Cynnal ansawdd y gwasanaeth a ddarperir o fewn gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau

URN: LANWFS2
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau'r Gweithle a Chyfleusterau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymdrin â'r gofyniad i gynnal ansawdd y gwasanaeth a ddarperir o fewn gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau fel y cytunwyd yn y contract neu’r cytundeb lefel gwasanaeth. Mae’n cynnwys y gofyniad i gynllunio a dyrannu gwaith i unigolion a/neu dimau.
Mae’n bwysig monitro ac adolygu perfformiad gweithredol y gwasanaethau y mae’r sefydliad wedi cytuno arnynt er mwyn cynnal ansawdd a pherfformiad gweithredol. Mae hyn yn cynnwys rheoli arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy.
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod ac yn deall eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch bresennol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad.
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau rheoli’r gweithle a chyfleusterau - gall hyn fod i gleient mewnol (yn eich sefydliad) neu i gleient allanol; cyfeirir at y ddau fel y “sefydliad” o fewn y safon hon.
Mae’r safon hon ar gyfer rheolwyr sy’n gweithio o fewn amgylchedd gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau.
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r gyfres safonau Rheoli Cyfleusterau a’r gyfres safonau Rheoli ac Arwain a reolir gan Instructus.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. cynnal ansawdd y gwasanaeth a ddarperir o fewn gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn unol â’r contract neu’r cytundeb lefel gwasanaeth
3. cydymffurfio â gofynion y sefydliad o ran safonau cyffredinol gwisg ac ymddangosiad personol er mwyn cynnal ansawdd y gwasanaeth a ddarperir o fewn gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau
4. cyfathrebu â phawb sy’n ymwneud â’ch gwaith, neu y mae eich gwaith yn effeithio arnynt, er mwyn cynnal ansawdd y gwasanaeth a ddarperir o fewn gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau
5. dyrannu gwaith i unigolion a/neu dimau er mwyn bodloni’r contract neu’r cytundeb lefel gwasanaeth y cytunwyd arno ac er mwyn cynnal ansawdd y gwasanaeth a ddarperir
6. dehongli cytundebau contract ffurfiol/cytundebau lefel gwasanaeth a darparu gwybodaeth, cyfarwyddyd a dogfennau i unigolion a/neu dimau er mwyn cynnal ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan wasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
7. monitro ac adolygu perfformiad gweithredol y gwasanaethau a ddarperir er mwyn cynnal ansawdd y ddarpariaeth a pherfformiad fel sy'n ofynnol gan y sefydliad yn unol ag arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy’r sefydliad
8. cytuno gyda’r sefydliad sut y byddir yn ymdrin â risgiau a chyfleoedd er mwyn cynnal ansawdd y gwasanaeth a ddarperir o fewn gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
9. rhoi gwybod i’r sefydliad am unrhyw risgiau neu gyfleoedd a allai effeithio ar ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan wasanaethau’r gweithle a chyfleusterau
10. cwblhau cofnodion neu adroddiadau fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth gyfredol a’r sefydliad, yn unol â gofynion y contractau neu gytundebau lefel gwasanaeth
11. cadarnhau bod y sefydliad yn gweithredu o fewn y gofynion cyfreithiol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol presennol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. eich cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. cynnwys contractau neu gytundebau lefel gwasanaeth, amserlenni gwaith a gweithdrefnau a gymeradwywyd, arferion ac adroddiadau sy'n ofynnol er mwyn cynnal ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan wasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
3. gofynion y sefydliad o ran safonau cyffredinol gwisg ac ymddangosiad personol a pham bod y rhain yn bwysig er mwyn cynnal ansawdd y gwasanaeth a ddarperir o fewn gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau
4. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu â’r rhai sy’n gysylltiedig â’ch gwaith, neu sy’n cael eu heffeithio gan eich gwaith yn dilyn y ddeddfwriaeth gyfredol er mwyn cynnal ansawdd y gwasanaeth a ddarperir
5. sut mae dehongli cytundebau contract ffurfiol gyda sefydliadau ar gyfer darparu’r gwasanaethau sy’n ofynnol.
6. pwysigrwydd darparu gwasanaethau sy’n bodloni'r contract neu’r cytundeb lefel gwasanaeth y cytunwyd arno er mwyn cynnal ansawdd y gwasanaeth a ddarperir o fewn gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
7. yr wybodaeth sy’n ofynnol yn y contract neu’r cytundeb lefel gwasanaeth a sut i’w darparu er mwyn cynnal ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan wasanaethau’r gweithle a chyfleusterau ac yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r gweithdrefnau presennol
8. y technegau a’r prosesau ar gyfer monitro ac adolygu’r gwasanaeth a ddarperir a pherfformiad gweithredol gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau
9. sut mae mynd i’r afael â risgiau a chyfleoedd wrth reoli a darparu gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
10. pwy i roi gwybod iddynt am argymhellion ar gyfer gwelliannau o ran darparu gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau, a'r camau sy'n ofynnol i’w rhoi ar waith
11. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â deddfwriaeth a gweithdrefnau cyfredol y sefydliad
12. eich cyfrifoldeb dros reoli gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn unol â’r gofynion cyfreithiol presennol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Arbedion effeithlonrwydd busnes
Mae hyn yn ymwneud â rheoli adnoddau fel dŵr mewn ffordd gynaliadwy, defnyddio ynni’n effeithlon a rheoli gwastraff yn unol â pholisïau arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd gweithredol. Mewn busnes, mae effeithlonrwydd yn cyfeirio at gynhyrchu nwyddau neu gynnig gwasanaethau drwy ddefnyddio’r swm lleiaf o adnoddau, fel cyfalaf, ynni ac ati. Gall busnesau effeithlon greu cynnyrch, cynnig gwasanaethau a chyflawni eu nodau cyffredinol gyda’r lleiaf posibl o ymdrech, traul neu wastraff.
Perfformiad gweithredol
Mae hyn yn cyfeirio at berfformiad sefydliad yn erbyn safon neu ddangosydd penodedig o effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfrifoldeb amgylcheddol. Gallai’r dangosyddion hyn gynnwys amser, cynhyrchiant, lleihau gwastraff, a chydymffurfio â rheoliadau.
Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG)
Mae cytundeb lefel gwasanaeth (CLG) yn ymrwymiad rhwng darparwr gwasanaeth a chleient. Mae agweddau ar y gwasanaeth – ansawdd, argaeledd, cyfrifoldebau – yn cael eu cytuno rhwng y darparwr gwasanaeth a’r defnyddiwr gwasanaeth. Elfen fwyaf cyffredin CLG yw y dylid darparu’r gwasanaethau i’r cwsmer fel y cytunwyd yn y contract.
Cyfrifoldebau cymdeithasol
Mae cyfrifoldebau cymdeithasol yn cyfeirio at fath o gynllun busnes hunanreoleiddiol a’r ymdrechion a wneir gan gwmni i wella cymdeithas a chyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Mae’n disgrifio mentrau sy’n cael eu rhedeg gan fusnes i werthuso a chymryd cyfrifoldeb dros eu heffaith ar faterion sy’n amrywio o hawliau dynol i’r amgylchedd.
Bydd y cynllun busnes yn canolbwyntio ar sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i’r holl randdeiliaid cysylltiedig (cyflogeion, defnyddwyr, buddsoddwyr a grwpiau eraill).
Ei bwrpas yw annog busnesau i redeg eu cwmnïau mewn ffordd foesegol a gweithio tuag at gael effaith fwy cadarnhaol ar gymdeithas drwy sicrhau twf cynaliadwy.
Arferion cynaliadwy
Nodweddir arferion busnes cynaliadwy gan arferion amgylcheddol gyfeillgar a sbardunir gan sefydliad at ddibenion dod yn fwy cynaliadwy. Nod y sefydliadau yw lleihau eu hôl troed amgylcheddol drwy fentrau sy’n lleihau gwastraff, stiwardiaeth amgylcheddol wael ac arferion amgylcheddol anfoesol fel eu bod yn cynnig llai o gynaliadwyedd o fewn polisïau ac arferion y sefydliad.
Mae arferion busnes cynaliadwy’n amrywio rhwng diwydiannau ac maen nhw’n aml yn benodol i’r math o sefydliad a’r cynnyrch neu’r gwasanaeth mae’n ei gynhyrchu neu’n ei ddarparu.
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yw'r “swyddogaeth gyfundrefnol sy’n integreiddio pobl, lleoedd a phrosesau o fewn yr amgylchedd adeiledig gyda’r nod o wella ansawdd bywyd pobl a chynhyrchiant y busnes craidd.” Mae gweithwyr proffesiynol ym maes gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yn gyfrifol am wasanaethau sy’n galluogi ac yn cefnogi perfformiad busnes.
Mae gan bob sefydliad gyfrifoldebau o dan y rheoliadau iechyd, diogelwch a lles cyfredol er mwyn sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y gwneir darpariaethau ar gyfer:
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau (gwasanaethau meddal)
•     Gwasanaethau meddal yw’r rhai sy’n gwneud y gweithle’n fwy dymunol neu ddiogel i weithio ynddo.

Enghreifftiau o wasanaethau meddal yw glanhau, arlwyo, diogelwch.

Rheoli Cyfleusterau (gwasanaethau caled)
•     Gwasanaethau caled yw’r rhai sy’n ymwneud â gwead ffisegol yr
adeilad ac nad oes modd eu tynnu. Maen nhw’n sicrhau diogelwch a lles gweithwyr ac yn gyffredinol maen nhw’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Enghreifftiau o wasanaethau caled yw plymio, gwresogi a goleuo.

Ymdrinnir â gwasanaethau caled yn y gyfres Rheoli Cyfleusterau


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Asedau

URN gwreiddiol

ASTFM305

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ystadau, Rheolwr Eiddo, Rheolwr Gwasanaethau'r Gweithle a Chyfleusterau, Rheolwr Cyfleusterau, Rheolwr Gwasanaethau’r Gweithle, Rheolwr Gwasanaethau Meddal, Rheolwr Asedau, Landlord, Pennaeth Cyfleusterau

Cod SOC

1251

Geiriau Allweddol

rheoli cyfleusterau; gwasanaethau’r gweithle; effeithlonrwydd busnes; arferion cynaliadwy