Cyflawni trosglwyddo a gosod cyfarpar ar y tir

URN: LANLEO29
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys cyflawni trosglwyddo a gosod cyfarpar ar y tir. Defnyddir y term gosod yn y cyd-destun hwn i olygu unrhyw agwedd ar y defnydd cychwynnol o gynnyrch neu wasanaeth.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd â chyfrifoldeb dros osod cyfarpar ar y tir mewn unrhyw un o’r sectorau ar y tir, e.e. amaethyddiaeth, garddwriaeth, amwynderau, gofal daear, coedyddiaeth, coedwigaeth.

Mae angen i’r unigolyn hefyd roi cymorth i gwsmeriaid wrth drosglwyddo a gosod o fewn terfynau eu hawdurdod eu hunain ac i ddatrys ymholiadau a phroblemau cwsmeriaid.

Mae’r safon hon yn gofyn am gadw at yr holl ddeddfwriaeth a’r rheoliadau perthnasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
  2. bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  3. dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  4. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw, a storio’r offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  5. trefnu amser a lleoliad addas i gyflawni trosglwyddo a gosod y cyfarpar ar y tir
  6. cyflawni trosglwyddo a gosod yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd a’r cwmni
  7. adolygu a chadarnhau dealltwriaeth y gweithredwr o weithrediad y cyfarpar
  8. cadarnhau dealltwriaeth y gweithredwr o’r ffordd i ddefnyddio data o’r cyfarpar i gynyddu perfformiad
  9. gadael cyfarpar mewn cyflwr diogel a chwbl weithredol ar ôl cwblhau’r trosglwyddo a’r gosod
  10. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â throsglwyddo a gosod cyfarpar ar y tir
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. yr offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i wneud y gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  4. y rhesymau dros a buddion trosglwyddo a gosod cyfarpar ar y tir
  5. unrhyw nodweddion cyfarpar y mae’n rhaid eu hystyried wrth gyflawni trosglwyddo a gosod
  6. sut i nodi’r hyn y mae angen ei gynnwys yn ystod trosglwyddo a gosod
  7. sut i gyflawni gosodiad gan ddefnyddio proses systematig a’r systemau rheoli ansawdd perthnasol
  8. sut i gadarnhau lefel dealltwriaeth y gweithredwr o’r cyfarpar ar ôl trosglwyddo a gosod
  9. cyfrifoldebau a chyfyngiadau eich awdurdod eich hun wrth gyflawni’r trosglwyddo a’r gosod 
  10. y cyngor technegol a’r cymorth y gellir ei gynnig i gwsmeriaid
  11. sut i ymdrin ag ymholiadau neu broblemau yn ystod y trosglwyddo a’r gosod
  12. pwysigrwydd gadael cyfarpar mewn cyflwr diogel ar ôl trosglwyddo a gosod
  13. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  14. y wybodaeth y mae angen ei chofnodi, gweithdrefn y cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


nodweddion cyfarpar - e.e. dimensiynau ffisegol, gosodiadau trafnidiaeth/gwaith

systemau rheoli ansawdd - e.e. llawlyfrau, gweithdrefnau atal, materion diogelwch, technegau rheoli a gweithredu, cynnal a chadw, amserlenni gwasanaeth, gwarant a thelerau ac amodau

rhesymau - e.e. cyfreithiol, economaidd periant, perfformiad, effeithlonrwydd, proffesiynoldeb


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO29

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2129

Geiriau Allweddol

ar y tir; cyfarpar; peirianneg; trosglwyddo; gosodiad