Cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – gwasanaethu a chynnal a chadw
URN: LANLEO8
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – gwasanaethu a chynnal a chadw. Mae’n cynnwys yr rheidrwydd i wasanaethu a chynnal a chadw, adeiladwaith a gweithrediad cydrannau gwasanaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol i gyflawni’r gwasanaethu a’r cynnal a’r cadw yn cynnwys, glanhau cyn, yn ystod ac ar ôl, diogelu peiriannau ac eiddo rhag niwed, newid a glanhau eitemau gwasanaeth, gwaedu a llenwi systemau tanwydd, olew, oeri, hydrolig, niwmatig a gwresogi, selio cydrannau gwasanaeth, gwirio gweithrediad peiriannau yn erbyn meini prawf cynhyrchwyr a gwneud addasiadau.
Mae’n cynnwys archwilio a phrofi perfformiad ar gyfer diffyg cydymffurfio, cam-drin, defnyddioldeb, gwaith atgyweirio ychwanegol, gollyngiadau a thraul.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi eich hyfforddi ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Wrth weithio ar gerbydau foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso cerbydau trydan gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.
Noder – yn unol â’r rheoliadau cyfredol mae’n rhaid i waith trydan prif gyflenwad gael ei wneud gan berson cymwys, trydanwr fel arfer.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o’r peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
- bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
- dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a storio’r offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- sicrhau bod y cyfarpar ar y tir y mae angen ei wasanaethu a’i gynnal a’i gadw yn ddiogel ac wedi ei ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen, cyn bod y gwaith yn dechrau
- cynnal archwiliad gweledol o’r cyfarpar ar y tir ac archwilio data perthnasol i asesu gofynion ar gyfer gwasanethu a chynnal a chadw
- nodi a sefydlu argaeledd eitemau defnyddiol sydd eu hangen ar gyfer y gwaith
- paratoi’r cyfarpar ar y tir a’r ardal waith cyn cynnal y gwaith gwasanaethu a chynnal a chadw
- cynnal y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogi a pheryglon lle bo angen
- cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir i wasanaethu a chynnal a chadw cyfarpar ar y tir yn unol â gofynion ac amserlenni’r cynhyrchwyr
- glanhau neu newid eitemau defnyddiol
- gwirio lefel, integredd ac addasrwydd hylifau ar gyfer y cymhwysiad a draenio ac adnewyddu lle bo angen
- newid ac ailosod hidlwyr a seliau
- symud ac adnewyddu cydrannau sydd wedi methu
- gwirio ac addasu cydrannau yn unol â’r goddefiannau gofynnol
- adfer cyfarpar ar y tir i’w gyflwr gweithredol cywir ar ôl ei wasanaethu a’i gynnal a’i gadw
- cadarnhau bod y cyfarpar wedi ei osod yn gywir neu wedi ei raddnodi yn dilyn gwasanaethu a chynnal a chadw
- cynnal archwiliadau ac asesiadau o gyfarpar er mwyn cydymffurfio â manylebau’r cynhyrchydd a gofynion y cwsmer ar ôl gwasanaethu a chynnal a chadw
- sicrhau y bydd teclynnau llusgo fydd yn cael eu defnyddio ar briffyrdd cyhoeddus yn bodloni’r gofynion cyfreithiol
- cyflawni profion perfformiad a gweithredol wrth wasanaethu a chynnal a chadw, yn ymwneud â’r gwaith sydd wedi cael ei gyflawni
- gadael y gweithle mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau’r gweithgaredd
- ymdrin â’r mathau gwahanol o wastraff, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, yn unol â’r cyfarwyddiadau a gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol
- cwblhau cofnodion fel y bo angen yn unol â chyfarwyddiadau’r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â pheirianneg ar y tir
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- yr offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- y rhesymau dros wasanaethu a chynnal a chadw a’r camau i’w cymryd ar adegau cynnal a chadw gwahanol
- sut i asesu’r gofynion gwasanaethu a chynnal a chadw ar gyfer cyfarpar ar y tir, yn cynnwys arsylwi ac archwilio gweledol, cwestiynu codau namau a gwirio data perthnasol arall
- yr eitemau defnyddiol angenrheidiol i gyflawni’r gwasanaethu a’r cynnal a’r cadw a’r gweithdrefnau ar gyfer eu caffael
- sut i baratoi cyfarpar ar y tir cyn gwasanaethu a chynnal a chadw
- y dulliau a ddefnyddir i lanhau a diogelu cyfarpar cyn ac yn ystod gwasanaethu a chynnal a chadw, gan osgoi, niwed i’r paent, y trim a’r corff, a chyflwyniad difwynwyr
- cemegau, nwyon a sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a ffyrdd y dylid ymdrin â nhw
- sut i ymdrin â gollyngiadau cemegau a deunyddiau peryglus
- y gweithdrefnau ar gyfer draenio hylifau a chasglu samplau ar gyfer eu dadansoddi
- y dulliau ar gyfer gwacáu aer o systemau tanwydd, oeri, gwresogi, brecio a thynnu dŵr o systemau tanwydd, cylchedau hydrolig a niwmatig wrth wasanaethu a chynnal a chadw
- y dulliau o ganfod a dileu gollyngiadau
- y mathau o hidlwyr, eu hadeiladwaith, eu swyddogaeth a’u gofynion gwasanaethu
- y mathau o seliau, eu hadeiladwaith, eu swyddogaeth a’u gosodiad
- sut i symud ac adnewyddu cydrannau sydd wedi methu
- sut i wirio a gwneud addasiadau
- yr hyn a olygir wrth y term ‘rhedeg i mewn’/‘gosod’
- sut i adfer cyfarpar ar y tir i gyflwr gweithredol cywir ar ôl gwasanaethu a chynnal a chadw, yn cynnwys ailosog logiau gwasanaeth
- dulliau ar gyfer gosod neu raddnodi cyfarpar ar ôl ei wasanaethu a’i gynnal a’i gadw
- y dulliau a ddefnyddir i brofi perfformimad cyfarpar ar ôl gwasanaethu a chynnal a chadw
- goblygiadau cyfreithiol addasu systemau diogelu gwrthrychau sy’n syrthio (FOPS) neu systemau diogelu rholio drosodd (ROPS)
- pwysigrwydd gadael y gweithle mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau’r gweithgaredd
- sut i ymdrin â’r mathau gwahanol o wastraff, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol
- yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
- y cofnodion sydd angen eu cwblhau a gweithdrefn y cwmni ar gyfer hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
addasiadau - e.e. tensiynau strapiau a chadwyni, cliriadau, gosodiadau ceblau a chysylltiadau, systemau olrhain
cydymffurfio â manylebau’r cynhyrchydd - e.e. addasu diawdurdod, llwytho gormodol, cynnal a chadw gwael, gosodiadau anghywir y gweithredwr, gweithrediad anghywir
hylifau - e.e. tanwydd, olew, hylif brecio, oerwyr
gollyngiadau - e.e. tanwydd, olew, aer, dŵr, nwyon a chywasgiad
cyfnodau rhwng cynnal a chadw - e.e. dyddiol, wythnosol, misol, blynyddol ac yn ystod oriau gweithredu wedi eu hamserlennu
goblygiadau addasu - e.e. integreiddio cyfarpar a gwasanaethau allanol, drilio, weldio
paratoi - e.e. glanhau, diogelu, gwneud yn ddiogel, dilysu manyleb ac ati
rhesymau dros weithrediadau gwasanaethau a chynnal a chadw – e.e. paratoi peiriannau newydd ac wedi eu defnyddio, gwasanaethu wedi ei amserlenni, cynnal a chadw brys, paratoi ar gyfer storio y tu allan i dymor neu ddefnydd ar ôl storio
profion - e.e. prawf ffordd / maes, arafiad, pŵer, pwysedd, llif
mathau o hidlwyr - e.e. sgrîn, hildwr sugnad, hidlwr pwysedd uchel, hidlwr allgyrchol, bath olew, trap dŵr, cyn-lanhäwr, hidlwyr carbon, hidlwyr awyru
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLEO8
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianneg ar y tir
Cod SOC
2129
Geiriau Allweddol
peirianneg; egwyddorion; gwasanaethu; cynnal a chadw; addasiadau; prawf; ar y tir; cyfarpar; peiriannau