Cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – prosesau uno thermol

URN: LANLEO9
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – prosesau uno thermol. Mae’n cynnwys tymheredd uchel ac isel, technegau ymdoddi a rhai nad ydynt yn ymdoddi, a ddefnyddir mewn atgyweirio a chynhyrchu.

Nid yw hyn yn cynnwys atgyweirio cydrannau hanfodol diogelwch.

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Wrth weithio ar gerbydau foltedd uchel (foltedd peryglus /HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.

Noder – yn unol â rheoliadau cyfredol mae’n rhaid i waith trydan o’r brif gyflenwad gael ei wneud gan berson cymwys, trydanwr fel arfer.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. bod yn ymwybodol o’r peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
  2. bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  3. dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) a chadarnhau bod system awyru addas yn cael ei defnyddio yn unol â gofynion iechyd a diogelwch
  4. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw, a storio’r offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i wneud y gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  5. nodi deunyddiau i gael eu huno a’u haddsrwydd ar gyfer uno thermol, naill ai prosesau weldio, weldio efydd neu sodro
  6. paratoi’r gweithle a’r cyfarpar i gyflawni proses uno thermol 
  7. paratoi’r deunyddiau a’r cymalau yn unol â’r broses uno thermol sydd yn cael ei defnyddio 
  8. cymhwyso egwyddorion a thechnegau craidd peirianneg ar y tir i gyflawni uno thermol, gan gynhyrchu cymalau o’r fanyleb ofynnol
  9. nodi namau mewn cymalau wedi eu weldio, weldio efydd ac wedi eu sodro gan ddefnyddio technegau archwilio perthnasol
  10. archwilio a chynnal a chadw cyfarpar a ddefnyddir i gyflawni uno thermol a newid y deunydd traul a ddefnyddir mewn prosesau uno
  11. cau’r cyfarpar i lawr a’i adael mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau gweithgareddau uno thermol  
  12. gadael y gweithle mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau’r gweithgaredd
  13. ymdrin â’r mathau gwahanol o wastraff, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol 
  14. cwblhau cofnodion fel y bo angen yn unol â chyfarwyddiadau’r cwmni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig ag uno thermol, yn cynnwys mygdarthau, ffrwydriadau, tân, ymylon miniog, malurion yn yr aer ac anaf personol, a sut gellir diogelu rhag y rhain
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd a phwysigrwydd system awyru addas
  3. yr offer a’r cyfarpar sydd yn angenrheidiol i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  4. sut i adnabod deunyddiau fferrus a rhai nad ydynt yn fferrus a’u prosesau uno thermol perthnasol
  5. nodweddion prosesau uno thermol gwahanol 
  6. yr amrywiaeth o dechnegau sydd yn angenrheidiol i baratoi deunydd cyn uno thermol
  7. y gweithdrefnau paratoi ac uno ar gyfer cymalau 
  8. yr egwyddorion a’r technegau ar gyfer uno deunyddiau fferrus a rhai nad ydynt yn fferrus gan ddefnyddio dulliau weldio a sodro nwy neu drydan
  9. sut i reoli afluniad a weldio diffygion
  10. sut i ddewis, paratoi a gosod y cyfarpar nwy neu drydan perthnasol i gyflawni prosesau uno thermol 
  11. nodweddion a diben fflwcs
  12. swyddogaeth sorod weldio a’i dynnu
  13. sut i ganfod a nodi namau yn gywir a’u hachosion mewn cymalau wedi eu weldio, weldio efydd a’u sodro, gan ddefnyddio archwiliad gweledol, gweithdrefnau nad ydynt yn ddinistriol a dinistriol, gan brofi am ollyngiadau
  14. pwysigrwydd gadael y gweithle mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau’r gweithgaredd
  15. sut i ymdrin â’r mathau gwahanol o wastraff, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achosir gan y gweithgaredd, yn unol â chyfarwyddiadau a gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol
  16. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  17. y cofnodion y mae angen eu cwblhau a gweithdrefn y cwmni ar gyfer hyn


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


cyfarpar trydan – yn cynnwys arc metel (MMA), nwy anadweithiol metel (MIG), nwy gweithredol metel (MAG), nwy anadweithiol tungsten (TIG) a chyfarpar sodro

namau - e.e. tandorri, trapiau sorod, treiddiad annigonol, cracio 

cyfarpar nwy – yn cynnwys Ocsi asetylen

archwilio a chynnal a chadw cyfarpar - e.e. glanhau blaenau nwy, newid silindrau nwy a sbwliau weiren weldio

cymalau – yn cynnwys bôn, gorunol, rhimyn, unigol, cymalau aml-rediad, hoelio, gosod a chlampio

paratoi cyfarpar – yn cynnwys gosod pwysau, ac amperedd, folteddau, dewis meintiau electrodau, meintiau blaenau a dewis fflycsiau ar gyfer weldio efydd a sodro

uno thermal yn cynnwys weldio ac uno nad yw’n ymasio, e.e. sodro a phresyddu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO9

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2129

Geiriau Allweddol

peirianneg; egwyddorion; weldio; sodro; presyddu; ar y tir; cyfarpar; peiriannau