Cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – cyfrifiadau

URN: LANLEO7
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir - cyfrifiadau. Mae’n cynnwys yr unedau mesur gyda ffactorau trosi (a allai gynnwys arwynebedd/cyfaint, hyd/trwch, mesuriad a ddefnyddir mewn amrywiaeth o systemau) a’r cyfreithiau cysylltiedig a’r cyfrifiadau’n ymwneud â nhw, e.e. deddf Ohm, deddf Pascal, Deddf mudiant Newton, deddf Boyle, cyflymder, pŵer, trorym, cyflymdra, pwysedd, cyfaint, llif, tymheredd, arwynebedd, trosoledd.

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi eich hyfforddi ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn peirianneg ar y tir gan ddefnyddio eu menter eu hunain mewn rôl sy’n ymdrin â chwsmeriaid.  Gallai gynnwys mentora cydweithiwr iau i gynorthwyo gydag agweddau o’r gwasanaeth ac atgyweirio.

Noder – yn unol â rheoliadau cyfredol mae’n rhaid i waith trydan o’r brif gyflenwad gael ei wneud gan berson cymwys, trydanwr fel arfer.




Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei gyflawni
  2. bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
  3. dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  4. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd ei angen i wneud y gweithgaredd yn unol â’r gofynion cyfreithiol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  5. cymhwyso cymarebau ac unedau mesur i fynegi gwerthoedd ym mherfformiad injanau, trawsyriant, hydrolig, niwmatig, trydanol a pheiriant
  6. cymhwyso ffactorau trosi i drosi gwerthoedd mesur o un uned fesur i un arall
  7. cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir i gyfrifo/mesur arwynebedd, pwysau, cyfeintiau, onglau, cyfraddau llif, trosoledd a chyflymderau fel y bo angen
  8. cymhwyso dulliau ffisegol a/neu ddamcaniaethol i sefydlu mesuriadau
  9. dilysu trwy gyfrifiad graddnodiad peiriannau a chyfarpar
  10. cyfrifo mesuriadau o ddarlun graddfa
  11. ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni
  12. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd hwn
  3. yr offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  4. yr unedau llinellog, arwynebedd, cyfaint, pwysau a thymheredd o fesuriadau a gwerthoedd
  5. yr unedau mesur a ddefnyddir i fynegi gwerthoedd mewn peiriannau trawsyriannau, perfformiad hydrolig, niwmatig, trydanol a pheiriant
  6. sut i ddefnyddio tablau trosi a’r ffactorau trosi ar gyfer cyfrifiadau
  7. y fformiwlâu mathemategol ar gyfer arwynebedd, cyfaint, cylchedd
  8. egwyddorion sylfaenol deddf Ohm, deddf mudiant Newton, deddf Boyle a deddf Pascal a phryd i’w cymhwyso
  9. y berthynas rhwng cyflymder a throrym
  10. grym allgyrchol a’i gymwysiadau a’i effeithiau
  11. sut i gyfrifo cyfraddau pŵer, trorym, grym, defnydd a chymhwysiant
  12. y dulliau a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i gyflawni tasgau mesur gwahanol
  13. y ffactorau sydd yn gallu camlunio mesuriadau
  14. y dulliau a ddefnyddir i wirio cyfraddau graddnodi/cymhwyso
  15. graddfeydd pŵer a’r hyn y maent yn ei gynrychioli
  16. mesuriad cyflymder, cyflymdra, cyflymiad, arafiad a chyfernod ffrithiant
  17. sut i gyfrifo cyflymder o gymarebau a roddir a chyflymder mewnbwn ac allbwn
  18. dehongliad o raddfeydd a ddefnyddir mewn darluniau peirianneg 
  19. sut i ailgylchu neu waredu mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni 
  20. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  21. y wybodaeth sydd angen ei chofnodi, gweithdrefn y cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


tasgau mesur – e.e. llithriad olwyn, defnydd injan o olew, cyfraddau gwaith, defnydd o danwydd fesul hectar, lefelau sŵn, galluoedd codi, gosodiadau trorym, cryfderau signal

cyfraddau pŵer - e.e. BHP (Marchnerth Brecio), KW (Cilowat)

unedau mesur - e.e. pŵer, egni, trorym, grym, disgyrchiant penodol, pwysedd, cyflymdra, arafiad, cyfraddau lleihau, ffrithiant, dwysedd, llif, ymwrthedd, llwyth, cerrynt a sŵn


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO7

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2129

Geiriau Allweddol

peirianneg; cyfrifiadau; deddf Ohm; deddf Pascal; deddf Newton; deddf Boyle; cyflymder; pŵer; trorym; cyflymdra; pwysedd; cyfaint; llif; tymheredd; arwynebedd