Cefnogi cleientiaid i ddefnyddio gwasanaethau

URN: LSIAG02
Sectorau Busnes (Suites): Cyngor Cyfreithiol,Cyngor ac Arweiniad
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chefnogi cleientiaid i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael. Mae wedi'i bwriadu ar gyfer pobl sy'n darparu cyngor a chyfarwyddyd i gleientiaid sy'n defnyddio gwasanaethau megis gwasanaethau cyhoeddus, addysg a hyfforddiant, gwasanaethau iechyd a'r rhai sy'n cael eu darparu gan weithwyr lles proffesiynol ac eraill.
Mae'r safon yn cynnwys galluogi cleientiaid i benderfynu a ydynt am ddefnyddio gwasanaethau neu beidio, cytuno ar sut byddant yn defnyddio gwasanaethau, a nodi a darparu gwybodaeth i gleientiaid yn ôl yr angen. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. egluro disgwyliadau a dealltwriaeth cleientiaid o wasanaethau, yn unol â pholisïau sefydliadol
2. nodi gwybodaeth am wasanaethau, yn unol ag anghenion cleientiaid 
3. trafod gyda chleientiaid yr ystod o wasanaethau sydd ar gael, a manteision ac anfanteision pob un ohonynt
4. archwilio gyda chleientiaid y rhesymau am eu gofynion o ran gwybodaeth 
5. darparu gwybodaeth am wasanaethau i helpu cleientiaid i benderfynu a ellir cyflawni eu gofynion neu beidio
6. annog cleientiaid i egluro eu gofynion a'u hamgylchiadau, yn unol â'u hanghenion
7. cytuno ar ffyrdd priodol i gleientiaid ddefnyddio gwasanaethau
8. esbonio'r camau nesaf wrth gleientiaid, yn unol â'u hanghenion  
9. cadarnhau'r wybodaeth sy'n ofynnol, a chytuno gyda chleientiaid ar ddulliau a therfynau amser priodol ar gyfer darparu gwybodaeth 
10. adalw gwybodaeth sy'n ofynnol gan gleientiaid, yn unol â gofynion sefydliadol
11. cadarnhau gyda chleientiaid fod deunyddiau gwybodaeth wedi'u darparu sy'n ddigonol ac yn briodol ar gyfer eu gofynion
12. ymdrin â phroblemau sy'n codi yn sgîl darparu gwybodaeth i gleientiaid yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
13. cyfeirio cleientiaid at ffynonellau priodol o wybodaeth ychwanegol neu amgen, yn unol â'u gofynion
14. cofnodi gwybodaeth a drafodwyd gyda chleientiaid gan ddefnyddio systemau priodol, yn unol â gofynion sefydliadol
15. cydymffurfio â'r holl ofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol perthnasol wrth gefnogi cleientiaid i ddefnyddio gwasanaethau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. pwysigrwydd cydymffurfio â gofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl
2. deddfwriaeth, codau ymarfer, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol mewn perthynas â rôl y swydd/y gweithgareddau a gynhaliwyd
3. sut mae annog cleientiaid i fynegi eu hunain a'u gofynion
4. gwahanol ddulliau cyfathrebu a sut mae eu haddasu at anghenion a dewisiadau cleientiaid
5. mathau o wybodaeth y dylid ei eu casglu gan gleientiaid
6. gwybodaeth sydd ar gael am wasanaethau a sut mae eu cyrchu 
7. pa wybodaeth sy'n briodol ar gyfer gwahanol gleientiaid 
8. sut mae asesu gwybodaeth i sicrhau ei bod yn gywir ac wedi'i diweddaru 
9. sut mae cyflwyno gwahanol fathau o wybodaeth i gleientiaid mewn fformatau addas
10. sut mae helpu cleientiaid i benderfynu a oes modd i wasanaethau fodloni eu gofynion 
11. sut mae ymdrin ag anawsterau a gwahanol ddisgwyliadau cleientiaid 
12. materion a all godi wrth ddefnyddio gwahanol wasanaethau ar gyfer gwahanol gleientiaid
13. ystod o wasanaethau ac asiantaethau sy'n gallu darparu cefnogaeth ychwanegol
14. sut mae paru gwasanaethau â gofynion cleientiaid a pham mae'n bwysig cadarnhau gofynion 
15. sut gall cleientiaid ddymuno defnyddio gwasanaethau, a'r gweithdrefnau ar gyfer eu defnyddio
16. pa gamau gweithredu y gellid eu cymryd ar gyfer gwahanol gleientiaid a sut mae eu hesbonio
17. y mathau o wybodaeth mae cleientiaid yn chwilio amdanynt, a'r gwahanol resymau sydd ganddynt dros wneud hynny
18. sut mae asesu gofynion cleientiaid a phwysigrwydd cadarnhau'r wybodaeth sy'n ofynnol a'r terfynau amser
19. y gwahanol ddulliau sydd ar gael ar gyfer darparu gwybodaeth, y fformatau a ddefnyddir i'w chyflwyno, a sut mae gwirio dealltwriaeth cleientiaid o wybodaeth
20. pam mae'n bwysig gwirio bod cleientiaid wedi derbyn y deunyddiau gwybodaeth y mae eu hangen arnynt, a'u bod yn ddigonol ac yn briodol 
21. mathau o broblemau a all godi wrth ddarparu gwybodaeth i gleientiaid, a sut mae delio gyda nhw  
22. gofynion cofnodi eich sefydliad, gan gynnwys sut mae storio gwybodaeth a gofnodwyd yn ddiogel


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Chwef 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Y Gwasanaeth Gwella Dysgu a Sgiliau

URN gwreiddiol

AG02

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gweithiwr Proffesiynol ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Paratoi ar gyfer Gwaith, Gweithwyr canolfan alwadau/gyswllt, Ymgynghorwyr gyrfaoedd ac arbenigwyr ar gyfarwyddyd galwedigaethol, Gweithwyr proffesiynol ym maes lles, Ymgynghorwyr addysg ac arolygwyr ysgolion, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cefnogaeth; cleientiaid; cyngor; canllawiau; gwasanaeth; defnyddio