Cefnogi cleientiaid i adolygu cynlluniau gweithredu

URN: LSIAG419
Sectorau Busnes (Suites): Cyngor Cyfreithiol,Cyngor ac Arweiniad,Gwasanaethau Cynnal Datblygiad Dysgu (adolygwyd yn 2009)
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo cleientiaid trwy roi cyngor ac arweiniad i adolygu eu cynlluniau gweithredu cyflawniad. Mae wedi'i bwriadu ar gyfer pobl sy'n darparu cyngor a chyfarwyddyd i gleientiaid sy'n defnyddio gwasanaethau megis gwasanaethau cyhoeddus, addysg a hyfforddiant, gwasanaethau iechyd a'r rhai sy'n cael eu darparu gan weithwyr lles proffesiynol ac eraill. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. darparu cyfleoedd i gleientiaid adolygu cynnydd a chyflawniadau'r camau gweithredu sydd ar waith  2. cadarnhau'r camau gweithredu a gymerwyd, mewn ffyrdd sy'n diwallu anghenion cleientiaid  3. adolygu amcanion allweddol a chyfnodau'r camau gweithredu gyda'r cleient 4. cytuno gyda chleientiaid ar yr amcanion a gyflawnwyd, a'r rhai na chyflawnwyd  5. adolygu addasrwydd y dulliau a ddefnyddir gan gleientiaid i roi'r camau gweithredu ar waith, yn unol ag arfer da cydnabyddedignodi materion a wynebwyd wrth roi'r camau gweithredu ar waith  6. darparu cyfleoedd addas i gleientiaid gasglu adborth am gynnydd  7. cydymffurfio â'r holl ofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol perthnasol yng nghyswllt cynorthwyo cleientiaid i adolygu cyflawniad cynlluniau gweithredu 8. cofnodi rhyngweithiadau, yn unol â gofynion sefydliadol​​

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. ​pwy​sigrwydd cydymffurfio â gofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl 2. deddfwriaeth, codau ymarfer, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol mewn perthynas â rôl y swydd/y gweithgareddau a gynhaliwyd 3. gwahanol ddulliau cyfathrebu a sut mae eu haddasu at anghenion a dewisiadau'r cleientiaid 4. modelau perthnasol  o arfer da ar gyfer cynorthwyo cleientiaid i adolygu eu cyflawniadau  5. gweithdrefnau ar gyfer adolygu cynnydd, gan gynnwys;pa mor aml dylid adolygu cynnydd a chyflawniadau  6. sut mae canfod y camau gweithredu a gymerwyd  7. sut mae adolygu'r amcanion a'r cyfnodau allweddol  8. sut mae nodi'r cyflawniadau  9. beth yw'r arwyddion nad yw'r amcanion wedi cael eu cyflawni  10. y dulliau a ddefnyddir ar gyfer rhoi gwahanol gamau gweithredu ar waith  11. pam gallai dulliau gwahanol fod yn addas ar gyfer cleientiaid a pha fathau o broblemau y gall cleientiaid ddod ar eu traws wrth ddefnyddio gwahanol ddulliau  12. sut mae asesu effeithiolrwydd gwahanol ddulliau  13. y mathau o faterion a allai godi, y camau i'w cymryd i ymdrin â hwy, a goblygiadau peidio â gwneud hynny  14. sut mae casglu gwybodaeth am y gofynion ar gyfer adolygu cynlluniau gweithredu 15. pa fathau o adborth y dylid eu darparu  16. gofynion cofnodi eich sefydliad, gan gynnwys sut mae storio gwybodaeth a gofnodwyd yn ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Chwef 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau ar gyfer Gofal a Datblygiad

URN gwreiddiol

SFD419

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Addysgu, Ymgynghorwyr Gyrfaoedd ac Arbenigwyr Cyfarwyddyd Galwedigaethol, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Paratoi ar gyfer Gwaith, Gweithwyr canolfan alwadau/gyswllt, Gweithwyr proffesiynol ym maes lles, Ymgynghorwyr addysg ac arolygwyr ysgolion, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cyngor; cymorth; cyflawniad