Cyfathrebu â darpar gleientiaid

URN: LSIAG01
Sectorau Busnes (Suites): Cyngor Cyfreithiol,Cyngor ac Arweiniad
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau cyfathrebu cychwynnol â darpar gleientiaid, er mwyn darparu gwybodaeth iddynt ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael iddynt. Mae wedi'i bwriadu ar gyfer pobl sy'n darparu cyngor a chyfarwyddyd i gleientiaid sy'n defnyddio gwasanaethau megis gwasanaethau cyhoeddus, addysg a hyfforddiant, gwasanaethau iechyd a'r rhai sy'n cael eu darparu gan weithwyr lles proffesiynol ac eraill.

Mae'r safon yn cwmpasu sut mae cyflwyno gwasanaethau i gleientiaid a sut mae nodi a chymryd camau gweithredu lle bo angen.  


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. eich cyflwyno eich hun i gleientiaid, gan egluro eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn unol â'ch gweithdrefnau sefydliadol
2. casglu gwybodaeth gan gleientiaid er mwyn asesu eu hanghenion, yn unol â'ch gweithdrefnau sefydliadol
3. darparu gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i   gleientiaid, yn unol â'u hanghenion
4. darparu amser a chymorth priodol i gleientiaid, yn unol â'u   hanghenion a'ch cylch gorchwyl chithau
5. ceisio caniatâd cleientiaid i rannu gwybodaeth gydag eraill yn unol â gofynion cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol
6. cynnal cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth yn unol â gofynion c cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol
7. ymdrin ag anghenion cleientiaid gan ddefnyddio dulliau   cyfathrebu priodol 
8. cymryd camau i gynorthwyo cleientiaid, yn unol â'u hanghenion 
9. cofnodi rhyngweithiadau, yn unol â gofynion sefydliadol
10. cydymffurfio â'r holl ofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol perthnasol wrth gyfathrebu â chleientiaid


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. pwysigrwydd cydymffurfio â gofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl
2. deddfwriaeth, codau ymarfer, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol mewn perthynas â rôl y swydd/y gweithgareddau a gynhaliwyd
3. sut mae eich cyflwyno eich hun a gwasanaethau i gleientiaid  mewn gwahanol gyd-destunau 
4. sut mae gwirio dealltwriaeth cleientiaid o ba wasanaethau sydd ar gael 
5. sut mae casglu gwybodaeth gan gleientiaid i asesu anghenion
6. sut mae creu amgylcheddau diogel a fydd yn cynorthwyo cleientiaid i fynegi eu gofynion 
7. beth yw ystyr amgylchedd diogel i ymarferwyr a chleientiaid
8. egwyddor cyfrinachedd a goblygiadau hynny i'ch ymarfer 
9. pam mae'n bwysig sicrhau cleientiaid ynghylch cyfrinachedd  
10. gwahanol ddulliau cyfathrebu a sut mae eu haddasu at anghenion a dewisiadau'r cleientiaid
11. sut mae lleiafu effeithiau anawsterau cyfathrebu neu rwystrau i gyfathrebu, a phwy sy'n gallu darparu cefnogaeth
12. camau gweithredu i'w cymryd er mwyn delio gyda gwahanol sefyllfaoedd 
13. sut mae cymhwyso'r polisïau a'r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cyfathrebu â chleientiaid
14. gofynion cofnodi eich sefydliad, gan gynnwys sut mae storio gybodaeth a gofnodwyd yn ddiogel


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Chwef 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Y Gwasanaeth Gwella Dysgu a Sgiliau

URN gwreiddiol

AG01

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gweithiwr Proffesiynol ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus, Ymgynghorwyr Gyrfaoedd ac Arbenigwyr Cyfarwyddyd Galwedigaethol, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Paratoi ar gyfer Gwaith, Galwedigaethau gwasanaeth cwsmeriaid, Gweithwyr canolfan alwadau/gyswllt, Gweithwyr proffesiynol ym maes lles, Ymgynghorwyr addysg ac arolygwyr ysgolion, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

sefydlu; cyfathrebu; cleientiaid; cyngor; canllawiau