Cyfrannu at ddatrys problemau busnes
URN: PPL1FOH10
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Cadw Tŷ a Swyddfa Flaen
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2016
Trosolwg
Mae’r safon hon i aelodau o’r staff sy’n ymwneud â datrys problemau sy’n gysylltiedig â’r busnes. Rhai o’r swyddi a allai fod yn gysylltiedig â’r lefel hon yw dirprwy brif dderbynyddion, arweinwyr shifftiau neu swyddi ar lefel debyg. Mae’n cynnwys gwirio’ch dealltwriaeth o’r broblem, gofyn am gyngor ar sut i ddelio â hi a chytuno sut i adnabod pryd mae wedi cael ei datrys. Gallai hwn fod yn ddull rhagweithiol ac adweithiol o ddatrys problemau. Gyda mwyfwy o ddibyniaeth ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol wrth ddewis sefydliad lletygarwch mae ymdrin â chwynion yn hanfodol i unrhyw fath o fusnes lletygarwch.
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Cyfrannu at ddatrys problemau busnes
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Gwirio’ch dealltwriaeth o’r broblem busnes
2. Dangos empathi i’r cwsmer wrth iddo esbonio’r broblem
3. Cymryd cyfrifoldeb am y broblem lle bo’n bosibl
4. Trafod y broblem busnes gyda phobl eraill
5. Gofyn am gyngor ar sut i ddelio â’r broblem busnes
6. Rhoi diweddariadau i gwsmeriaid ar y cynnydd sy’n cael ei wneud wrth ddatrys y broblem os nad yw’n cael ei datrys ar unwaith
7. Cytuno sut i adnabod pryd mae’r broblem busnes wedi cael ei datrys
8. Defnyddio cymorth ac adborth gan bobl eraill i helpu i ddatrys y broblem busnes
9. Cadarnhau gyda’r cwsmer bod y broblem wedi cael ei datrys cyn iddo adael y sefydliad lle bynnag y bo’n bosibl
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Sut i adnabod problem busnes
2. Sut i fod yn empathig wrth gwsmer
3. Gwahanol ffyrdd i ddatrys problemau busnes
4. Gwahanol ffyrdd o adnabod pryd mae problem busnes wedi cael ei datrys
5. Sut i roi diweddariadau i gwsmer ar y cynnydd sy’n cael ei wneud wrth ddatrys y broblem
6. Y rhesymau dros ddefnyddio cymorth ac adborth gan bobl eraill
7. Sut i sicrhau nad yw cwsmeriaid yn gadael y sefydliad heb i’r broblem gael ei datrys
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Council for Administration
URN gwreiddiol
Uned BAG125
Galwedigaethau Perthnasol
Derbynnydd
Cod SOC
Geiriau Allweddol
cyfrannu, datrys, problemau, busnes