Cyflawni a chwblhau’r gwaith o gneifio anifeiliaid

URN: LANLP14
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys cyflawni a chwblhau’r gwaith o gneifio anifeiliaid, yn cynnwys defaid, camelod a geifr. Mae’n rhaid i anifeiliaid fod yn sych ac yn rhydd o faw a thameidiau gormodol cyn cael eu cneifio a dylai’r cneifio gael ei wneud ar gyflymder sy’n dderbyniol yn fasnachol.
   
Trwy gydol y gwaith mae’n rhaid cynnal llesiant a lles cyffredinol yr anifeiliaid. Os bydd toriadau’n digwydd, mae’n rhaid eich bod yn gallu taenu’r triniaethau priodol ar yr anifeiliaid ar unwaith. 

Mae’n rhaid i’r cynnyrch gorffenedig (cnu neu ffeibr) gael ei rolio’n gywir a’i storio mewn bagiau gwlân i atal niwed. Mae’n rhaid i’r ardal waith gael ei hadfer i gyflwr addas ar ôl cwblhau’r cneifio hefyd.
   
Wrth weithio gydag anifeiliaid neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol. 

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn cyflawni ac yn cwblhau’r gwaith o gneifio anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau cyn gwneud y gwaith o gneifio anifeiliaid 
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  3. cadarnhau bod y lleoliad cneifio mewn ardal sydd yn addas ar gyfer yr anifeiliaid a’r cneifwyr
  4. cadarnhau bod yr ardal waith yn ddiogel, yn lân ac yn addas ar gyfer cneifio, yn cynnwys cyflenwad trydan diogel gyda nodweddion diogelwch priodol
  5. dewis, paratoi, defnyddio a storio’r offer a’r cyfarpar angenrheidiol yn ddiogel ac yn gywir
  6. cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
  7. casglu’r anifeiliaid sydd yn aros i gael eu cneifio, yn ddiogel ac yn unol â’r niferoedd priodol, mewn ardal gadw addas
  8. cadarnhau bod yr anifeiliaid yn sych, yn rhydd o faw a thameidiau gormodol, ac yn addas ar gyfer eu cneifio
  9. nodi ac ymdrin ag anifeiliaid sydd yn anaddas ar gyfer eu cneifio
  10. trin a gosod anifeiliaid yn gywir bob amser tra’n cyflawni’r cneifio
  11. cynnal llesiant a lles cyffredinol yr anifeiliaid bob amser
  12. cynnal ansawdd y cnu/ffeibr tra’n cyflawni’r cneifio
  13. tynnu’r cnu/ffeibr gan achosi’r straen a’r anafiadau lleiaf posibl i’r anifeiliaid
  14. gwneud yr addasiadau priodol i’r broses gneifio lle gallai newidiadau mewn amodau leihau ansawdd y cnu/ffeibr
  15. taenu triniaethau a gosod prawf adnabod, lle bo angen, ar yr anifeiliaid ar ôl cwblhau’r cneifio
  16. symud anifeiliaid o’r ardal waith ar ôl cwblhau’r cneifio, yn ddiogel ac mewn ffordd sy’n achosi’r straen lleiaf posibl
  17. didoli a graddio cnu/ffeibrau fel y bo angen, wrth gwblhau’r cneifio, a’u gorchuddio a’u storio’n gywir ac mewn ffordd sydd yn cynnal eu hansawdd
  18. gadael yr ardal waith mewn cyflwr addas, yn barod ar gyfer ei defnyddio yn y dyfodol a chyda’r offer a’r cyfarpar yn lân ac yn barod i’w felino neu ei hogi
  19. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  20. prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
  21. gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch berthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
  22. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau’r ardaloedd gwaith a’r gweithgaredd cneifio, yn cynnwys diogelwch y cyflenwad pŵer
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y mathau o offer a chyfarpar sydd eu hangen ar gyfer cneifio anifeiliaid a sut i baratoi, cynnal a chadw, defnyddio a storio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir
  4. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  5. y systemau ymdrin addas sy’n briodol ar gyfer cneifio anifeiliaid
  6. yr ardaloedd cadw addas ar gyfer anifeiliaid a’r angen i ardaloedd o’r fath fod yn gadarn
  7. cyflwr ac ymddangosiad anifeiliaid sydd yn addas ar gyfer y weithdrefn gneifio, a’r rhesymau pam y gallai anifeiliaid fod yn anaddas ar gyfer eu cneifio
  8. pwysigrwydd amseru ar gyfer cneifio bridiau gwahanol ac mewn lleoliadau gwahanol 
  9. y dulliau o drin a gosod anifeiliaid wrth gneifio
  10. y ffyrdd y mae anifeiliaid yn ymateb i’ch ymddygiad a’r dulliau addas o ymdrin ag anifeiliaid anodd
  11. y rhesymau dros, a’r dulliau o, gynnal lles yr anifeiliaid wrth gyflawni, a chwblhau, cneifio
  12. pwysigrwydd tynnu’r cnu a pham y mae cnu cyflawn, heb eu niweidio yn fwy dymunol
  13. y mathau o niwed i’r cnu/ffeibr a allai ddigwydd tra’n cyflawni’r cneifio, a’r ffyrdd y gellir lleihau’r rhain
  14. yr effeithiau y gall newidiadau yn y tywydd a pherfformiad y cyfarpar eu cael ar gneifio, a’r addasiadau y gellir eu gwneud i’r broses gneifio
  15. y mathau o anaf i’r anifeiliaid a allai ddigwydd, a’r ffyrdd y mae’n rhaid lleihau’r rhain
  16. y mathau o driniaethau ar gyfer anifeiliaid a allai fod yn angenrheidiol a sut dylid taenu’r rhain
  17. pwysigrwydd cneifio, yn fasnachol ac ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid
  18. y gofynion ar gyfer didoli a graddio cnu/ffeibrau lle bo angen, a’r dulliau o’u lapio a’u storio mewn ardal lân, sych i gynnal eu hansawdd
  19. y rhesymau pam y dylid gadael yr ardal waith, yr offer a’r cyfarpar yn lan ac yn y cyflwr cywir ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol
  20. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a’r ffordd y dylid gwneud hyn
  21. sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
  22. eich cyfrifoldebau dros les anifeiliaid yn unol â deddfwraieth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  23. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  24. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Mae camelod yn cynnwys: lamaod, alpacas


Dolenni I NOS Eraill

​LANLP18 Cyflwyno triniaethau i anifeiliaid 


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLP14

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

dafad; gafr; lama; alpaca; anifeiliaid; cnu; ffeibr; cneifio