Paratoi a chlirio ardaloedd ar gyfer gwasanaeth bwyd a diod
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n paratoi ardal y gwasanaeth bwyd yn barod ar gyfer eich cwsmeriaid ac yn ei chlirio ar ddiwedd y gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys paratoi’r cyfarpar, fel troliau ac oergelloedd, eitemau gwasanaeth fel llestri a hambyrddau, a sicrhau bod ardal y gwasanaeth bwyd wedi’i gosod yn gywir cyn y gwasanaeth.
Mae’r safon yn gorffen gyda chlirio ardaloedd y gwasanaeth bwyd a chiniawa yn effeithlon a storio cyfarpar a halen a phupur/sawsiau yn gywir.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi a chlirio ardaloedd ar gyfer gwasanaeth bwyd a diod; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd lletygarwch
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi a chlirio ardaloedd ar gyfer gwasanaeth bwyd a diod
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod ardal y gwasanaeth bwyd yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Gwirio bod cyfarpar y gwasanaeth yn lân, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
- Gwirio bod gennych ddigon o gyflenwad o eitemau gwasanaeth sy’n lân, heb ddifrod, yn barod i’w defnyddio ac wedi’u storio’n briodol
- Paratoi halen a phupur/sawsiau a chyfwydydd, a’u storio’n briodol yn barod ar gyfer y gwasanaeth
- Arddangos eitemau bwyd yn unol â gweithdrefnau eich gweithle mewn ffordd a fydd yn hybu gwerthiannau ac yn apelio i’ch cwsmeriaid, os yw’n berthnasol
- Gwirio bod ardaloedd cwsmeriaid yn lân, heb ddifrod ac wedi’u gosod yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Gwirio bod eitemau gwasanaeth yn lân, heb ddifrod ac wedi’u gosod yn barod ar gyfer cwsmeriaid
- Gwirio bod bwydlenni ac eitemau hyrwyddo yn lân, yn gywir, yn gyfredol ac yn barod i gwsmeriaid eu defnyddio
- Gwirio bod ardal y cwsmeriaid yn ddeniadol ac yn groesawgar i gwsmeriaid, yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Wrth lanhau, gwirio bod eitemau gwasanaeth, eitemau bwyd, halen a phapur/sawsiau a chyfwydydd wedi’u casglu i’w glanhau neu fod eitemau ailddefnyddadwy yn cael eu storio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle a rheoliadau hylendid bwyd
- Gwaredu sbwriel a gwastraff bwyd yn briodol
- Gwirio bod holl gyfarpar y gwasanaeth yn lân, wedi’i ddiffodd ac wedi’i storio’n gywir
- Gwirio bod ardal y gwasanaeth yn lân ac yn barod ar gyfer y gwasanaeth nesaf
- Gwirio bod ardaloedd cwsmeriaid a dodrefn yn lân, yn daclus ac yn barod ar gyfer y gwasanaeth nesaf
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan ar gyfer paratoi ardaloedd gwasanaeth ac ardaloedd cwsmeriaid a’r cyfarpar cywir ar gyfer gwasanaeth bwyd a diod
- Arddull a gweithdrefnau gwasanaeth eich gweithle
- Pam dylid gwirio a pharatoi halen a phupur/sawsiau a chyfwydydd a’u paratoi’n barod ar gyfer y gwasanaeth
- Pryd i baratoi ardaloedd a chyfarpar gwasanaeth yn barod ar gyfer gwasanaeth
- Pam dylid cynnal stoc gyson o eitemau gwasanaeth bwyd
- Pam mae’n rhaid dilyn safonau cyflwyno a diogelwch bwyd wrth arddangos bwyd
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi a chlirio ardaloedd gwasanaeth a sut i ddelio â’r rhain
- Pam dylid gwirio pob eitem gwasanaeth cyn y gwasanaeth
- Pam dylid gwirio bwydlenni ac eitemau hyrwyddo cyn eu defnyddio
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi a chlirio ardaloedd cwsmeriaid a sut i ddelio â’r rhain
- Arferion gweithio diogel a hylan ar gyfer clirio ardaloedd gwasanaeth ac ardaloedd cwsmeriaid ar ôl gweini bwyd a diod
- Pam dylai’r holl ardaloedd gwasanaeth bwyd ac ardaloedd cwsmeriaid gael eu gadael yn lân ar ôl gwasanaeth
- Pam dylai cyfarpar trydanol penodol gael ei ddiffodd ar ôl gwasanaeth
- Pam mae’n rhaid trin a gwaredu gwastraff yn gywir
- Pam dylid mynd â bwydydd darfodus o’r ardal ar ôl y gwasanaeth a’u storio’n gywir yn y gegin
- Pa fathau o broblemau a all ddigwydd wrth glirio ardaloedd ar ôl gwasanaeth bwyd a diod a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1 Arddull y gwasanaeth
16.1 gwasanaeth wrth y bwrdd
16.2 gwasanaeth ar hambwrdd
16.3 gwasanaeth wrth y cownter / tecawe
16.4 gwasanaeth troli
16.5 gwasanaeth bwffe / cerfdy
2 Ardal waith
2.1 ardal weini
2.2 ardal cwsmeriaid
3 Cyfarpar gwasanaeth
3.1 Unedau gweini diodydd poeth / oer
3.2 unedau oergell
3.3 unedau wedi’u cynhesu
3.4 unedau gweini / arddangos
4 Eitemau gwasanaeth (tafladwy/ailddefnyddadwy)
4.1 hambyrddau
4.2 cynwysyddion / llestri bwyd
4.3 cytleri
4.4 gorchuddion bwrdd
4.5 napcynnau
4.6 bwydlenni / eitemau hyrwyddo
4.7 cynwysyddion diodydd
4.8 teclynnau gweini
4.9 eitemau addurnol
5 Halen a phapur/sawsiau a chyfwydydd
5.1 sesnin
5.2 siwgrau / melysyddion
5.3 sawsiau / dresins wedi’u paratoi
5.4 eitemau bara wedi’u paratoi