallwch gael gwybodaeth am iechyd a diogelwch yn eich gweithle
- Y mathau o beryglon y gallwch ddod ar eu traws yn eich gweithle a sut i ddelio â’r rhain o fewn terfynau eich awdurdod
- Sut i rybuddio pobl eraill am beryglon a pham mae hyn yn bwysig
- Pam a sut dylech chi roi gwybod am ddamweiniau a damweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd ac i bwy dylech chi roi gwybod amdanynt
- Mathau o ddigwyddiadau ac argyfyngau a allai ddigwydd yn eich gweithle
- Sut i ddilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio â digwyddiadau ac argyfyngau a pham mae’n bwysig gwneud hynny
- Ble i ddod o hyd i gyfarpar cymorth cyntaf a phwy yw’r swyddog cymorth cyntaf penodedig yn eich gweithle
- Ffyrdd o weithio’n ddiogel sy’n berthnasol i’ch swydd, gan gynnwys technegau codi a chario diogel, a pham mae’r rhain yn bwysig
- Achosion posibl tân yn eich gweithle a beth gallwch chi ei wneud i leihau risg tân
- Ble i ddod o hyd i larymau tân, pryd a sut i’w canu
- Pam na ddylech chi fyth fynd yn agos at dân oni bai ei bod hi’n ddiogel gwneud hynny
- Pam mae’n bwysig dilyn rheoliadau diogelwch tân
Cwmpas/ystod
1. Peryglon
15.1 yn gysylltiedig â chyfarpar
15.2 yn gysylltiedig â thasgau
15.3 yn gysylltiedig ag ardaloedd lle’r ydych chi’n gweithio
15.4 yn gysylltiedig â dillad personol
2. Ffyrdd o ddelio â pheryglon
2.1 eu cywiro eich hun
2.2 rhoi gwybod i gydweithwyr priodol amdanynt
2.3 rhybuddio pobl eraill
3. Gweithdrefnau brys
3.1 tân
3.2 bygythiad
3.3 diogeledd