Paratoi, gwasanaethu a chlirio ystafelloedd cyfarfod a chynadledda
URN: PPL1FOH8
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Cadw Tŷ a Swyddfa Flaen
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2016
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â sicrhau bod ystafelloedd cyfarfod a chynadledda’n cael eu paratoi, eu gwasanaethu a’u clirio yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad. Mae i borthorion cynadleddau, derbynyddion ac o bosibl porthorion nos. Mae’n ymdrin â gwirio offer gwresogi a goleuo, gosod celfi a chyfarpar, a threfnu ac ailstocio eitemau fel deunydd ysgrifennu, diodydd a llestri gwydr mewn ystafelloedd achlysuron. Mae hefyd yn ymdrin â chlirio a chloi’r ystafell ar ôl iddi gael ei defnyddio.
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Paratoi, gwasanaethu a chlirio ystafelloedd cyfarfod a chynadledda
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Casglu unrhyw wybodaeth sydd wedi’i chyflenwi am ofynion y cwsmer oddi wrth yr adran neu berson perthnasol
2. Cysylltu â threfnydd y cyfarfod/gynhadledd fel bo angen
3. Gwirio bod y systemau gwresogi a goleuo’n gweithio
4. Dilyn cyfarwyddiadau ar gyfer trefnu celfi a chyfarpar
5. Gwirio bod eitemau ar y byrddau’n lân, heb eu difrodi ac wedi’u gosod yn unol â chais y cwsmer
6. Gwirio bod y cyfarpar yn barod i’r cwsmer eu defnyddio
7. Cadw’r ystafell yn lân, yn daclus ac â stoc ddigonol
8. Ailstocio unrhyw eitemau yn ôl y gofyn yn ystod egwyliau
9. Sicrhau diogelwch yr ystafell yn unol â chais y cwsmer yn ystod egwyliau
10. Trefnu’r celfi a’r eitemau ar y byrddau a ddylai aros yn yr ystafell
11. Storio celfi eraill, cyfarpar eraill ac eitemau eraill ar y byrddau yn y man iawn
12. Casglu unrhyw lestri a llestri gwydr budr yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
13. Diffodd unrhyw offer trydanol yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
14. Gadael yr ystafell yn barod i gael ei glanhau
15. Ailosod y systemau gwresogi a goleuo
16. Cloi’r ystafell os yw’n ofynnol gwneud hynny
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Safonau’ch sefydliad o ran gofal cwsmeriaid a sut i gysylltu â chwsmeriaid yn ystod cynadleddau a chyfarfodydd
2. Gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad
3. Ble dylech gael cyfarwyddiadau ynghylch sut i drefnu’r ystafell
4. Pam mae’n rhaid gwirio’r holl gelfi ac eitemau o gelfi o ran glanweithdra a difrod
5. Pam mae’n rhaid i chi ddefnyddio technegau codi a thrin cywir wrth symud celfi ac eitemau trwm eraill
6. Sut i reoli systemau gwresogi a goleuo
7. Sut i wirio cyfarpar fel sgriniau, taflunyddion, siartiau troi a chyfarpar clyweledol eraill
8. Ble i ddod o hyd i eitemau y gall fod angen rhai newydd ohonyn nhw fel padiau siart droi, ysgrifbinnau, papur a lluniaeth
9. Pam mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod yr ystafelloedd cynadledda a chyfarfod yn ddiogel pan nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio
10. Y mathau o broblemau a all godi wrth i chi baratoi a gwasanaethu ystafelloedd cyfarfod a chynadledda a sut i ddelio â’r rhain
11. Sut i drefnu’r ystafell ar ôl i gyfarfod neu gynhadledd ddod i ben
12. Ble dylech storio celfi, cyfarpar ac eitemau eraill nad ydyn nhw’n aros yn yr ystafell
13. Sut i wneud yn siŵr bod yr ystafell yn barod i gael ei glanhau
14. Y mathau o broblemau a all godi wrth i chi glirio ystafelloedd a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1. Gwybodaeth
1.1 lafar
1.2 ysgrifenedig
Cyfarpar
2.1 sgriniau
2.2 taflunyddion
2.3 siartiau troi
2.4 mathau eraill o gyfarpar clyweledol
Eitemau ar fyrddau
3.1 gorchuddion bwrdd
3.2 llestri gwydr
3.3 ysgrifbinnau a phapur
3.4 lluniaeth
3.5 addurniadau
Cwmpas Perfformiad
1. Cyfarpar clyweledol eraill
1.1 Er enghraifft, systemau sain
2. Gweithdrefnau diogelwch
2.1 Gweithdrefnau ar gyfer cloi a datgloi ystafelloedd a gwylio am bobl amheus
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL1FOH8
Galwedigaethau Perthnasol
Derbynnydd
Cod SOC
Geiriau Allweddol
paratoi, gwasanaethu, clirio, ystafelloedd, cyfarfod, cynadledda