Cefnogi cleientiaid trwy'r broses gyfryngu

URN: LSIAG29
Sectorau Busnes (Suites): Cyngor ac Arweiniad
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â'r camau y mae angen eu cymryd wrth gefnogi cleientiaid trwy'r broses gyfryngu. Mae wedi'i bwriadu ar gyfer pobl sy'n darparu cyngor a chyfarwyddyd i gleientiaid sy'n defnyddio gwasanaethau megis gwasanaethau cyhoeddus, addysg a hyfforddiant, gwasanaethau iechyd a'r rhai sy'n cael eu darparu gan weithwyr lles proffesiynol ac eraill. Mae'r safon yn edrych ar sut mae'r cyfryngwr ar y cychwyn yn ceisio canfod materion gyda chleientiaid, sut maen nhw'n archwilio materion, eu helpu i nodi a gwerthuso'r opsiynau posibl sydd ar gael iddyn nhw, ac yn olaf i greu a sicrhau cytundebau rhwng cleientiaid.​

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. cyflwyno cleientiaid i'r broses gyfryngu, yn unol â'u hanghenion
2. caniatáu digon o amser i gleientiaid fynegi eu pryderon, yn unol â'u hanghenion
3. cadarnhau gyda chleientiaid bod yr wybodaeth a gasglwyd yn gywir 
4. cytuno gyda chleientiaid ar unrhyw faterion a fydd yn ffurfio'r agenda ar gyfer trafodaeth, yn unol â'u hanghenion
5. trafod materion mewn trefn sy'n caniatáu i gynnydd ddigwydd 
6. ystyried opsiynau lle na ellir ymateb i bryderon cleientiaid trwy gyfryngu neu'r cyfryngwr a ddewiswyd, yn unol â'u hanghenion 
7. hwyluso'r broses o gasglu a chyfnewid gwybodaeth rhwng cleientiaid, yn unol â gofynion sefydliadol
8. rheoli gwasanaethau rhwng cleientiaid yn unol â gofynion sefydliadol 
9. rheoli cleientiaid er mwyn caniatáu i brosesau cyfryngu fynd rhagddynt 
10. annog cleientiaid i gydnabod persbectif ei gilydd, yn unol â'u hanghenion 
11. cael hyd i dir cyffredin lle mae cytundeb yn bosibl 
12. egluro materion cyfrinachedd yn unol â gofynion sefydliadol
13. gwirio bod yr amser a ddyrannwyd i archwilio opsiynau a chynigion yn briodol ar gyfer y cynnydd a wnaed fel rhan o'r broses gyfryngu 
14. sicrhau cleientiaid ynghylch cyfrinachedd, diogelwch a diogeledd trafod opsiynau, yn unol â gofynion sefydliadol 
15. helpu cleientiaid i greu a datblygu opsiynau posibl, yn unol â'u hanghenion
16. rhoi cyfleoedd i gleientiaid ystyried ystod o opsiynau, yn unol â'u hanghenion 
17. cefnogi cleientiaid i werthuso goblygiadau, canlyniadau ac elfennau ymarferol opsiynau, yn unol â'u hanghenion
18. helpu i ddatblygu opsiynau pellach lle na ellir gwneud cynnydd, yn unol ag anghenion cleientiaid
19. gwirio bod unrhyw gytundeb o ganlyniad i benderfyniadau ar y cyd rhwng cleientiaid 
20. cytuno ar feini prawf i'w datrys gyda chleientiaid 
21. casglu ymatebion gan gleientiaid i'r opsiynau sy'n cael eu trafod 
22. cadarnhau ffyrdd i gleientiaid symud ymlaen yn unol â'u hanghenion 
23. creu cyfleoedd ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch yr opsiynau, gan gynnwys
​      23.1 y posibiliadau o ran cyfaddawd rhwng cleientiaid​
24. gwirio sail cytundebau gyda chleientiaid i gadarnhau perchnogaeth 
​25. cytuno ar amodau a dulliau rhoi cytundebau ar waith gyda chleientiaid 
26. cydymffurfio â'r holl ofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol perthnasol yng nghyswllt cefnogi cleientiaid trwy'r broses gyfryngu
27. cofnodi cytundebau yn unol â gofynion sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. pwysigrwydd cydymffurfio â gofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol perthnasol 
2. deddfwriaeth, codau ymarfer, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol mewn perthynas â rôl y swydd/y gweithgareddau a gynhaliwyd
3. dulliau cyfryngu ac agweddau atynt 
4. cyfathrebu a sut mae addasu arddulliau cyfathrebu fel eu bod yn addas ar gyfer anghenion y cleient
5. sut mae delio gyda chyfrinachedd o fewn y broses gyfryngu
6. caniatâd o fewn y broses gyfryngu 
7. rolau a chyfrifoldebau'r rhai sy'n ymwneud â'r broses gyfryngu (a'r ffiniau)
8. yr ystod o ymyriadau sydd ar gael i gefnogi'r broses gyfryngu a'r amgylchiadau pryd y gellir eu defnyddio
9. sut gellir defnyddio ymyriadau i wneud y canlynol:
  ​ 9.1 helpu cleientiaid i fynegi eu pryderon a'u materion
   9.2 casglu a chyfnewid gwybodaeth
   9.3 cefnogi cleientiaid i archwilio a gwerthuso opsiynau
  ​ 9.4 creu a sicrhau cytundebau
   ​9.5 parhau â'r cyfryngu os na ddeuir i gytundeb
10. yr opsiynau sydd ar gael, gan gynnwys;
   ​​​10.1 cyfeirio at asiantaethau eraill 
   10.2 cyfryngwyr eraill 
11. sut mae rheoli mynegiant emosiwn a theimladau
12. geiriau ac ymadroddion allweddol sy'n arwydd o bosibiliadau symud a newid 
13. beth mae'r meini prawf ar gyfer cytundebau yn debygol o'u cynnwys, megis;
   ​​13.1 canlyniadau sy'n diwallu anghenion y ddau barti
   ​​13.2 rhyddid rhag canlyniad a orfodir
   ​​13.3 parodrwydd i roi'r canlyniadau y cytunwyd arnynt ar waith
   ​​​​13.4 ymarferoldeb canlyniadau a thebygolrwydd eu rhoi ar waith
   ​​13.5 datrys materion yn hytrach na'u hosgoi ne datrys rhannol 
   ​​13.6 pa ffyrdd o gyfaddawdu allai gynnwys datrysiadau newydd creadigol 
14. amodau a dulliau o roi cytundebau ar waith y mae'n rhaid iddynt gynnwys cyfrifoldebau'r ddau barti
15. nodi adegau pryd y gellir gwneud penderfyniadau ynghylch opsiynau 
16. egwyddorion a dulliau cyfryngu ac agweddau atynt 
17. yr ystod o wasanaethau ac asiantaethau sydd ar gael i ddarparu cefnogaeth
18. y gweithdrefnau atgyfeirio
19. yr ystod o ddulliau gweithredu y gellir eu defnyddio i helpu cleientiaid i archwilio a gwerthuso'r opsiynau
20. sut mae paru ymyriadau ag anghenion cleientiaid
21. gofynion cofnodi eich sefydliad, gan gynnwys sut mae storio gwybodaeth a gofnodwyd yn ddiogel


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Chwef 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Y Gwasanaeth Gwella Dysgu a Sgiliau

URN gwreiddiol

AG29

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Paratoi ar gyfer Gwaith, Gweithwyr canolfan alwadau/gyswllt, Ymgynghorwyr gyrfaoedd ac arbenigwyr ar gyfarwyddyd galwedigaethol, Gweithwyr proffesiynol ym maes lles, Ymgynghorwyr addysg ac arolygwyr ysgolion, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Gwasanaeth Cyhoeddus

Cod SOC


Geiriau Allweddol

darpariaeth gyfryngu; anghydfod; datrys; cyngor; canllawiau; cyfryngu