Derbyn, symud a storio eiddo cwsmeriaid a’r sefydliad
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chadw eiddo cwsmeriaid a’r sefydliad yn ddiogel. Mae ar gyfer pobl sy’n derbyn, yn symud neu’n storio eitemau a gallent fod yn dderbynnydd neu’n borthor. Mae’n ymwneud â storio bagiau, cotiau ac eitemau eraill. Hefyd, mae’n ymwneud â symud pethau fel dodrefn a chyfarpar trydanol, a’u cadw’n ddiogel.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Derbyn, symud a storio eiddo cwsmeriaid a’r sefydliad
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Delio â’ch cwsmeriaid yn gyflym, yn gwrtais ac yn gymwynasgar
- Cymryd eiddo cwsmeriaid a rhoi derbynneb iddynt pan fydd angen
- Diogelu eiddo cwsmeriaid yn unol â safonau’r sefydliad
- Rhoi gwybod i aelod priodol o staff am unrhyw eiddo amheus gan gwsmeriaid
- Dewis y ffordd orau a mwyaf diogel o symud yr eiddo
- Codi a symud eiddo’n ddiogel heb anafu eich hun neu bobl eraill nac achosi difrod
- Amddiffyn eiddo yn erbyn colled neu ddifrod
- Symud eiddo i’r man cywir ar yr adeg gywir
- Amddiffyn yr eiddo rhag cael ei gymryd heb ganiatâd
- Llenwi unrhyw gofnodion storio yn gywir
- Cadw eich ardal storio yn ddiogel, yn lân, yn daclus ac yn hylan
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Cyfrifoldebau eich sefydliad am storio eiddo cwsmeriaid
- Pam mae’n bwysig delio â chwsmeriaid yn gyflym, yn gwrtais ac yn gymwynasgar
- Y ffordd gywir o gyfarch a delio â chwsmeriaid
- Y ffordd gywir o gymryf eiddo oddi wrth y cwsmer
- Pam y gallai fod yn bwysig rhoi derbynneb gywir i’r cwsmer ar gyfer eu heiddo
- Sut i adnabod eiddo amheus a beth ddylech chi wneud amdano
- Sut i benderfynu p’un ai i symud eiddo trwy ei gario neu gan ddefnyddio troli
- Y mathau o anafiadau y gallent ddigwydd wrth godi a symud gwahanol fathau o eiddo
- Technegau codi a thrin y dylech eu defnyddio i’ch atal chi rhag anafu eich hun ac anafu pobl eraill a difrodi eiddo
- Dillad ac esgidiau priodol i’w gwisgo wrth drin eiddo trwm neu fudr
- Sut i osgoi colli eiddo pan fyddwch chi’n ei symud a’i storio
- Sut i osgoi bod rhywun yn mynd ag eiddo heb ganiatâd
- Ble dylech chi storio eiddo cwsmeriaid
- Y mathau o broblemau a allai ddigwydd pan fyddwch chi’n symud eiddo a beth i’w wneud am y rhain
- Pam y gallai fod yn bwysig cadw cofnodion storio a sut i’w llenwi
- Pam dylech chi gadw ardaloedd storio yn ddiogel, yn lân, yn daclus ac yn hylan a sut dylech chi wneud hyn
- Y mathau o broblemau y gallech ddod ar eu traws gydag ardaloedd storio a beth i’w wneud am y problemau hyn
Cwmpas/ystod
1. Eiddo cwsmeriaid
1.1 bagiau
1.2 cotiau ac eitemau dillad eraill
1.3 pethau gwerthfawr
2. Eiddo’r sefydliad
2.1 dodrefn
2.2 cyfarpar trydanol
2.3 bagiau
2.4 eiddo arall
3. Ffyrdd o symud eiddo
3.1 ei gario
3.2 defnyddio troli
4. Mannau y mae eiddo’n cael ei symud iddynt
4.1 llety cwsmeriaid
4.2 ardaloedd cyhoeddus
4.3 ardaloedd storio
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Aelod priodol o staff
Y person sy’n eich goruchwylio chi neu sy’n gyfrifol am ddelio â’r cwsmer
Cwsmeriaid
Gallai’r rhain fod yn bobl sy’n aros yn y man lle’r ydych chi’n gweithio neu bobl sy’n defnyddio’r man ar gyfer digwyddiadau fel cynadleddau, ciniawau, cyfarfodydd ac ati.
Eiddo cwsmeriaid
Er enghraifft, bagiau ac eiddo eraill y mae cwsmeriaid am iddynt gael eu storio’n ddiogel hyd nes byddant yn eu casglu
Hylan
Er enghraifft, dim gollyngiadau bwyd neu ddiod, dim tystiolaeth o blâu fel llygod, llygod mawr neu chwilod du (cocrotsis)
Ardaloedd storio
Mannau lle’r ydych chi’n storio eiddo
Eitemau amheus
Unrhyw beth a allai fod yn anghyfreithlon neu achosi niwed a difrod, yn eich barn chi