Goruchwylio’r gwaith o weithredu ac adolygu polisïau gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau

URN: LANWFS17
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau'r Gweithle a Chyfleusterau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae’r safon hon yn cynnwys goruchwylio’r gwaith o weithredu ac adolygu polisïau gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn unol â’r gofynion cyfreithiol presennol a chynllun busnes, strategaethau, systemau, gweithdrefnau a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy.
Mae’n golygu defnyddio gweithdrefnau arfer gorau, gwybodaeth broffesiynol a thechnegol a bod yn ymwybodol o’r risgiau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â phroses gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau, ac unrhyw feysydd lle gellir gwneud gwelliannau. Er mwyn goruchwylio’r gwaith o weithredu ac adolygu polisïau, rhaid gallu deall i ba gyfeiriad mae gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn mynd yn y dyfodol.
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod ac yn deall eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch bresennol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad.
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau - gall hyn fod i gleient mewnol (yn eich sefydliad) neu i gleient allanol; cyfeirir at y ddau fel y “sefydliad” o fewn y safon hon.
Bydd gofyn i reolwyr ar y lefel hon hybu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn y sefydliad.
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r gyfres safonau Rheoli Cyfleusterau a’r gyfres safonau Rheoli ac Arwain a reolir gan Instructus.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. llunio polisïau ar gyfer gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau sy’n bodloni gofynion y cynllun busnes cyffredinol a strategaeth y sefydliad
3. datblygu prosesau a gweithdrefnau sy’n adlewyrchu polisi a strategaeth y sefydliad o ran gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau
4. nodi a mabwysiadu strategaethau rheoli ynni sy’n gydnaws ag amcanion, systemau, polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes a pholisïau arferion cynaliadwy
5. rhoi gwybod i’r rhai sy’n ymwneud â gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau, ac sy’n cael eu heffeithio ganddynt, ynglŷn â sut maen nhw'n rhan o’r sefydliad, ac ategu hyn gyda’r wybodaeth ofynnol
6. goruchwylio’r gwaith o roi prosesau a gweithdrefnau gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau ar waith
7. dyrannu rolau o fewn y sefydliad ar gyfer gweithredu polisïau gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau a’r cyfrifoldebau dros brosesau a gweithdrefnau
8. dyrannu adnoddau ar gyfer gweithredu prosesau a gweithdrefnau gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau
9. nodi’r costau, y blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd o ran darparu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau ac aseinio amcanion i bobl ar gyfer rheoli’r rhain, ynghyd ag adnoddau cysylltiedig
10. datblygu fframwaith ar gyfer adolygu ac adrodd ar reoli polisïau, prosesau a gweithdrefnau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
11. monitro polisïau, prosesau a gweithdrefnau gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yn rheolaidd, gan wneud argymhellion sy’n nodi’r arferion gorau, y risgiau, y cyfleoedd a’r meysydd i’w gwella
12. defnyddio gwybodaeth broffesiynol a thechnegol wrth ddatblygu, monitro a diweddaru polisïau a gweithdrefnau
13. cadarnhau bod y sefydliad yn gweithredu o fewn y gofynion cyfreithiol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol presennol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. eich cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. amcanion strategol y sefydliad a, lle bo hynny’n berthnasol, ei fusnes craidd
3. pam ei bod yn bwysig cael polisïau sy’n adlewyrchu cenhadaeth a diwylliant y sefydliad
4. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer datblygu polisïau a gweithdrefnau
5. gofynion o ran ansawdd a safonau eraill ar gyfer cael polisïau a gweithdrefnau ar waith
6. y mathau o ofynion rheoli ynni yn y strategaeth gyffredinol ar gyfer gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau a sut mae llunio polisïau penodol sy’n unol â pholisïau arferion cynaliadwy ac arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad, ac sy’n eu cefnogi
7. sut mae darparu gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yn gallu cyfrannu at amcanion busnes cyffredinol y sefydliad
8. sut mae polisïau a gweithdrefnau yn llywio strategaeth y sefydliad
9. sut mae datblygu polisïau gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau
10. pwysigrwydd datblygu, adolygu a gwella polisïau
11. yr ystyriaethau cyfreithiol cyfredol ar gyfer gweithredu polisïau a gweithdrefnau, ac i bwy mae’r rhai sy’n eu defnyddio yn atebol
12. y cyfrifoldeb dros oruchwylio gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn unol â’r gofynion cyfreithiol presennol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol
13. y prosesau a gweithdrefnau ar gyfer gweithredu polisi a gweithdrefnau gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau y sefydliad
14. pwysigrwydd polisïau a gweithdrefnau wrth lunio cyfeiriad y sefydliad yn y dyfodol
15. y rolau a chyfrifoldebau sy’n ofynnol i weithredu polisïau gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
16. yr adnoddau sydd ar gael ac sy'n ofynnol i weithredu prosesau a gweithdrefnau gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau
17. sut mae swyddogaethau gwahanol, boed yn broffesiynol neu dechnegol, yn cefnogi ei gilydd er mwyn darparu gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
18. sut mae datblygu a defnyddio fframwaith gwerthuso i adolygu polisïau, prosesau a gweithdrefnau gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
19. y technegau ar gyfer monitro a rheoli prosesau a gweithdrefnau gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau
20. sut mae nodi’r arferion gorau, y risgiau a’r meysydd i’w gwella mewn gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau
21. costau, risgiau a chyfleoedd y camau arfaethedig
22. y cyfrifoldeb dros weithredu polisïau gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn unol â’r gofynion cyfreithiol presennol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Arbedion effeithlonrwydd busnes
Mae hyn yn ymwneud â rheoli adnoddau fel dŵr mewn ffordd gynaliadwy, defnyddio ynni’n effeithlon a rheoli gwastraff yn unol â pholisïau arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd gweithredol. Mewn busnes, mae effeithlonrwydd yn cyfeirio at gynhyrchu nwyddau neu gynnig gwasanaethau drwy ddefnyddio’r swm lleiaf o adnoddau, fel cyfalaf, ynni ac ati. Mae busnesau effeithlon yn gallu creu cynnyrch, cynnig gwasanaethau a chyflawni eu nodau cyffredinol gyda’r lleiaf posibl o ymdrech, traul neu wastraff.
Perfformiad gweithredol
Gellir mesur perfformiad sefydliad yn erbyn safon neu ddangosydd penodedig o effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfrifoldeb amgylcheddol megis amser, cynhyrchiant, lleihau gwastraff, a chydymffurfiaeth reoleiddiol.
Cyfrifoldebau cymdeithasol
Mae cyfrifoldebau cymdeithasol yn cyfeirio at fath o gynllun busnes hunanreoleiddiol a’r ymdrechion a wneir gan gwmni i wella cymdeithas a chyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Mae’n disgrifio mentrau sy’n cael eu rhedeg gan fusnes i werthuso a chymryd cyfrifoldeb dros eu heffaith ar faterion sy’n amrywio o hawliau dynol i’r amgylchedd.
Bydd y cynllun busnes yn canolbwyntio ar sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i’r holl randdeiliaid cysylltiedig (cyflogeion, defnyddwyr, buddsoddwyr a grwpiau eraill). Ei bwrpas yw annog busnesau i redeg eu cwmnïau mewn ffordd foesegol a gweithio tuag at gael effaith fwy cadarnhaol ar gymdeithas drwy sicrhau twf cynaliadwy.
Arferion cynaliadwy
Nodweddir arferion busnes cynaliadwy gan arferion amgylcheddol gyfeillgar a sbardunir gan sefydliad at ddibenion dod yn fwy cynaliadwy. Nod y sefydliadau yw lleihau eu hôl troed amgylcheddol drwy fentrau sy’n lleihau gwastraff, stiwardiaeth amgylcheddol wael ac arferion amgylcheddol anfoesol sy’n cynnig llai o gynaliadwyedd o fewn polisïau ac arferion y sefydliad.
Mae arferion busnes cynaliadwy’n amrywio ymysg diwydiannau ac maen nhw’n aml yn benodol i’r math o sefydliad a’r cynnyrch neu’r gwasanaeth mae’n ei gynhyrchu neu’n ei ddarparu.

Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yw'r “swyddogaeth gyfundrefnol sy’n integreiddio pobl, lleoedd a phrosesau o fewn yr amgylchedd adeiledig gyda’r pwrpas o wella ansawdd bywyd pobl a chynhyrchiant y busnes craidd.” Mae gweithwyr proffesiynol ym maes gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yn gyfrifol am wasanaethau sy’n galluogi ac yn cefnogi perfformiad busnes.
Mae gan bob sefydliad gyfrifoldebau o dan y rheoliadau iechyd, diogelwch a lles cyfredol er mwyn sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y gwneir darpariaethau ar gyfer:
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau (gwasanaethau meddal)
•     Gwasanaethau meddal yw’r rhai sy’n gwneud y gweithle’n fwy dymunol neu ddiogel i weithio ynddo.

Enghreifftiau o wasanaethau meddal yw glanhau, arlwyo, diogelwch.
Rheoli Cyfleusterau (gwasanaethau caled)
•     Gwasanaethau caled yw’r rhai sy’n ymwneud â gwead ffisegol yr adeilad ac nad oes modd eu tynnu. Maen nhw’n sicrhau diogelwch a lles gweithwyr ac yn gyffredinol maen nhw’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Enghreifftiau o wasanaethau caled yw plymio, gwresogi a goleuo. Ymdrinnir â gwasanaethau caled yn y gyfres Rheoli Cyfleusterau


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Asedau

URN gwreiddiol

ASTFM502

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ystadau, Rheolwr Eiddo, Rheolwr Gwasanaethau'r Gweithle a Chyfleusterau, Rheolwr Cyfleusterau, Rheolwr Gwasanaethau’r Gweithle, Rheolwr Gwasanaethau Meddal, Rheolwr Asedau, Landlord, Pennaeth Cyfleusterau

Cod SOC

1251

Geiriau Allweddol

rheoli cyfleusterau; gwasanaethau’r gweithle; effeithlonrwydd busnes; arferion cynaliadwy