Gwasanaethu ac atgyweirio systemau trawsyrru ar gyfarpar ar y tir

URN: LANLEO26
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys gwasanaethu ac atgyweirio systemau trawsyrru ar gyfarpar ar y tir. Mae’n cynnwys symud, datgymalu, gwasanaethu, atgyweirio, ailgydosod ac adfer systemau trawsyrru a’u cydrannau, yr arferion profi, diagnosis ac atgyweirio sydd eu hangen ar gyfer trawsyriannau syml a chymhleth (e.e. symud pŵer, CVT yn cynnwys gyriant belt neu hydrostatig).

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir gan ddefnyddio eu menter eu hun mewn rôl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid. Gallai gynnwys mentora cydweithiwr iau i gynorthwyo gydag agweddau ar y gwasanaethu ac atgyweirio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
  2. bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
  3. dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  4. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  5. sicrhau bod y cyfarpar ar y tir y mae angen ei wasanaethu a’i atgyweirio yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen
  6. cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogi a pheryglon lle bo angen
  7. defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau  
  8. categoreiddio namau a phennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
  9. nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sydd eu hangen ar gyfer y gweithgaredd
  10. dehongli darluniau systematig o drawsyriannau a’u cydrannau
  11. symud ac amnewid systemau trawsyrru a’u cydrannau perthnasol ar gyfarpar ar y tir
  12. datgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer systemau trawsyrru yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd lle y bo’n berthnasol
  13. nodi’r cydrannau sy’n rheoli dilyniant cyflymder, cyfeiriad a newidiadau ystod
  14. gwasanaethu ac atgyweirio cyfarpar, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau 
  15. symud ac amnewid cydrannau wedi eu treulio a’u niweidio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
  16. cadarnhau bod y cyfarpar wedi ei osod a’i raddnodi’n gywir ar ôl gwasanaethu ac atgyweirio
  17. defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system sydd wedi ei hailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei bod yn perfformio yn unol â’r manylebau cyn ei dychwelyd at y cwsmer
  18. ailgylchu neu waredu mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol a pholisi’r cwmni 
  19. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir 
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. yr offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  4. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio cyfarpar gwaith
  5. y ffordd y dylid paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
  6. y peryglon sy’n cael eu creu gan ynni wedi ei storio a’r ffordd y dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi 
  7. y cemegau, nwyon a’r sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a’r ffyrdd y dylid ymdrin â nhw 
  8. y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gyda systemau trawsyrru ar gyfarpar ar y tir a nodi’r achos sylfaenol  
  9. diffygion a namau cyffredin sydd yn digwydd gyda systemau trawsyrru ar gyfarpar ar y tir 
  10. y ffactorau sy’n effeithio ar werth gwasanaethu ac atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o fywyd gwaith, angen brys am y cyfarpar
  11. y cydrannau sydd eu hangen ar gyfer y gwasanaethu a’r atgyweirio a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael amnewidiadau 
  12. sut i ddehongli darluniau amlinellol o drawsyriannau a’u cydrannau
  13. sut i symud ac amnewid systemau trawsyrru a’u cydrannau ar gyfarpar ar y tir
  14. sut i sefydlu defnyddioldeb rhannau trawsyrru
  15. sut i ddatgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer systemau trawsyrru a’u cydrannau yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
  16. mathau, cynllun, adeiladwaith ac egwyddorion gweithredu systemau trawsyrru
  17. y dulliau a ddefnyddir i gyflawni ystod cyflymder a chyflymder gwahanol mewn systemau trawsyrru a’r berthynas rhwng cyflymder a throrym
  18. yr anghenraid i amseru cydrannau argylchol yn gywir
  19. y gweithdrefnau a ddefnyddir i wirio, cyfnodedd, aliniad a chydbwysedd siafftiau gyriant
  20. y mathau o ddyfeisiadau diogelwch ac amddiffyn a ddefnyddir i ddiogelu uniondeb systemau trawsyrru
  21. manyleb, cymhwysiad a nodweddion cynhalwyr
  22. y dulliau ar gyfer gosod neu raddnodi cyfarpar ar ôl gwasanaethu neu atgyweirio 
  23. y dulliau o brofi cyfarpar wrth gwblhau gweithgaredd i gadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei ddychwelyd at y cwsmer
  24. sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol a pholisi’r cwmni 
  25. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
  26. y wybodaeth y mae angen ei chofnodi, gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data


Cwmpas/ystod


Gwaith ar ddau o’r mathau canlynol o systemau trawsyrru:
symud pŵer
hydrostatig
systemau CVT (yn cynnwys gyriant strap)
trawsyriant cydiwr deuol/lled-awtomatig

Nodi a chategoreiddio o leiaf dau o’r mathau canlynol o namau ar y trawsyriannau y mae gwaith yn cael ei wneud arnynt:
mecanyddol
hydrolig
trydanol/electronig


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
tanwydd
olewau
hylifau
nwyon
llwch
aer cywasgedig

Cyfarwyddiadau a manylebau:
darluniau/cynlluniau
amserlenni
datganiadau dull
Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
Cyfarwyddiadau cynhyrchwyr
gofynion cwsmeriaid
cyfarwyddiadau llafar

Dulliau diagnosis:
archwiliadau gweledol
profion ymarferol a gweithredol
cyfarpar diagnostig
systemau rheoli a monitro electronig o bell
adolygu data technegol

Ynni wedi ei storio:
sbringiau
tyndra strap
pwysedd hydrolig
gollyngiad trydanol
gollyngiad cronnwr


Dolenni I NOS Eraill

​Gweler LANLEO4 Cymhwyso egwyddorion peirianneg craidd – egwyddorion mecanyddol, ar gyfer gosod cynhalwyr a pherthynas gêrs a phiniynau â’i gilydd a dulliau iro.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO26

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2129

Geiriau Allweddol

ar y tir; cyfarpar; peiriannau; trawsyriannau; gwasanaethu; atgyweirio