Ymdrin ag oeryddion

URN: LANLEO27
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys ymdrin ag oeryddion. Mae’n cynnwys unrhyw weithgareddau sydd yn cynnwys ymdrin ag oeryddion sydd yn gysylltiedig â systemau aerdymheru/rheoli hinsawdd a/neu oeri, (e.e. adfer, llifolchi a/neu ailwefru).

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio gydag oeryddion.

Noder – dylai unrhyw un sy’n ymdrin ag oeryddion feddu ar ardystiad dilys sydd yn cydymffurfio â rheoliadau cyfredol ymdrin â nwy F.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. bod yn ymwybodol o’r peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig ag ymdrin ag oeryddion
  2. defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) addas wrth ymdrin ag oeryddion
  3. nodi math a galluoedd oeryddion a defnyddio’r offer a’r cyfarpar angenrheidiol i ymdrin ag oeryddion a chyflawni gweithgareddau yn unol â manylebau’r cynhyrchwyr
  4. casglu a throsglwyddo unrhyw ddeunydd gwastraff yn unol â deddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau’r cwmni
  5. cwblhau cofnodion fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau’r cwmni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig ag ymdrin ag oeryddion
  2. pwysigrwydd dewis, defnyddio a chynnal a chadw’r cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol wrth ymdrin ag oeryddion
  3. y ddeddfwriaeth iechyd, diogelwch ac amgylcheddol sydd yn cynnwys ymdrin â gwaredu oeryddion
  4. y gweithdrefnau sy’n berthnasol i ymdrin ag oeryddion yn ddiogel
  5. yr egwyddorion gweithredu a swyddogaeth systemau a chydrannau aerdymheru symudol (MAC) a/neu oeri peiriannau sefydlog
  6. y mathau o oerwyr cyfreithiol a’u nodweddion, eu rhinweddau a’u heffaith amgylcheddol
  7. sut i adnabod y nodweddion sydd yn gysylltiedig â chyfarpar ymdrin ag oeryddion gwahanol yn cynnwys cyfarpar sylfaenol ac awtomatig
  8. sut i ymdrin ag oeryddion mewn systemau aerdymheru symudol a/neu oeri peiriannau sefydlog
  9. sut i weithio mewn ffordd sy’n lleihau’r risg o unrhyw allyriadau oeryddion
  10. y gofyniad cyfreithiol i gadw cofnodion a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cadw cofnodion


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

gweithgareddau - e.e. adfer, llifolchi ac ailwefru


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO27

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2129

Geiriau Allweddol

oerydd; aerdymheru; oeriad; adfer; ailwefru