Darparu cefnogaeth i ymarferwyr
URN: LSIAG17
Sectorau Busnes (Suites): Cyngor Cyfreithiol,Cyngor ac Arweiniad
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
2015
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu cefnogaeth i ymarferwyr. Mae wedi'i bwriadu ar gyfer pobl sy'n darparu cyngor a chyfarwyddyd i gleientiaid sy'n defnyddio gwasanaethau megis gwasanaethau cyhoeddus, addysg a hyfforddiant, gwasanaethau iechyd a'r rhai sy'n cael eu darparu gan weithwyr lles proffesiynol ac eraill.
Mae'r safon hon yn ymwneud â chytuno i gefnogi ymarferwyr eraill, hybu arfer effeithiol ymarferwyr a sut mae cyflwyno sesiynau cefnogi iddynt.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. archwilio diben a ffiniau cefnogaeth i ymarferwyr, yn unol â gofynion sefydliadol
2. gwirio bod goruchwyliaeth ymarferwyr penodol yn briodol
3. adolygu'r dulliau o ddarparu cefnogaeth i ymarferwyr yn unol â gofynion sefydliadol
4. nodi gwelliannau posibl y gellid eu gwneud yn ystod sesiynau cefnogi
5. nodi cyfyngiadau a materion sydd i'w cynnwys mewn sesiynau cefnogi
6. cytuno ar weithdrefnau a therfynau yng nghyswllt cyfnewid gwybodaeth a chyfrinachedd
7. egluro'r opsiynau ar gyfer datrys materion sy'n ymwneud â chefnogi ymarferwyr
8. cytuno ar drefniadau cefnogi gydag ymarferwyr yn unol â'u hanghenion
9. cytuno pryd y dylid adolygu cefnogaeth gydag ymarferwyr, yn unol â gofynion sefydliadol
10. cynorthwyo ymarferwyr i nodi a gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd
11. cefnogi ymarferwyr a gwasanaethau i fonitro effeithiolrwydd gwaith gyda chleientiaid
12. ymyrryd, pan fo angen, er mwyn cynnal effeithiolrwydd ymarferwyr yn unol â gofynion sefydliadol
13. rhoi adborth rheolaidd i ymarferwyr ar eu perfformiad, yn unol â gofynion sefydliadol
14. cefnogi ymarferwyr i reoli unrhyw densiynau rhwng gwaith a materion personol, yn unol â'u hanghenion
15. gweithredu i ddatrys materion a nodwyd, yn unol â gofynion sefydliadol
16. cydymffurfio â'r holl ofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol perthnasol wrth ddarparu cefnogaeth i ymarferwyr
17. cefnogi ymarferwyr i fyfyrio ar eu hymarfer a materion sy'n effeithio ar eu hymarfer, yn unol â'u hanghenion
18. helpu ymarferwyr i nodi gofynion penodol ar gyfer cefnogaeth neu ddatblygiad, yn unol â'u hanghenion
19. cofnodi cytundebau cefnogi a chanlyniadau sesiynau yn unol â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. pwysigrwydd cydymffurfio â gofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol perthnasol
2. deddfwriaeth, codau ymarfer, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol mewn perthynas â rôl y swydd/y gweithgareddau a gynhaliwyd
3. sut mae addasu arddulliau cyfathrebu fel eu bod yn addas ar gyfer anghenion ymarferwyr
4. cefnogaeth y gellir ei darparu i ymarferwyr, diben a ffiniau'r gefnogaeth a phwy ddylai dderbyn cefnogaeth pryd
5. y dulliau cefnogi sydd ar gael, sut mae eu hadolygu, a phryd dylid adolygu cefnogaeth
6. opsiynau ar gyfer datrys materion a'u heffeithiolrwydd cymharol
7. sut mae dod i gytundeb gydag ymarferwyr
8. terfynau cymhwysedd ac awdurdod ymarferwyr
9. eich rôl a'ch cyfrifoldebau chi ac eraill
10. sut mae ymarferwyr yn monitro gwaith gyda chleientiaid a'r meini prawf a ddefnyddir i fesur effeithiolrwydd
11. pryd mae ymyrryd i gynnal effeithiolrwydd ymarferwyr a sut mae ymyrryd
12. pryd mae darparu adborth i ymarferwyr a sut mae rhoi adborth adeiladol
13. tensiynau sy'n gallu codi rhwng gwaith a materion personol a'ch ymwneud â'u datrys
14. materion y mae angen rhoi sylw iddynt ar unwaith a'r camau i'w cymryd i ddatrys materion
15. sut mae casglu gwybodaeth am ofynion
16. cyfyngiadau a allai effeithio ar sesiynau cefnogi
17. materion y dylid rhoi sylw iddynt mewn sesiynau cefnogi
18. sut gall ymarferwyr fyfyrio ar eu hymarfer a phwysigrwydd y ffaith eu bod yn gwneud hynny
19. sut mae asesu effeithiolrwydd gwaith ymarferwyr
20. gofynion cefnogi penodol ar gyfer ymarferwyr a'r opsiynau sydd ar gael ar gyfer cyflawni'r gofynion
21. sut mae cynnig cefnogaeth briodol i ymarferwyr a phryd mae adolygu sesiynau cefnogi
22. gwelliannau y gellid eu gwneud i sesiynau cefnogi
23. gofynion cofnodi eich sefydliad, gan gynnwys sut mae storio gwybodaeth a gofnodwyd yn ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Y Gwasanaeth Gwella Dysgu a Sgiliau
URN gwreiddiol
LSIAG17
Galwedigaethau Perthnasol
Addysg a hyfforddiant, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Ymgynghorwyr Gyrfaoedd ac Arbenigwyr Cyfarwyddyd Galwedigaethol, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Paratoi ar gyfer Gwaith, Gweithwyr canolfan alwadau/gyswllt, Gweithwyr proffesiynol ym maes lles, Ymgynghorwyr addysg ac arolygwyr ysgolion, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr Proffesiynol ym maes Gwasanaeth Cyhoeddus
Cod SOC
Geiriau Allweddol
cefnogaeth; cydweithwyr; help; goruchwyliaeth