Monitro a chynnal y gwaith o dderbyn a dethol wyau ar gyfer deori neu ddeor

URN: LANLP33
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys monitro a chynnal y gwaith o dderbyn a dethol wyau ar gyfer deori neu ddeor. 

Rydych yn debygol o fod â chyfrifoldeb cyffredinol dros y rhan hon o’r cynhyrchu a chael cymorth yn y rhinwedd hon gan weithwyr eraill. Bydd angen gwybodaeth drylwyr a sgiliau ymarferol arnoch ac mae’n rhaid eich bod yn gallu nodi a datrys unrhyw broblemau fydd yn digwydd.
   
Wrth weithio gydag anifeiliaid neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar dystysgrif gyfredol, lle bo angen.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am fonitro a chynnal y gwaith o dderbyn a dethol wyau ar gyfer deori neu ddeor.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i gael ei wneud
  2. cadarnhau bod dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael eu gwisgo
  3. cadarnhau bod yr offer, y cyfarpar a’r deunyddiau sydd eu hangen yn cael eu dethol, eu paratoi, eu defnyddio a’u cynnal a’u cadw yn ddiogel ac yn gywir
  4. cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
  5. monitro’r systemau ar gyfer dethol a derbyn wyau ar gyfer deor
  6. cadarnhau bod yr wyau sydd yn dod i mewn yn cael eu nodi a bod unrhyw anghysondebau yn cael eu trin yn unol ag arferion busnes
  7. monitro glendid yr wyau a chadarnhau eu bod mewn cyflwr addas at ddibenion chynhyrchu
  8. cynnal amodau storio 
  9. cadarnhau bod yr wyau’n cael eu nodi, eu trin, eu graddio a’u gosod mewn hambyrddau yn gywir yn barod ar gyfer deori, deor a storio, tra’n cynnal y mesurau rheoli angenrheidiol
  10. sicrhau bod cemegau’n cael eu defnyddio’n ddiogel, ar y cyfraddau gwanhau cywir, ac yn unol â’r rheoliadau iechyd a diogelwch perthnasol a chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
  11. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â’r gwaith
  12. rheoli gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
  13. gwneud yr holl waith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
  14. cadarnhau bod y cofnodion yn cael eu cynnal a’u storio, fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau sydd yn angenrheidiol a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir
  4. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  5. pwysigrwydd monitro’r system ar gyfer dethol a derbyn wyau ar gyfer deori a deor
  6. y dulliau ar gyfer nodi’r ffynhonnell, y dyddiad dodwy, nifer a chôd yr wyau sydd yn dod i mewn
  7. y mathau o anghysondebau a allai ddigwydd wrth nodi wyau sydd yn dod i mewn a’r ffordd y dylid ymdrin â’r rhain
  8. y dulliau o fonitro glanhau wyau a chyflwr angenrheidiol yr wyau ar ôl eu glanhau
  9. y wybodaeth am wyau sydd yn dod i mewn a’r broses ar gyfer cofnodi ac adrodd
  10. y ffyrdd y dylid nodi, trin, graddio a rhoi wyau ar hambyrddau a’r mesurau rheoli angenrheidiol
  11. y ffordd y dylid gwaredu wyau anaddas a pham y mae’r dull hwn yn dal i gael ei ddefnyddio
  12. sut i nodi ansawdd yr wyau a’r ffordd y mae hyn yn effeithio ar dymheredd ac amodau storio
  13. y cemegau a ddefnyddir a’r cyfraddau gwanhau
  14. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith a’r ffordd y dylid gwneud hyn
  15. pwysigrwydd bodloni safonau diogelwch bwyd a sicrwydd ansawdd perthnasol y diwydiant
  16. sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff, yn unol â’r arferion cyfreithiol a busnes perthnasol
  17. eich cyfrifoldebau dros les yr adar yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol a chodau ymarfer
  18. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a lles berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  19. y dulliau o reoli stoc, cadw cofnodion ac adrodd a ddefnyddir gan y busnes


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLP33

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Rheolwr Uned, Goruchwyliwr, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

iâr; aderyn; twrci; dofednod; wyau; deori; deor