Gwasanaethu ac atgyweirio injanau yn drwyadl ar gyfarpar ar y tir

URN: LANLEO31
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn cynnwys gwasanaethu ac atgyweirio injanau yn drwyadl ar gyfarpar ar y tir. Mae’n cynnwys injanau tanio gwreichion a thanio cywasgiad a’u cyfluniadau. Mae’n cynnwys adnabod a swyddogaeth cydrannau, symud ac amnewid cydosodiadau a chydrannau injanau a’r dulliau a’r technegau datgymalu, atgyweirio ac ailgydosod.

Mae’r safon yn cynnwys systemau a pherfformiad injanau gan gynnwys y systemau a ddefnyddir i ddosbarthu’r tanwydd (yn cynnwys carbwraduron a systemau chwistrellu) ac aer a gyflenwir gan faniffoldau mewnfa neu systemau derbyn yn llawn pwysedd yn ogystal â’r aer sydd yn ofynnol mewn proses tanio injan, y mathau, adeiladwaith a swyddogaeth y cydrannau.

Mae hefyd yn cynnwys y technegau a ddefnyddir i ganfod ac unioni namau injan fecanyddol a’r broses a ddefnyddir i ddilysu mesuriadau.

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus /HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir sy’n defnyddio eu menter eu hun mewn rôl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid. Gallai gynnwys mentora cydweithiwr iau i gynorthwyo gydag agweddau o’r gwasanaethu ac atgyweirio’n drwyadl.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
  2. bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
  3. dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  4. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  5. sicrhau bod y cyfarpar ar y tir y mae angen ei wasanaethu a’i atgyweirio’n drwyadl yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen
  6. cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogi a pheryglon lle bo angen
  7. defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau 
  8. cynnal profion i bennu achos problemau gwahanol injan
  9. pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio’n drwyadl
  10. nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sydd eu hangen ar gyfer y gweithgaredd
  11. archwilio cyflwr injanau a chydrannau ar gyfarpar ar y tir wrth wasanaethu ac atgyweirio’n drwyadl ac ymchwilio i rannau sydd wedi methu neu dreulio
  12. symud ac amnewid cydrannau wedi eu treulio a’u niweidio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
  13. lle y bo’n berthnasol, datgymalu, atgyweirio ac adfer cydrannau system injan yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
  14. nodi ac unioni namau system injan
  15. pennu trefn tanio priodol ar gyfer injanau silindrau lluosog
  16. profi a gosod amserlen chwistrellu a thanio statig a deinamig
  17. addasu perfformiad injan o fewn terfynau gweithredu penodedig
  18. defnyddio cyfarpar mesur addas i ddilysu cydymffurfio â chydrannau injan
  19. defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system wedi ei hailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
  20. ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni
  21. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. yr offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  4. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio cyfarpar gwaith
  5. y ffordd y dylid paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio’n drwyadl
  6. y peryglon sy’n cael eu creu gan ynni wedi ei storio a’r ffordd y dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi
  7. y cemegau, y nwyon a’r sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a’r ffyrdd y dylid ymdrin â nhw
  8. y mathau o ffynonellau tanwydd sydd ar gael, sut i’w hadnabod a’r ffordd y mae hynny’n effeithio ar wasanaethu ac atygweirio injanau yn drwyadl
  9. y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gydag injanau ar gyfarpar ar y tir a nodi’r achos sylfaenol 
  10. diffygion a namau arferol sydd yn digwydd gydag injanau ar gyfarpar ar y tir a sut gellir eu cywiro
  11. achosion traul eithafol injan
  12. y ffactorau sy’n effeithio ar werth gwasanaethu ac atgyweirio’n drwyadl, fel cost, amcangyfrif o fywyd gwaith, angen brys am y cyfarpar
  13. y cydrannau sydd eu hangen ar gyfer y gwasanaethu a’r atgyweirio’n drwyadl a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael amnewidiadau
  14. mathau, adeiladwaith ac egwyddorion gweithredu injanau a chydrannau
  15. allyriadau pibellau mwg, rheoliadau a dulliau rheoli yn cynnwys hidlwyr a hylifau
  16. sut i symud ac amnewid injanau a/neu gydrannau ar gyfarpar ar y tir wrth wasanaethu ac atgyweirio’n drwyadl
  17. sut i ddatgymalu, atgyweirio ac adfer injanau a/neu gydrannau yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchwyr
  18. y cyfarpar, y dulliau a’r technegau ar gyfer cymryd mesuriadau penodol injanau
  19. effeithiau gwneud gwelliannau i systemau tanwydd a thanio
  20. y weithdrefn ar gyfer dilysu perfformiad injan
  21. y weithdrefn ar gyfer dilysu amseriad cywir injan ar gyfer amseru statig a deinamig
  22. y dulliau ar gyfer profi injanau wrth gwblhau gweithgaredd i gadarnhau eu bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn eu dychwelyd at y cwsmer
  23. sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol a pholisi’r cwmni
  24. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
  25. y wybodaeth y mae angen ei chofnodi, gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Cydymffurfiad cydrannau injan - e.e.

  • bylchu cylch piston
  • silindr, leinin, meinhad, hirgrynedd ac allwthiad
  • hirgrynedd ac ‘end-float’ mwnwgl crancsiafft
  • cliriadau piston/pen
  • falf, canllaw, sedd, dilyniant, system weithredu
  • afluniad pen/bloc silindr
  • cywasgiad
  • defnydd o danwydd ac olew

Injanau a chydrannau - e.e.

  • tanwyr gwreichion a thanwyr cywasgu a’u cyfluniadau
  • aer wedi ei oeri a dŵr wedi ei oeri
  • lleininau gwlyb a sych, monobloc
  • yn anadlu’n naturiol ac wedi ei wefru gan bwysedd (i gynnwys cyfuno tyrbo ac uwchwefru)
  • cydbwyswyr ac ataliad dirgryniad
  • carbwraduron
  • plygiau tanio
  • pympiau chwistrellu
  • pympiau dosbarthu tanwydd
  • chwistrellwyr
  • rheolwyr
  • cymhorthion dechrau’n oer
  • systemau hidlo aer
  • systemau gwacáu
  • tyrbo ac uwchwefrwyr

Problemau injan - e.e.

  • perfformiad injan
  • camdanio
  • ôl-danio
  • pwysedd olew injan
  • gorgynhesu
  • trawiad
  • sŵn anarferol
  • pallu cychwyn
  • anadlu casyn cranc eithafol
  • defnydd o olew
  • dosbarthu tanwydd a phwysedd system
  • pwysedd gwefru derbyniad aer
  • defnydd anarferol o danwydd,
  • amseru chwistrelliad, camsiafft a thanio
  • allyriadau, e.e. mwg glas, gwyn neu ddu
  • perfformiad injan ddim yn unol â manylebau’r cynhyrchwyr
  • cymysgedd gwan a chyfoethog o danwydd
  • derbyniad a llif aer gwacáu cyfyngedig
  • dilysu gweithrediad llywodraethwr

Hidlwyr a hylifau:

  • Catalydd Ocsideiddio Diesel (DOC)
  • Hidlwr Gronynnau Diesel (DPF)
  • Lleihau Catalytig Dethol (SCR)
  • Hylif Gwacáu Diesel (DEF)

Ffynonellau tanwydd – e.e.

  • petrol
  • diesel
  • hybrid
  • LPG
  • methan
  • hydrogen

Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:

  • tanwydd
  • olewau
  • hylifau
  • nwyon
  • llwch
  • aer cywasgedig

Cyfarwyddiadau a manylebau:

  • darluniau/cynlluniau
  • amserlenni
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
  • cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
  • gofynion y cwsmer
  • cyfarwyddiadau llafar

Dulliau diagnosis:

  • archwiliadau gweledol
  • profion swyddogaethol a gweithredol
  • cyfarpar diagnostig
  • rheolaeth electronig a systemau monitro o bell
  • adolygu data technegol

Ynni wedi ei storio:

  • springiau
  • tyndra strap
  • pwysedd hydrolig
  • gollyngiad trydanol
  • gollyngiad cronnwr

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO31

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2129

Geiriau Allweddol

Peiriannau; ar y tir; amaethyddol; gwasanaeth; atgyweirio; canfod namau