Cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – offer a chyfarpar

URN: LANLEO5
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – offer a chyfarpar. Mae’n cynnwys adnabod, dewis, cynnal a chadw a defnydd diogel o offer llaw, offer pŵer, a chyfarpar gweithdy sefydlog a symudol a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol i gwblhau gweithgareddau a wneir mewn peirianneg ar y tir.

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi eich hyfforddi ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i’r dadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant priodol yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.

Noder – yn unol â rheoliadau cyfredol mae’n rhaid i waith trydan o’r prif gyflenwad gael ei wneud gan berson cymwys, trydanwr fel arfer.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. bod yn ymwybodol o’r peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle mae i fod cael ei wneud
  2. bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol posibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r ffyrdd y gellid rheoli hyn
  3. dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  4. cymhwyso egwyddorion peirianneg ar y tir a defnyddio’r offer llaw, yr offer pŵer, cyfarpar sefydlog a symudol cywir i wneud y gweithgaredd gofynnol
  5. archwilio offer llaw, offer pŵer, cyfarpar sefydlog a symudol i sefydlu eu cyflwr
  6. paratoi’r offer a’r cyfarpar trwy gynnal gwiriadau a gweithredoedd cyn eu defnyddio yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion cwmni 
  7. nodi’r ffynhonnell bŵer gywir sydd yn angenrheidiol ar gyfer offer a chyfarpar pŵer
  8. dewis a defnyddio’r cyfarpar gofynnol i godi, cefnogi a sefydlogi peiriannau tra bod y gweithgaredd yn cael ei gwblhau
  9. dewis a defnyddio cyfarpar perthnasol i wneud y tasgau mesur gofynnol
  10. defnyddio’r offer a’r technegau gofynnol i gefnogi clampio, cywasgu a thynnu cydrannau a chydosodiadau
  11. dewis a defnyddio offer arbennig pan fo angen
  12. cynnal a chadw offer a chyfarpar mewn cyflwr diogel a gweithredol yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
  13. archwilio a chynnal a chadw cyfarpar PPE i gadarnhau ei fod mewn cyflwr gweithredol 
  14. archwilio cyfarpar codi i gadarnhau ei fod mewn cyflwr gweithredol yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol 
  15. ailwefru pecynnau pŵer offer cludadwy yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
  16. gadael y gweithle mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau’r gweithgaredd
  17. storio offer a chyfarpar, yn cynnwys PPE, yn ddiogel yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni 
  18. ymdrin â’r mathau gwahanol o wastraff, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r cyfarwyddiadau a gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol
  19. cwblhau cofnodion fel y bo angen yn unol â chyfarwyddiadau’r cwmni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â pheirianneg ar y tir
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. yr amrywiaeth o offer llaw, offer pŵer, cyfarpar sefydlog a symudol sydd ar gael i wneud gweithgareddau mewn peirianneg ar y tir a sut i ddewis yr offer neu’r cyfarpar cywir ar gyfer y gweithgaredd
  4. y technegau sydd yn ofynnol i baratoi a defnyddio offer llaw, offer pŵer, cyfarpar sefydlog a symudol yn ddiogel 
  5. y ddeddfwriaeth sydd yn gysylltiedig â pharatoi a defnyddio cyfarpar gwaith (PUWER)
  6. y ddeddfwriaeth sydd yn gysylltiedig â defnyddio a phrofi cyfarpar codi (LOLER)
  7. sut i adnabod ffynonellau pŵer gwahanol ar gyfer offer pŵer
  8. sut i ynysu cyfarpar trydanol y prif gyflenwad
  9. sut i ddefnyddio cyfarpar i godi, cefnogi a sefydlogi peiriannau tra bod gweithgaredd gofynnol yn cael ei gwblhau
  10. sut i dorri ac adfer edau, tynnu stydiau sydd wedi torri a symud gosodiadau sydd wedi cloi
  11. y technegau a ddefnyddir i glampio, dal a sefydlogi deunyddiau a chydrannau tra bod tasgau peirianneg yn cael eu cyflawni
  12. sut i nodi pan fydd offer arbennig yn ofynnol a’r amrywiaeth o offer arbennig sydd ar gael
  13. y gofynion cynnal a chadw ar gyfer offer llaw, offer pŵer, cyfarpar sefydlog a symudol
  14. pwysigrwydd archwilio a chynnal PPE i gadarnhau ei fod mewn cyflwr gweithredol 
  15. sut i wefru pecynnau pŵer offer symudol
  16. pwysigrwydd gadael y gweithle mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau’r gweithgaredd
  17. y ffordd y dylid storio offer, cyfarpar a PPE
  18. sut i ymdrin â’r mathau gwahanol o wastraff, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r cyfarwyddiadau a gofynion cyfreithol ac amgylcheddol perthnasol
  19. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  20. y cofnodion sydd angen eu cwblhau a gweithdrefn y cwmni ar gyfer hyn


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


cyfarpar sefydlog a symudol - e.e. gweisg, llifiau peiriannol, jaciau, stondinau echel, gwefrwyr batris, cywasgwyr aer, dynamofesurydd neu brofwyr chwistrellu

offer llaw - e.e. rhathellau, cynion, tyllwyr, tynwyr, tapiau a deiau, darnau dril, ehangwyr, clampiau, sbaneri, socedi tyndroadau, tyrnsgriwiau, gefeiliau, torwyr a chyllellodau, cyfarpar mesur a nodi, mesuryddion ac echdynwyr

cyfarwyddiadau a manylebau:
lluniau/cynlluniau
amserlenni
datganiadau dull
Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
Cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
Gofynion cwsmeriaid
cyfarwyddiadau llafar

cyfarpar codi - e.e. jaciau, craeniau peiriannau, llwyfannau codi, offer cynnal nenbontydd - e.e. hogi, storio, glanhau, llyfnhau

cyfarpar mesur - e.e. dangosydd prawf digidol, caliperau fernier, microfesurydd, mesuryddion teimlo, thermomedr, tacomedr, amlfesurydd, dynamofesurydd, tyndro trorym hydrofesurydd a mesuryddion ymwrthedd rholio

cyflenwadau pŵer - e.e. cyfnod unigol, 3 chyfnod, pecynnau pŵer symudol, aer cywasgedig

offer pŵer – yn cynnwys offer trydanol ac aer e.e. driliau, melinau malu, offer aer, gynnau gwres

cyfarpar diogelu - e.e. masgiau, gogls, sgriniau, masgiau gorchudd wyneb

offer arbennig - e.e. tynwyr, gweisg, amddiffynwyr sêl, stydiau canllaw, dolïau lleoli a chanoli, rheiliau a throlïau rhannu

tasgau - e.e. torri, llifio, ffurfio, mesur, nodi, gosod, symud, profi, dal, drilio, codi, torri edau ac echdynnu stydiau

offer a thechnegau - e.e. stondinau, clampiau, feisiau, tynwyr, morthwylion llithro, gweisg, cywasgwyr sbring


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO5

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2129

Geiriau Allweddol

peirianneg; egwyddorion; offer; cyfarpar; ar y tir