Gwasanaethu ac atgyweirio systemau hydrolig ar gyfarpar ar y tir

URN: LANLEO24
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys gwasanaethu ac atgyweirio systemau hydrolig ar gyfarpar ar y tir. Mae’n cynnwys diagnosis, symud, gwasanaethu/atgyweirio ac ailsefydlu cylchedau hydrolig, systemau a’u cydrannau yn unol â manylebau’r cynhyrchwyr, (e.e. cylchedau pwysedd uchel ac isel yn cynnwys cylchedau pwysedd uchel/isel wedi eu cyfuno, cylchedau dadleoli sefydlog ac amrywiol, cylchedau canol agored a chaeëdig, cylchedau synhwyro llwyth neu systemau ategol) a’r dulliau a ddefnyddir i reoli dyfnder ac uchder gweithredol teclynnau (e.e. rheoli drafft neu safle).

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i’r dadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir gan ddefnyddio eu menter eu hunain mewn rôl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid. Gallai gynnwys mentora cydweithiwr iau i gynorthwyo gydag agweddau o’r gwasanaeth a’r atgyweirio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. bod yn ymwybodol o’r peryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
  2. bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
  3. dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  4. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  5. sicrhau bod y cyfarpar ar y tir sydd angen ei wasanaethu a’i atgyweirio yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen
  6. cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogi a pheryglon lle bo angen
  7. defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig a nodi diffygion a namau  
  8. pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
  9. nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sy’n ofynnol ar gyfer y gweithgaredd
  10. nodi, symud ac amnewid cydrannau system hydrolig ar gyfarpar ar y tir
  11. rhyddhau ynni wedi ei storio yn ddiogel mewn systemau hydrolig a chylchedau
  12. symud ac amnewid cydrannau wedi treulio ac wedi eu niweidio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
  13. symud halogiad o gylchedau hydrolig
  14. cydosod neu atgyweirio pibellau a phibau a ddefnyddir mewn systemau hydrolig
  15. datgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer systemau hydrolig a chydrannau yn unol â manylebau’r cynhyrchydd a gosodiadau ffatri
  16. paratoi’r system hydrolig i gael ei phrofi a chynnal profion  
  17. defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system sydd wedi ei hailgydosod wrth gwblhau’r gweithgaredd a chadarnhau ei bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
  18. ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni
  19. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir 
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. yr offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  4. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio’r cyfarpar gwaith
  5. y ffordd y dylid paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer ei wasanaethu a’i atgyweirio
  6. y peryglon sydd yn cael eu creu gan ynni wedi ei storio a’r ffordd y dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi 
  7. y cemegau, y nwyon a’r sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a’r ffyrdd y dylid ymdrin â’r rhain 
  8. cymwysiadau systemau hydrolig ar gyfarpar peirianneg ar y tir
  9. y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gyda systemau hydrolig ar gyfarpar ar y tir a nodi’r achos sylfaenol  
  10. prif achosion methiannau hydrolig a’u symptomau
  11. y mathau o gylchedau hydrolig a’u defnydd
  12. damcaniaeth gweithredu ar gyfer system hydrolig sy’n synhwyro llwyth a sut i ganfod namau
  13. y ffactorau sy’n effeithio ar werth gwasanaethu ac atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o fywyd gwaith, angen brys am y cyfarpar
  14. y cydrannau sydd eu hangen ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael amnewidiadau
  15. y symbolau cyffredin a ddefnyddir mewn diagramau cylched hydrolig
  16. sut i ddarllen a dehongli diagramau cylched hydrolig i gynnwys canol agored, canol caeëdig a synhwyro llwyth
  17. sut i symud ac amnewid cydrannau hydrolig
  18. sut i symud halogiad o gylchedau hydrolig
  19. sut i ddatgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer systemau hydrolig a chydrannau yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
  20. sut i selio systemau a chydrannau hydrolig
  21. adeiladwaith, mathau a swyddogaeth cydrannau system hydrolig a’r ffordd y mae cydrannau hydrolig yn dylanwadu ar ei gilydd
  22. achosion ac effaith gwres a sut caiff ei wasgaru mewn systemau hydrolig
  23. sut i adnabod mathau o bibellau a phibau hydrolig a’u gosodiadau perthnasol
  24. sut i gydosod ac atgyweirio pibau a phibellau hydrolig 
  25. sut i gyfeirio a sicrhau pibau a phibellau hydrolig 
  26. sut i gynnal profion diagnostig ac addasu cydrannau a systemau hydrolig yn unol â manylebau’r cynhyrchydd a gosodiadau ffatri
  27. sut i ddefnyddio egwyddorion trosoledd a chael y fantais fecanyddol uchaf posibl
  28. y dulliau o brofi cyfarpar wrth gwblhau gweithgaredd i gadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei ddychwelyd at y cwsmer
  29. sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni 
  30. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  31. y wybodaeth y mae angen ei chofnodi, gweithdrefn y cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
tanwydd
olewau
hylifau
nwyon
llwch
aer cywasgedig

Methiannau hydrolig a’u symptomau - e.e. lefel olew isel, olew amhriodol, halogiad, ceudodiad, gorlwytho

Cydrannau system hydrolig - e.e.
pympiau a motorau hydrolig, e.e. dadleoliad sefydlog ac amrywiol
falfiau cynnal pwysedd hydrolig, falfiau rhyddhad, falfiau sioc
falfiau rheoli hydrolig, e.e. dosbarthwyr, falfiau solenoid, falfiau cyfrannol, falfiau differol pwysedd, falfiau wedi eu gweithredu â pheilot
pistonau hydrolig, gweithred unigol, gweithred ddwbl
falfiau llif cyfeiriad hydrolig, rhanwyr llif, falfiau orbitol, falfiau blaenoriaeth, cyfyngwyr
cronfeydd
cronwyr

Offer diagnostig system hydrolig - e.e. mesurau pwysedd uchel ac isel, mesurau differol a mesurydd llif

Cyfarwyddiadau a manylebau:
darluniau/cynlluniau
amserlenni
datganiadau dull
Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
Cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
gofynion y cwsmer
cyfarwyddiadau llafar

Manylebau’r cynhyrchwyr - e.e. pwysedd a llif, addasu falfiau cyfyngu a rhyddhau pwysedd, gosod falfiau drafft a rheoli safle, gwirio/addasu pwysedd synhwyro llwyth

Dulliau diagnosis:
archwiliadau gweledol
profion ymarferol a gweithredol
cyfarpar diagnostig
systemau rheoli a monitro electronig o bell
adolygu data technegol

Ynni wedi ei storio:
sbringiau
tyndra strap
pwysedd hydrolig
gollyngiad trydanol
gollyngiad cronnwr


Dolenni I NOS Eraill

​Mae profion a diagnosteg sylfaenol wedi ei gynnwys yn LANLEO30 Archwilio a phrofi cyfarpar ar y tir


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO24

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2129

Geiriau Allweddol

ar y tir; cyfarpar; peiriannau; hydrolig