Monitro a chynnal cynhyrchiant wyau

URN: LANLP31
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys monitro a chynnal cynhyrchiant wyau trwy gynnal haid o adar sydd yn dodwy.
 
Caiff cynhyrchu wyau ei fonitro o’r pwynt dodwy hyd nes bod yr haid wedi symud/cael eu lladd. Mae’n cynnwys cyflawni’r gweithgareddau angenrheidiol i ddod ag adar i ddodwy, ar yr adeg iawn, ac i gynhyrchu’r nifer gorau o wyau.

Rydych yn debygol o fod â chyfrifoldeb cyffredinol dros y rhan hon o’r cynhyrchu a chael cymorth yn rhinwedd y swydd hon gan weithwyr eraill. Bydd angen gwybodaeth a sgiliau ymarferol sylweddol arnoch ac mae’n rhaid eich bod yn gallu nodi a datrys unrhyw broblemau sydd yn digwydd.
   
Wrth weithio gydag anifeiliaid neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar yr ardystiad cywir lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am fonitro a chynnal cynhyrchiant wyau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i gael ei wneud
  2. cadarnhau bod dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael eu gwisgo
  3. cadarnhau bod yr offer, y cyfarpar a’r deunyddiau angenrheidiol yn cael eu dewis, eu paratoi, eu defnyddio a’u cynnal a’u cadw yn ddiogel ac yn gywir
  4. cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
  5. monitro cynhyrchiant wyau yn erbyn y cynllun cynhyrchu wyau
  6. monitro a chynnal adnoddau i gynyddu cynhyrchiant wyau
  7. monitro datblygiad a chynhyrchiant yr adar yn rheolaidd, a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol
  8. monitro a chynnal yr amodau amgylcheddol priodol, yn unol â gofynion busnes
  9. monitro ymddygiad yr adar, nodi pryderon, a chymryd y camau perthnasol
  10. monitro a chynnal ansawdd wyau, nodi pryderon yn ymwneud ag ansawdd wyau, a chymryd y camau perthnasol
  11. nodi ffactorau sy’n effeithio ar berfformiad yr wyau, a chymryd y camau perthnasol
  12. cael a gwerthuso cyngor arbenigol lle bo angen, yn cynnwys eich milfeddyg
  13. dehongli’r cofnodion cynhyrchu, a chymryd y camau angenrheidiol
  14. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â’r gwaith
  15. rheoli gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
  16. gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
  17. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a’u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sydd yn gysylltiedig â chynnal cynhyrchiant wyau
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau sydd eu hangen, a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir
  4. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch, a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  5. yr adnoddau sydd eu hangen i wella lles a chynhyrchiant adar
  6. pwysigrwydd monitro datblygiad a chynhyrchiant adar i’r busnes 
  7. y camau i’w cymryd pan nad yw perfformiad yn bodloni cynlluniau cynhyrchu
  8. pwysigrwydd monitro a chynnal yr amodau amgylcheddol 
  9. y newidiadau sydd yn gallu digwydd mewn amodau amgylcheddol, a’r camau i’w cymryd yn yr achos hwn
  10. ymddygiad arferol ac anarferol yr adar 
  11. y ffyrdd o fonitro a chynnal cynhyrchiant ac ansawdd wyau
  12. lefelau cynhyrchu gorau yr adar
  13. y ffactorau sy’n effeithio ar lefel perfformiad yr adar, a’r camau i’w cymryd i wella’r perfformiad
  14. ffynonellau dibynadwy cyngor arbenigol, yn cynnwys eich mifeddyg
  15. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith a’r ffordd y dylid gwneud hyn
  16. pwysigrwydd bodloni safonau sicrhau ansawdd perthnasol diogelwch bwyd a’r diwydiant
  17. sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff, yn unol â’r arferion cyfreithiol a busnes perthnasol
  18. eich cyfrifoldebau dros les adar yn unol â’r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid a’r codau ymarfer perthnasol
  19. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  20. y dulliau o reoli stoc, cadw cofnodion ac adrodd a ddefnyddir gan y busnes


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Amodau amgylcheddol: 
tywydd
lleithder
tai
deunydd gwely
golau
gwres


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLP31

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Rheolwr Uned, Goruchwyliwr, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

dofednod; adar; deor; dodwy; wyau