Gwasanaethu ac atgyweirio cyfarpar taenu triniaeth ar y tir

URN: LANLEO32
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys gwasanaethu ac atgyweirio cyfarpar taenu triniaeth ar y tir ac mae’n cynnwys gwybodaeth a dealltwriaeth o osod a gweithredu’r cyfarpar a’r teclynnau.

Mae’n cynnwys nodi namau, dulliau atgyweirio, graddnodi a dilysu perfformiad. Mae’r cyfarpar sydd wedi eu cynnwys ar gael yn un neu fwy o’r sectorau cysylltiedig canlynol o beirianneg ar y tir, e.e. amaethyddiaeth, garddwriaeth, amwynderau, gofal daear, coedyddiaeth a choedwigaeth.

Mae cyfarpar a ddefnyddir i ddosbarthu deunyddiau at ddiben amddiffyn a thwf cnydau, fel deunyddiau hylif, solet neu ronynnol wedi eu cynnwys yn y safon hon e.e. chwistrellwyr, dosbarthwyr gwrtaith, cyfarpar dyfrhau, neu gyfarpar chwistrellu biswail.

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus /HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
  2. bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
  3. dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  4. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  5. sicrhau bod y cyfarpar ar y tir y mae angen ei wasanaethu a’i atgyweirio’n drwyadl yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen
  6. cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogi a pheryglon lle bo angen
  7. defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau  
  8. pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
  9. nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sydd eu hangen ar gyfer y gweithgaredd
  10. symud ac amnewid cydrannau wedi eu treulio a’u niweidio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
  11. datgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer cyfarpar taenu triniaeth ar y tir a’u cydrannau yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
  12. symud ac amnewid cydrannau wedi eu treulio a’u niweidio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
  13. gosod cyfarpar llusgo a chodi i ryngwynebu â’r prif symudwr
  14. graddnodi cyfraddau taenu chwistrellwyr, hylif, gwrtaith gronynnol a solet
  15. gweithredu gosodiadau maes yn unol â manylebau’r cynhyrchydd a gofynion y cwsmer ar gyfarpar taenu triniaeth ar y tir
  16. defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system wedi ei hailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
  17. ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni 
  18. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir 
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. yr offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  4. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio cyfarpar gwaith
  5. y ffordd y dylid paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio’n drwyadl
  6. y peryglon sy’n cael eu creu gan ynni wedi ei storio a’r ffordd y dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi 
  7. y cemegau, nwyon a’r sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a’r ffyrdd y dylid ymdrin â nhw 
  8. y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gyda chyfarpar taenu triniaeth ar y tir a nodi’r achos sylfaenol  
  9. diffygion a namau cyffredin sydd yn digwydd gyda chyfarpar taenu triniaeth ar y tir 
  10. y ffactorau sy’n effeithio ar werth gwasanaethu ac atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o fywyd gwaith, angen brys am y cyfarpar
  11. y cydrannau sydd eu hangen ar gyfer y gwasanaethu a’r atgyweirio a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael amnewidiadau 
  12. mathau, adeiladwaith a swyddogaeth cyfarpar taenu triniaeth ar y tir a ddefnyddir i dyfrhau, gwrteithio, chwistrellu a lledaenu
  13. sut i symud ac amnewid cydrannau o gyfarpar taenu triniaeth ar y tir
  14. sut i ddatgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer peiriannau a chyfarpar sefydliad taenu triniaeth ar y tir yn unol â manyleb a safonau’r cynhyrchydd
  15. egwyddorion a chymwysiadau gweithredu cyfarpar sefydlu taenu triniaeth ar y tir
  16. y dulliau a’r mecanweithiau a ddefnyddir i fesur cyfraddau taenu chwistrellau, gwrtaith, hylifau a solidau a’u graddnodi
  17. sut i osod a dilysu perfformiad cyfarpar taenu triniaeth ar y tir yn unol â manylebau’r cynhyrchydd
  18. sut i ddefnyddio data i osod ac addasu cyfarpar taenu triniaeth ar y tir i gael y perfformiad gorau posibl
  19. effaith mathau o driniaeth hylif a solet, y tywydd a’u dylanwad ar osodiadau perfformiad cyfarpar
  20. y dulliau o brofi cyfarpar wrth gwblhau gweithgaredd i gadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei ddychwelyd at y cwsmer
  21. sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol a pholisi’r cwmni 
  22. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
  23. y wybodaeth y mae angen ei chofnodi, gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
tanwydd
olewau
hylifau
nwyon
llwch
aer cywasgedig

Cyfarwyddiadau a manylebau:
darluniau/cynlluniau
amserlenni
datganiadau dull
Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
gofynion y cwsmer
cyfarwyddiadau llafar

Dulliau diagnosis:
archwiliadau gweledol
profion swyddogaethol a gweithredol
cyfarpar diagnostig
rheolaeth electronig a systemau monitro o bell
adolygu data technegol

Ynni wedi ei storio:
springiau
tyndra strap
pwysedd hydrolig
gollyngiad trydanol
gollyngiad cronnwr

Cyfarpar taenu triniaeth - e.e. chwistrellwyr a lledaenwyr hylif, deunyddiau  gronynnol a solet


Dolenni I NOS Eraill

Gweler LANLEO1 Adnabod a lleihau peryglon yn yr ardal waith peirianneg ar y tir, am arweiniad ar arferion gweithio diogel.

Gweler LANLEO4 Cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – egwyddorion mecanyddol, am arweiniad yn ymwneud ag egwyddorion ac arferion sylfaenol peirianneg.

Gweler LANLEO29 Monitro trosglwyddo a gosod cyfarpar ar y tir am arweiniad yn ymwneud â gofynion gweithredol.

Gweler LANLEO2 Gweithredu gweithdrefnau sefydliadol mewn peirianneg ar y tir am arweiniad yn ymwneud â chofnodi gweithdrefnol neu weinyddol ac arferion adrodd.




Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO3

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2129

Geiriau Allweddol

ar y tir; cyfarpar; peiriannau; chwistrellwr, lledaenwr