Hwyluso dysgu mewn grwpiau

URN: LSIAG27
Sectorau Busnes (Suites): Cyngor ac Arweiniad
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â hwyluso dysgu mewn grwpiau. Mae wedi'i bwriadu ar gyfer pobl sy'n gweithio gydag eraill mewn amgylchedd dysgu/grŵp.

Mae'r safon yn edrych ar sut mae rheoli deinameg grŵp a beth mae angen ei ystyried wrth hwyluso dysgu cydweithredol. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. cynllunio sesiynau grŵp sy'n cynnwys gweithgareddau sy'n cwmpasu amrywiaeth o arddulliau dysgu, gan bennu nodau ac amcanion
2. cynnal y dysgu oddi mewn i grwpiau drwy ddefnyddio eich sgiliau hwyluso, rheoli ac ymyrryd 
3. creu cydbwysedd rhwng y tasgau sydd i'w cyflawni a phroses y grŵp  
4. annog aelodau'r grŵp i gyfranogi, ochr yn ochr â sicrhau eu bod yn teimlo'n gyfforddus, ac yn unol â'u hanghenion
5. cynnal dull, lefel a chyflymdra cyfathrebu priodol gydag aelodau'r grŵp, yn unol â'u hanghenion 
6. herio unrhyw ymddygiad annerbyniol mewn grwpiau, yn unol â gofynion sefydliadol 
7. cytuno ar ddiben, proses a chanlyniad arfaethedig gweithgareddau gyda grwpiau 
8. addasu gweithgareddau grŵp yn ôl maint a chyfansoddiad grwpiau 
9. rheoli amseriad a chyflymdra gweithgareddau grŵp 
10. defnyddio addasiadau ac ymyriadau'n effeithiol i wella'r broses ddysgu 
11. archwilio gyda grwpiau unrhyw ffactorau sy'n cyfrannu at y gallu i ddysgu 
12. annog aelodau'r grŵp i fyfyrio ar sut maen nhw wedi bod yn dysgu ac yn cyfranogi mewn grwpiau 
13. monitro cynnydd aelodau'r grŵp yn unol â'u hanghenion
14. rhoi adborth adeiladol i unigolion ar y cynnydd a wnaed yn unol â'u hanghenion
15. rheoli deinameg grŵp yn effeithiol, yn unol ag anghenion grwpiau ​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. pwysigrwydd cydymffurfio â gofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol perthnasol 
2. deddfwriaeth, codau ymarfer, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol mewn perthynas â rôl y swydd/y gweithgareddau a gynhaliwyd
3. cyfathrebu a sut mae addasu arddulliau cyfathrebu fel eu bod yn addas ar gyfer anghenion dysgwyr
4. gwahanol arddulliau dysgu grwpiau 
5. sut mae adnabod sgiliau hwyluso ac ymyrryd a phryd mae eu defnyddio 
6. sut mae cydbwyso anghenion tasgau a phrosesau grŵp a sut maen nhw'n effeithio ei gilydd
7. sut mae gwneud i ddysgwyr deimlo'n gyfforddus 
8. sut mae dehongli cyfathrebu di-eiriau 
9. sut mae ymdrin ag anghenion unigol mewn lleoliadau grŵp 
10. ffactorau sy'n debygol o effeithio ar ddysgu ac ymddygiad mewn grwpiau 
11. modelau damcaniaethol allweddol gwaith grŵp 
12. sut mae ffurfio a chynnal grwpiau 
13. sut mae adnabod a delio gyda materion pŵer ac awdurdod mewn grwpiau 
14. y gwahanol weithgareddau dysgu sydd ar gael 
15. sut mae dilyniannu a threfnu cyflymdra gwybodaeth, a mesur priodoldeb iaith ar gyfer dysgwyr unigol 
16. yr ystod o wahanol arddulliau dysgu 
17. y dulliau o gasglu safbwyntiau personol a sut mae eu defnyddio 
18. sut mae monitro cynnydd y dysgwr mewn lleoliad grŵp 
19. yr adnoddau a'r gefnogaeth sydd ar gael i ddysgwyr
20. gofynion cofnodi eich sefydliad, gan gynnwys sut mae storio gwybodaeth a gofnodwyd yn ddiogel​


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Chwef 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Y Gwasanaeth Gwella Dysgu a Sgiliau

URN gwreiddiol

AG27

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Paratoi ar gyfer Gwaith, Gweithwyr canolfan alwadau/gyswllt, Ymgynghorwyr gyrfaoedd ac arbenigwyr ar gyfarwyddyd galwedigaethol, Gweithwyr proffesiynol ym maes lles, Ymgynghorwyr addysg ac arolygwyr ysgolion, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Gwasanaeth Cyhoeddus

Cod SOC


Geiriau Allweddol

dysgu; grwpiau; addysgu; hyfforddiant; rhoi addysg; cyngor; arweiniad