Cyfrannu at arferion cynaliadwy mewn gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau

URN: LANWFS15
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau'r Gweithle a Chyfleusterau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymdrin â chyfrannu at arferion cynaliadwy mewn gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau. Mae’n ymwneud â dangos cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol mewn arferion gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau. Mae’n golygu sefydlu a chadarnhau bod eich gweithredoedd ac arferion gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn ystyried materion cymdeithasol, amgylcheddol, cynaliadwyedd ac economaidd.
Er mwyn cyfrannu at arferion cynaliadwy mae’n rhaid deall a chydymffurfio â gofynion cyfreithiol a chynllun busnes, strategaethau, systemau, gweithdrefnau a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy.
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod ac yn deall eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch bresennol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad.
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau - gall hyn fod i gleient mewnol (yn eich sefydliad) neu i gleient allanol; cyfeirir at y ddau fel y “sefydliad” o fewn y safon hon.
Bydd gofyn i reolwyr ar y lefel hon hybu gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn y sefydliad.
Mae’r safon hon yn cysylltu â’r gyfres safonau Rheoli Cyfleusterau a’r gyfres safonau Rheoli ac Arwain a reolir gan Instructus.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. nodi, asesu a mabwysiadu arferion cynaliadwy yn unol â’r gofynion cyfreithiol presennol a pholisïau arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy’r sefydliad fel rhan o'r gwaith o ddarparu’r holl wasanaethau
3. cyfrannu at arferion cynaliadwy drwy ddefnyddio arferion gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau sy’n lleihau’r galw ar adnoddau naturiol
4. defnyddio arferion gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau sy’n sicrhau bod arferion cynaliadwy ac arbedion effeithlonrwydd busnes yn cael yr effaith fwyaf bosibl, gan gynnwys mesurau rheoli ynni a dŵr
5. defnyddio arferion sy’n lleihau effaith amgylcheddol gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau, gan gynnwys llygredd ac ôl troed carbon
6. cyfrannu at wella arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy’r sefydliad drwy sicrhau bod deunyddiau, cyfarpar a deunyddiau traul yn cael eu defnyddio’n effeithlon mewn arferion gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau
7. defnyddio technolegau a deunyddiau sy’n gyson ag egwyddorion cynaliadwyedd
8. sefydlu a chadarnhau arferion sy’n cyfrannu at effeithlonrwydd busnes a chynaliadwyedd ar sail gwerth oes gyfan
9. sefydlu a chadarnhau arferion gweithio sy’n sicrhau’r budd amgylcheddol mwyaf posibl i’r amgylchedd wedi’i reoli
10. lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer gwastraff yn effeithlon a defnyddio’r systemau sydd ar gael
11. cyfleu a hyrwyddo arferion gorau cynaliadwy i’r rhai sy’n gysylltiedig ac yr effeithir arnynt, gan gynnwys contractwyr a chyflenwyr
12. gwerthuso a chadarnhau bod rhanddeiliaid, gan gynnwys cyflenwyr a chontractwyr, yn mabwysiadu’r arferion cynaliadwy sydd ar gael
13. asesu costau, risgiau a chyfleoedd y camau arfaethedig
14. monitro a gwerthuso gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau i sefydlu a chynnal cydymffurfiaeth â pholisi arferion cynaliadwy’r sefydliad
15. cyfrannu at ddatblygu, gweithredu ac adolygu polisïau arbedion
effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
16. mabwysiadu agwedd tuag at wasanaethau’r gweithle a chyfleusterau sy'n cael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol ac ehangach
17. cadarnhau bod y sefydliad yn gweithredu o fewn y gofynion cyfreithiol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol presennol o ran arferion gorau cynaliadwy


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, codau ymarfer a pholisïau’r sefydliad, gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
2. y gofynion cyfreithiol cyfredol gan gynnwys rheoliadau sy’n ymwneud â chynaliadwyedd, rheoli ynni a diogelu’r amgylchedd a sut mae cydymffurfio â’r rhain
3. y gofynion rheoli ynni yn y strategaeth gyffredinol ar gyfer gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau sy’n unol â pholisïau arferion cynaliadwy ac arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad, ac sy’n eu cefnogi
4. y cydbwysedd rhwng ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd wrth gadarnhau cynaliadwyedd gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau
5. y cyfrifoldeb dros reoli gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn unol â’r gofynion cyfreithiol presennol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol
6. cyfraniad arferion cynaliadwy at newid yn yr hinsawdd
7. yr egwyddor o niwtraliaeth carbon a’r ffyrdd o’i chyflawni
8. arferion gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau sy’n sicrhau bod mesurau rheoli ynni yn cael yr effaith fwyaf bosibl
9. sut gall gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau ddarparu cyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth yn y sefydliad ac mewn cymunedau lleol
10. sut gall gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau ddarparu a gwella cyfleoedd a manteision cymdeithasol i’r gymuned leol ac ehangach
11. sut mae ymgysylltu â’r rhanddeiliaid a’r gymuned leol i sefydlu a chadarnhau bod gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn diwallu eu hanghenion
12. y ffyrdd o asesu a lliniaru effaith amgylcheddol
13. gweithgareddau gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
14. sut i leihau’r galw am ynni a dŵr drwy warchod ac adnewyddu adnoddau ynni
15. ffynonellau ynni adnewyddadwy a chynaliadwy a phwysigrwydd defnyddio’r rhain
16. sut mae dewis a gwneud y defnydd gorau o ddeunyddiau, defnyddiau traul, gwasanaethau a chynnyrch cynaliadwy ac ecogyfeillgar
17. y ffyrdd o leihau, ailddefnyddio, adfer a gwaredu gwastraff a defnyddio’r systemau sydd ar gael
18. rôl arferion cynaliadwy o ran cyflawni rhwymedigaethau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn unol â pholisi busnes
19. manteision rheoli cynaliadwy ac amgylcheddol i fusnesau a chymunedau
20. y berthynas rhwng dylunio cynaliadwy, adeiladu a gweithredu adeiladau a seilweithiau
21. y dulliau cyfredol o gyfathrebu materion cynaliadwyedd i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a phawb sydd â chysylltiad neu yr effeithir arnynt, gan gynnwys manteision gwneud gwelliannau a chefnogi arbedion effeithlonrwydd busnes ac arferion cynaliadwy
22. costau, risgiau a chyfleoedd y camau arfaethedig ac ar sail gwerth oes gyfan
23. y ffyrdd o sicrhau’r manteision economaidd mwyaf drwy fabwysiadu arferion cynaliadwy
24. y cyfrifoldeb dros reoli gwasanaethau’r gweithle a chyfleusterau yn unol â’r gofynion cyfreithiol presennol a’r cyfrifoldebau cymdeithasol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Arferion gorau
Mae arferion gorau yn set o ganllawiau neu foeseg sy’n cynrychioli’r dull gweithredu mwyaf effeithlon ac effeithiol ym mhob sefyllfa fusnes. Gellir penderfynu ar arferion gorau yn fewnol gan dîm rheoli'r sefydliad neu gan awdurdodau, fel rheoleiddwyr neu gyrff llywodraethu.

Arbedion effeithlonrwydd busnes
Mae hyn yn ymwneud â rheoli adnoddau fel dŵr mewn ffordd gynaliadwy, defnyddio ynni’n effeithlon a rheoli gwastraff yn unol â pholisïau arbedion effeithlonrwydd busnes y sefydliad sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd gweithredol. Mewn busnes, mae effeithlonrwydd yn cyfeirio at gynhyrchu nwyddau neu gynnig gwasanaethau drwy ddefnyddio’r swm lleiaf o adnoddau, fel cyfalaf, ynni ac ati. Gall busnesau effeithlon greu cynnyrch, cynnig gwasanaethau a chyflawni eu nodau cyffredinol gyda’r lleiaf posibl o ymdrech, traul neu wastraff.
Perfformiad gweithredol
Mae hyn yn cyfeirio at berfformiad sefydliad yn erbyn safon neu ddangosydd penodedig o effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfrifoldeb amgylcheddol. Gallai’r dangosyddion hyn gynnwys amser, cynhyrchiant, lleihau gwastraff, a chydymffurfio â rheoliadau.
Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG)
Mae cytundeb lefel gwasanaeth (CLG) yn ymrwymiad rhwng darparwr gwasanaeth a chleient. Mae agweddau ar y gwasanaeth – ansawdd, argaeledd, cyfrifoldebau – yn cael eu cytuno rhwng y darparwr gwasanaeth a’r defnyddiwr gwasanaeth. Elfen fwyaf cyffredin CLG yw y dylid darparu’r gwasanaethau i’r cwsmer fel y cytunwyd yn y contract.
Cyfrifoldebau cymdeithasol
Mae cyfrifoldebau cymdeithasol yn cyfeirio at fath o gynllun busnes hunanreoleiddiol a’r ymdrechion a wneir gan gwmni i wella cymdeithas a chyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Mae’n disgrifio mentrau sy’n cael eu rhedeg gan fusnes i werthuso a chymryd cyfrifoldeb dros eu heffaith ar faterion sy’n amrywio o hawliau dynol i’r amgylchedd.
Bydd y cynllun busnes yn canolbwyntio ar sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i’r holl randdeiliaid cysylltiedig (cyflogeion, defnyddwyr, buddsoddwyr a grwpiau eraill).
Ei bwrpas yw annog busnesau i redeg eu cwmnïau mewn ffordd foesegol a gweithio tuag at gael effaith fwy cadarnhaol ar gymdeithas drwy sicrhau twf cynaliadwy.

Arferion cynaliadwy
Nodweddir arferion busnes cynaliadwy gan arferion amgylcheddol gyfeillgar a sbardunir gan sefydliad at ddibenion dod yn fwy cynaliadwy. Nod y sefydliadau yw lleihau eu hôl troed amgylcheddol drwy fentrau sy’n lleihau gwastraff, stiwardiaeth amgylcheddol wael ac arferion amgylcheddol anfoesol fel eu bod yn cynnig llai o gynaliadwyedd o fewn polisïau ac arferion y sefydliad.
Mae arferion busnes cynaliadwy’n amrywio rhwng diwydiannau ac maen nhw’n aml yn benodol i’r math o sefydliad a’r cynnyrch neu’r gwasanaeth mae’n ei gynhyrchu neu’n ei ddarparu.
Costio oes gyfan
Mae costio oes gyfan yn cynhyrchu gwerth oes gyfan, sy’n ystyried cyfanswm cost cynnyrch neu wasanaeth dros ei oes, o’r cysyniad hyd at waredu gan gynnwys prynu, llogi neu brydlesu, cynnal a chadw, defnyddio, hyfforddiant a gwaredu. Mae’n bwysig i gaffael ystyried yr holl elfennau hyn yn enwedig wrth wneud penderfyniadau a chymharu costau prynu, rhentu neu brydlesu offer. Yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond cyfran fach o gost defnyddio’r offer yw’r costau prynu.
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yw'r “swyddogaeth gyfundrefnol sy’n integreiddio pobl, lleoedd a phrosesau o fewn yr amgylchedd adeiledig gyda’r nod o wella ansawdd bywyd pobl a chynhyrchiant y busnes craidd.” Mae gweithwyr proffesiynol ym maes gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau yn gyfrifol am wasanaethau sy’n galluogi ac yn cefnogi perfformiad busnes.
Mae gan bob sefydliad gyfrifoldebau o dan y rheoliadau iechyd, diogelwch a lles cyfredol er mwyn sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y gwneir darpariaethau ar gyfer:
Gwasanaethau'r gweithle a chyfleusterau (gwasanaethau meddal)
•     Gwasanaethau meddal yw’r rhai sy’n gwneud y gweithle’n fwy dymunol neu ddiogel i weithio ynddo.
Enghreifftiau o wasanaethau meddal yw glanhau, arlwyo, diogelwc
Rheoli Cyfleusterau (gwasanaethau caled)
•     Gwasanaethau caled yw’r rhai sy’n ymwneud â gwead ffisegol yr
adeilad ac nad oes modd eu tynnu. Maen nhw’n sicrhau diogelwch a lles gweithwyr ac yn gyffredinol maen nhw’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Enghreifftiau o wasanaethau caled yw plymio, gwresogi a goleuo.

Ymdrinnir â gwasanaethau caled yn y gyfres Rheoli Cyfleusterau


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Asedau

URN gwreiddiol

ASTFM419

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ystadau, Rheolwr Eiddo, Rheolwr Gwasanaethau'r Gweithle a Chyfleusterau, Rheolwr Cyfleusterau, Rheolwr Gwasanaethau’r Gweithle, Rheolwr Gwasanaethau Meddal, Rheolwr Asedau, Landlord, Pennaeth Cyfleusterau

Cod SOC

1251

Geiriau Allweddol

rheoli cyfleusterau; gwasanaethau’r gweithle; effeithlonrwydd busnes; arferion cynaliadwy