Rheoli gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau cynaliadwy

URN: LANWFS20
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau'r Gweithle a Chyfleusterau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymdrin â rheoli gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau cynaliadwy. Mae’r gallu i fonitro effeithlonrwydd ynni a dŵr mewn gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yn un o ofynion allweddol y safon hon, gan gynnwys rheoli arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy.
Mae hyn yn golygu monitro defnydd o ynni a dŵr y sefydliad gyda’r nod o reoli arferion cynaliadwy. Bydd hyn yn cynnwys rheoli defnydd a chyflwyno mesurau effeithlonrwydd i leihau costau, gwastraff a’r defnydd o ynni a dŵr. Mae’n ymdrin â’r ystyriaethau amgylcheddol a chynaliadwyedd sy’n gysylltiedig â rheoli cyfleustodau.
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod ac yn deall eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch bresennol, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad.
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau rheoli’r gweithle a chyfleusterau - gall hyn fod i gleient mewnol (yn eich sefydliad) neu i gleient allanol; cyfeirir at y ddau fel y “sefydliad” o fewn y safon hon.
Mae’r safon hon ar gyfer rheolwyr sy’n gweithio o fewn amgylchedd gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau.
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r gyfres safonau Rheoli Cyfleusterau a’r gyfres safonau Rheoli ac Arwain a reolir gan Instructus.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. ymchwilio i dechnegau neu strategaethau y gellid eu dilyn i leihau’r defnydd a’r gwastraff o ynni a dŵr yn unol ag arferion cynaliadwy ac arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad
3. cadarnhau bod system ar waith ar gyfer mesur faint o ynni a dŵr a ddefnyddir ac ar gyfer casglu’r data
4. dadansoddi’r mesuryddion data defnydd a ddarperir gan y cwmnïau cyfleustodau ar adegau y cytunir arnynt er mwyn canfod effeithlonrwydd ynni a dŵr a rheoli defnydd
5. defnyddio’r data mesuryddion a defnydd i wneud argymhellion ar gyfer gwella arbedion effeithlonrwydd y busnes a’r polisïau arferion cynaliadwy ar gyfer y sefydliad
6. targedu cyfleoedd i roi mesurau ar waith i osgoi gwastraffu ynni a dŵr ar gyfer gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau
7. cyfathrebu â phawb sy’n ymwneud â’ch gwaith, neu y mae eich gwaith yn effeithio arnynt, a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad a’i bolisïau arferion cynaliadwy
8. lleihau dibyniaeth ar ynni drwy ganfod a hybu arferion mwy cynaliadwy mewn gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
9. trefnu a goruchwylio'r gwaith o dendro a chaffael contractau cyfleustodau yn unol â pholisïau arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy'r sefydliad
10. cadarnhau bod y defnydd o gyfleustodau'n cydymffurfio â’r rheoliadau a deddfwriaeth gyfredol yn ogystal â pholisïau arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy’r sefydliad
11. cadarnhau bod y sefydliad yn gweithredu o fewn y gofynion cyfreithiol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol presennol
12. ysgogi newidiadau i strategaethau a pholisïau i adlewyrchu arferion cynaliadwy gwell
13. cadarnhau bod ystyriaethau newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd yn cael eu hymgorffori ym mholisïau arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy’r sefydliad
14. cwblhau cofnodion fel sy’n ofynnol dan y ddeddfwriaeth gyfredol a gweithdrefnau’r sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. y ddadl gyfredol ynghylch newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys dadleuon o blaid ac yn erbyn canfyddiadau, rhagfynegiadau ac awgrymiadau
3. deddfwriaeth gyfredol y DU ar newid yn yr hinsawdd
4. y cydbwysedd rhwng ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd wrth sefydlu a chynnal cynaliadwyedd mewn gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau
5. cyfraniad arferion cynaliadwy ac effaith newid yn yr hinsawdd
6. yr egwyddor o niwtraliaeth carbon a’r ffyrdd o’i chyflawni
7. effaith allyriadau carbon a phwysigrwydd rheoli a lleihau allyriadau carbon yn unol â thargedau’r sefydliad
8. polisi’r sefydliad ar gaffael cynaliadwy
9. costau, risgiau a manteision y camau arfaethedig
10. pwysigrwydd ymgorffori arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy mewn dyluniad adeilad
11. pwysigrwydd cynnal a chadw asedau a chyfleusterau’n rheolaidd, mewn ffordd sydd wedi’i chynllunio ac sy’n ataliol, wrth reoli gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau cynaliadwy
12. pwysigrwydd rheoli cynaliadwyedd i’r sefydliad
13. sut mae defnyddio canlyniadau monitro i reoli cynaliadwyedd mewn gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
14. technegau a strategaethau’r diwydiant ar gyfer mesur a lleihau faint o ynni a dŵr sy’n cael ei ddefnyddio a’i wastraffu
15. y technegau ar gyfer dadansoddi data mesuryddion a defnydd er mwyn darparu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i lywio penderfyniadau
16. pwysigrwydd defnyddio’r data sy’n ymwneud â defnyddio cyfleustodau fel sail i strategaethau a pholisïau cynaliadwyedd y sefydliad
17. y dulliau o hybu arferion cynaliadwy i bawb sydd â chysylltiad â’ch gwaith neu y mae eich gwaith yn effeithio arnynt
18. y broses dendro a chaffael ar gyfer contractau gwasanaethau a chynnyrch
19. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â deddfwriaeth a gweithdrefnau cyfredol y sefydliad
20. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu â’r rhai sy’n gysylltiedig â’ch gwaith, neu y mae eich gwaith yn effeithio arnynt, a sut y dylid gwneud hyn
21. y cyfrifoldeb dros reoli gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn unol â’r gofynion cyfreithiol presennol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Arbedion effeithlonrwydd busnes**
Mae hyn yn ymwneud â rheoli adnoddau fel dŵr mewn ffordd gynaliadwy, defnyddio ynni’n effeithlon a rheoli gwastraff yn unol â pholisïau arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd gweithredol. Mewn busnes, mae effeithlonrwydd yn cyfeirio at gynhyrchu nwyddau neu gynnig gwasanaethau drwy ddefnyddio’r swm lleiaf o adnoddau, fel cyfalaf, ynni ac ati. Gall busnesau effeithlon greu cynnyrch, cynnig gwasanaethau a chyflawni eu nodau cyffredinol gyda’r lleiaf posibl o ymdrech, traul neu wastraff.
Perfformiad gweithredol
Gellir mesur perfformiad sefydliad yn erbyn safon neu ddangosydd penodedig o effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfrifoldeb amgylcheddol megis amser, cynhyrchiant, lleihau gwastraff, a chydymffurfiaeth reoleiddiol.
Arferion cynaliadwy
Nodweddir arferion busnes cynaliadwy gan arferion amgylcheddol gyfeillgar a sbardunir gan sefydliad at ddibenion dod yn fwy cynaliadwy. Nod y sefydliadau yw lleihau eu hôl troed amgylcheddol drwy fentrau sy’n lleihau gwastraff, stiwardiaeth amgylcheddol wael ac arferion amgylcheddol anfoesol sy’n cynnig llai o gynaliadwyedd o fewn polisïau ac arferion y sefydliad.
Mae arferion busnes cynaliadwy’n amrywio ymysg diwydiannau ac maen nhw’n aml yn benodol i’r math o sefydliad a’r cynnyrch neu’r gwasanaeth mae’n ei gynhyrchu neu’n ei ddarparu.
Cyfrifoldebau cymdeithasol
Mae cyfrifoldebau cymdeithasol yn cyfeirio at fath o gynllun busnes hunanreoleiddiol a’r ymdrechion a wneir gan gwmni i wella cymdeithas a chyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Mae’n disgrifio mentrau sy’n cael eu rhedeg gan fusnes i werthuso a chymryd cyfrifoldeb dros eu heffaith ar faterion sy’n amrywio o hawliau dynol i’r amgylchedd.
Bydd y cynllun busnes yn canolbwyntio ar sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i’r holl randdeiliaid cysylltiedig (cyflogeion, defnyddwyr, buddsoddwyr a grwpiau eraill).
Ei bwrpas yw annog busnesau i redeg eu cwmnïau mewn ffordd foesegol a gweithio tuag at gael effaith fwy cadarnhaol ar gymdeithas drwy sicrhau twf cynaliadwy.
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yw'r “swyddogaeth gyfundrefnol sy’n integreiddio pobl, lleoedd a phrosesau o fewn yr amgylchedd adeiledig gyda’r nod o wella ansawdd bywyd pobl a chynhyrchiant y busnes craidd.” Mae gweithwyr proffesiynol ym maes gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yn gyfrifol am wasanaethau sy’n galluogi ac yn cefnogi perfformiad busnes.
Mae gan bob sefydliad gyfrifoldebau o dan y rheoliadau iechyd, diogelwch a lles cyfredol er mwyn sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y gwneir darpariaethau ar gyfer:

Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau (gwasanaethau meddal)
•     Gwasanaethau meddal yw’r rhai sy’n gwneud y gweithle’n fwy dymunol neu ddiogel i weithio ynddo.
Enghreifftiau o wasanaethau meddal yw glanhau, arlwyo, diogelwch.

Rheoli Cyfleusterau (gwasanaethau caled)
•     Gwasanaethau caled yw’r rhai sy’n ymwneud â gwead ffisegol yr adeilad ac nad oes modd eu tynnu. Maen nhw’n sicrhau diogelwch a lles gweithwyr ac yn gyffredinol maen nhw’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Enghreifftiau o wasanaethau caled yw plymio, gwresogi a goleuo. Ymdrinnir â gwasanaethau caled yn y gyfres Rheoli Cyfleusterau


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Asedau

URN gwreiddiol

ASTFM517

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ystadau, Rheolwr Eiddo, Rheolwr Gwasanaethau'r Gweithle a Chyfleusterau, Rheolwr Cyfleusterau, Rheolwr Gwasanaethau’r Gweithle, Rheolwr Gwasanaethau Meddal, Rheolwr Asedau, Landlord, Pennaeth Cyfleusterau

Cod SOC

1251

Geiriau Allweddol

rheoli cyfleusterau; gwasanaethau’r gweithle; effeithlonrwydd busnes; arferion cynaliadwy