Cyflawni a chwblhau’r gwaith o odro anifeiliaid

URN: LANLP10
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys cyflawni a chwblhau’r gwaith o odro anifeiliaid, yn cynnwys gwartheg, geifr a defaid.
 
Bydd angen i chi gynnal cyflwr a lles yr anifeiliaid trwy gydol y gwaith o odro. Mae hyn yn cynnwys gwneud y godro ei hun, a thra bod yr anifeiliaid yn dod i mewn i’r parlwr godro ac yn gadael. Wrth gwblhau’r gwaith o odro, mae’n rhaid glanhau a diheintio’r ardal waith a’r cyfarpar yn drwyadl.
   
Wrth weithio gydag anifeiliaid a pheiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am gyflawni a chwblhau’r gwaith o odro anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd angenrheidiol
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  3. cadarnhau bod yr ardal waith a’r cyfarpar godro mewn cyflwr addas, cyn cyflawni’r gwaith o odro anifeiliaid
  4. cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
  5. casglu anifeiliaid sydd yn aros i gael eu godro, gan gynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun a lles yr anifeiliaid bob amser
  6. arsylwi ymddygiad a gweithgaredd yr anifeiliaid a nodi ac adrodd ar unrhyw broblemau
  7. darparu porthiant os yw’r anifeiliaid i gael eu bwydo wrth odro
  8. paratoi cadeiriau/pyrsiau ar gyfer godro, gan sicrhau eu bod mewn cyflwr glân ac iach, a chysylltu’r unedau yn gywir
  9. gwirio a monitro gweithrediad y cyfarpar, cyn ac yn ystod y broses o odro
  10. nodi ac ymdrin ag anifeiliaid sy’n cynhyrchu llaeth sydd yn anaddas i gael ei ddefnyddio gan bobl
  11. symud a gosod unedau yn y safle cywir pan fydd llif y llaeth yn methu
  12. taenu’n triniaethau gofynnol ar yr anifeiliaid ar ôl cwblhau’r godro, yn unol â gofynion hylendid a pholisi busnes
  13. cwblhau gweithdrefnau godro o fewn y graddfeydd amser priodol
  14. cadarnhau bod y llaeth yn rhydd rhag halogiad
  15. ymdrin â llaeth sydd yn anaddas ar gyfer ei ddefnyddio gan bobl, yn ddiogel ac yn gywir
  16. symud yr anifeiliaid o’r ardal odro mewn ffordd sy’n achosi cyn lleied o straen â phosibl
  17. cwblhau gweithdrefnau glanhau ar ôl godro, gan adael yr ardal waith a’r cyfarpar yn y cyflwr cywir ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol
  18. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  19. gwneud eich gwaith i gyd yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
  20. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sydd yn gysylltiedig â godro anifeiliaid
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y math o barlwr godro sy’n cael ei ddefnyddio a’r cyfarpar sydd yn angenrheidiol ar gyfer godro 
  4. sut i gynnal a chadw a defnyddio’r cyfarpar, yn ddiogel ac yn gywir
  5. y gofynion hylendid a bioddiogelwch mewn perthynas â godro anifeiliaid
  6. sut i adnabod anifeiliaid iach ac arwyddion salwch
  7. y rhesymau dros fwydo anifeiliaid wrth eu godro, a’r dulliau gwahanol o wneud hyn
  8. safle cywir anifeiliaid yn yr ardal odro
  9. y ffyrdd y mae anifeiliaid yn ymateb i’ch ymddygiad, a’r dulliau ar gyfer ymdrin ag anifeiliaid anodd yn ddiogel
  10. y dulliau o baratoi cadeiriau/pyrsiau ar gyfer godro, i gynnwys glanhau a gwiriadau cyn godro
  11. sut i adnabod cadair lân
  12. arwyddion mastitis mewn anifeiliaid, y rhesymau pam y dylid gwaredu llaeth o’r fath a’r gweithdrefnau ar gyfer gwaredu
  13. y ffyrdd o nodi ac ymdrin ag anifeiliaid sy’n cynhyrchu llaeth sydd yn anaddas i gael ei ddefnyddio gan bobl
  14. y ffyrdd y gellir halogi llaeth a’r dulliau ar gyfer lleihau hyn 
  15. sut i fonitro gweithrediad y cyfarpar godro
  16. y triniaethau y gellir eu taenu ar anifeiliaid ar ôl cwblhau’r gwaith o odro, a phryd fyddai angen y rhain 
  17. y mathau o broblemau a allai ddigwydd wrth odro a therfynau eich cyfrifoldeb mewn perthynas â datrys problemau a nodir
  18. y rhesymau pam y mae graddfeydd amser yn bwysig wrth odro anifeiliaid 
  19. dulliau profi llaeth a phwysigrwydd hyn 
  20. y safonau diogelwch bwyd mewn perthynas â godro a phwysigrwydd cadw atynt 
  21. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a’r ffordd y dylid gwneud hyn
  22. eich cyfrifoldebau ar gyfer lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  23. eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  24. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLP10

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Technegydd Anifeiliaid Fferm, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

buwch; gafr; dafad; cadair; godro