Darparu a chynnal deunyddiau gwybodaeth i'w defnyddio yn y gwasanaeth

URN: LSIAG310
Sectorau Busnes (Suites): Cyngor Cyfreithiol,Cyngor ac Arweiniad,Gwasanaethau Cynnal Datblygiad Dysgu (adolygwyd yn 2009)
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu a chynnal deunyddiau gwybodaeth i'w defnyddio yn y gwasanaeth. Mae wedi'i bwriadu ar gyfer pobl sy'n darparu cyngor a chyfarwyddyd i gleientiaid sy'n defnyddio gwasanaethau megis gwasanaethau cyhoeddus, addysg a hyfforddiant, gwasanaethau iechyd a'r rhai sy'n cael eu darparu gan weithwyr lles proffesiynol ac eraill.
  
Mae’r safon yn cwmpasu sut mae nodi’r gofynion o ran deunyddiau gwybodaeth yn y gwasanaeth, sut mae casglu deunyddiau gwybodaeth i’w defnyddio, a sut mae cynnal a gwella’r defnydd o ddeunyddiau gwybodaeth yn y gwasanaeth. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. nodi ffyrdd o ddefnyddio deunyddiau gwybodaeth, yn unol â gofynion sefydliadol 
2. nodi problemau wrth gasglu deunyddiau gwybodaeth, yn unol â gofynion sefydliadol
3. nodi unrhyw dueddiadau neu ddatblygiadau o ran lledaenu deunyddiau gwybodaeth 
4. nodi'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer casglu deunyddiau gwybodaeth, yn unol â gofynion sefydliadol 
5. pennu'r deunyddiau gwybodaeth y dylid eu sicrhau, yn unol â gofynion sefydliadol
6. archwilio gofynion y dyfodol o ran deunyddiau gwybodaeth
7. ymgynghori â ffynonellau perthnasol ynghylch effeithiolrwydd y deunyddiau gwybodaeth a ddefnyddiwyd 
8. cytuno ar derfynau amser ac adnoddau ar gyfer sicrhau deunyddiau gwybodaeth 
9. casglu deunyddiau gwybodaeth addas sy'n cyfrannu at y gwasanaeth 
10. amddiffyn ffynonellau gwybodaeth rhag niwed a defnydd neu addasu amhriodol 
11. asesu effeithiolrwydd cyffredinol deunyddiau gwybodaeth 
12. nodi meysydd ar gyfer gwella deunyddiau gwybodaeth 
13. nodi'r adnoddau sy'n ofynnol i roi gwelliannau ar waith 
14. cyflwyno rhesymeg glir ar gyfer gwelliannau, ochr yn ochr â darparu tystiolaeth i gefnogi hynny 
15. cofnodi rhyngweithiadau, yn unol â gofynion sefydliadol
16. cydymffurfio â'r holl ofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol perthnasol yng nghyswllt darparu a chynnal deunyddiau gwybodaeth i'w defnyddio mewn gwasanaethau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. pwysigrwydd cydymffurfio â gofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol perthnasol 
2. deddfwriaeth, codau ymarfer, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol mewn perthynas â rôl y swydd/y gweithgareddau a gynhaliwyd
3. y mathau o ddeunyddiau gwybodaeth a ddefnyddiwyd, pa agweddau o'r gwasanaeth maen nhw'n eu cwmpasu, pa gleientiaid sy'n eu defnyddio a pha fformat dylen nhw fod ynddo  
4. pwy ddylai ymwneud ag adolygu deunyddiau gwybodaeth 
5. sut mae casglu gwybodaeth am y gofynion 
6. faint o bobl sy'n defnyddio deunyddiau gwybodaeth, pwy yw'r cleientiaid, a phwy sy'n gallu darparu gwybodaeth am ddefnyddio deunyddiau
7. pwy sy'n gallu darparu gwybodaeth am ofynion y dyfodol o ran deunyddiau gwybodaeth a beth yw'r gofynion posibl 
8. amrywiadau tymhorol neu eraill o ran y galw am ddeunyddiau gwybodaeth 
9. tueddiadau neu ddatblygiadau a allai ddigwydd 
10. sut mae asesu effaith technolegau gwybodaeth a chyfathrebu 
11. yr adnoddau sydd ar gael a beth yw'r cyfyngiadau posibl 
12. pwy sydd angen gwybodaeth am y deunyddiau gwybodaeth sy'n cael eu casglu 
13. dulliau o gasglu deunyddiau gwybodaeth
14. pa mor aml dylai deunyddiau/ffynonellau gwybodaeth gael eu diweddaru, a phwy ddylai ymwneud â'u hadolygu
15. sut mae amddiffyn gwahanol fathau a fformatau o ddeunyddiau a ffynonellau gwybodaeth
16. mathau posibl o ddifrod a allai ddigwydd i ddeunyddiau gwybodaeth 
17. sut gallai ffynonellau gwybodaeth gael eu defnyddio neu eu haddasu'n amhriodol 
18. pa wybodaeth y gellir ei chasglu ynghylch effeithiolrwydd deunyddiau gwybodaeth 
19. pa agweddau ar ddeunyddiau gwybodaeth allai gael eu gwella 
20. sut mae asesu effeithiolrwydd deunyddiau gwybodaeth a meini prawf gwerthuso 
21. sut mae gwella gwahanol fathau o ddeunyddiau gwybodaeth a'r dystiolaeth sy'n angenrheidiol i gefnogi'r rhesymeg ar gyfer gwelliannau
22. pam mae'n bwysig darparu rhesymeg glir ar gyfer gwelliannau
23. yr adnoddau sy'n ofynnol i roi gwahanol fathau o welliannau ar waith 
24. â phwy y dylid ymgynghori ar welliannau i ddeunyddiau gwybodaeth 
25. gofynion cofnodi eich sefydliad, gan gynnwys sut mae storio gwybodaeth a gofnodwyd yn ddiogel 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Chwef 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cyngor ac Arweiniad

URN gwreiddiol

​AG21

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gweithiwr Proffesiynol ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Paratoi ar gyfer Gwaith, Gweithwyr canolfan alwadau/gyswllt, Ymgynghorwyr gyrfaoedd ac arbenigwyr ar gyfarwyddyd galwedigaethol, Gweithwyr proffesiynol ym maes lles, Ymgynghorwyr addysg ac arolygwyr ysgolion, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gwybodaeth; deunyddiau; rhwydweithiau