Gwasanaethu ac atgyweirio systemau trydanol ar gyfarpar ar y tir

URN: LANLEO22
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys gwasanaethu ac atgyweirio systemau trydanol ar gyfarpar ar y tir. Mae’n cynnwys yr egwyddorion, y cydrannau a’r systemau trydanol a geir mewn cyfarpar ar y tir. Mae hefyd yn cynnwys rhai agweddau ar drydan o’r prif gyflenwad ond oherwydd rheoliadau cyfredol, dylai trydanwr cymeradwy fod yn gysylltiedig wrth weithio gyda thrydan o’r prif gyflenwad.

Mae’r safon hon yn cynnwys systemau a chydrannau AC, (e.e. unigol, 3-gwedd, foltedd a chodau lliw - 415, 240, 110) a DC (e.e. cylchedau cychwyn, systemau tanio, gwefru/batris, cynnau/offerwaith a systemau ategol).

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle mae’n cael ei wneud
  2. bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
  3. dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  4. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw, a storio’r offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i wneud y gweithgaredd yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  5. sicrhau bod y cyfarpar ar y tir y mae angen ei wasanaethu a’i atgyweirio yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen
  6. cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogi a pheryglon lle bo angen
  7. defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau  
  8. pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
  9. nodi a sefydlu argaeledd y cydrannau amnewid sydd eu hangen ar gyfer y gweithgaredd
  10. nodi, symud ac amnewid cydrannau ar systemau trydanol ar gyfarpar ar y tir
  11. lle bo angen, datgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer cydrannau a chylchedau trydanol yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
  12. cadarnhau ac unioni namau mewn systemau a chydrannau trydanol
  13. defnyddio cyfarpar profi i fesur a dehongli yn gywir
  14. cynnal uniondeb gorau systemau trydanol
  15. dilysu gwethrediad cywir dyfeisiadau diogelwch 
  16. cyflawni’r gwasanaeth ac atgyweirio systemau trydanol, yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau 
  17. symud a disodli cydrannau wedi treulio ac wedi eu niweidio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
  18. defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system sydd wedi ei hailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
  19. ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni 
  20. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir 
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. yr offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i wneud y gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  4. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio cyfarpar gwaith
  5. y ffordd y dylid paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer ei wasanaethu a’i atgyweirio
  6. y peryglon sydd yn cael eu creu gan ynni wedi ei storio a sut dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi 
  7. y cemegau, y nwyon a’r sylweddau peryglus allai fod yn bresennol a’r ffyrdd y dylid ymdrin â nhw 
  8. y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gyda systemau trydanol ar gyfarpar ar y tir a nodi’r achos sylfaenol  
  9. diffygion cyffredin a namau sydd yn digwydd gyda systemau trydanol ar gyfarpar ar y tir 
  10. y ffactorau sy’n effeithio ar werth gwneud y gwasanaethu a’r atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o fywyd gweithredol, angen brys am y cyfarpar
  11. y cydrannau sydd eu hangen ar gyfer y gwasanaethu a’r atgyweirio a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael amnewidiadau 
  12. egwyddorion, adeiladwaith a swyddogaeth cylchedau trydanol a’r mathau o gydrannau
  13. deddf Ohm a’i chymhwysiad
  14. egwyddorion ac effeithiau electromagneteg
  15. y mathau o ddiogelu a rheoli cylchedau
  16. y mathau gwahanol o fatris a’u manylebau
  17. sut i wefru a chynnal a chadw mathau gwahanol o fatris
  18. y risgiau a gyflwynir i systemau trydanol a chydrannau gan weithgareddau/digwyddiadau eraill
  19. sut i atal a chywiro cyrydiad
  20. sut i sefydlu cylched agored, cylched byr, cymalau ymwrthedd uchel, cymalau sych
  21. dulliau o gyfnewid cylchedau trydanol
  22. sut i lwybro a sicrhau ceblau a harneisiau trydanol
  23. sut i brofi, atgyweirio a dilysu systemau trydanol ar gyfarpar ar y tir gan ddefnyddio technegau ac offer addas yn unol â chanllawiau’r cynhyrchydd
  24. y dulliau o brofi systemau trydanol wrth gwblhau gwaith i gadarnhau eu bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn eu dychwelyd at y cwsmer
  25. sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni 
  26. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  27. y wybodaeth y mae angen ei chofnodi, gweithdrefn y cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Diogelu a rheoli cylchedau - e.e. ffiwsiau ynysu batris, switshys thermol, cyfnewid foltedd drosodd-oddi tano, ynysu batri, cyfnewidiadau, RCCD (Dyfais Cylched Cerrynt Gweddilliol), asio daear, inswleiddio dwbl

Folteddau cyffredin - e.g. 6, 10, 12, 18, 24, 110, 240, 415 

Cylchedau trydanol a’u cydrannau - e.e.
cylchedau cychwynnol
cylchedau tanio
cylchedau gwefru
cylchedau cynnau
offeru
tanio gwreichionen
cylchedau ategol

Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
tanwydd
olewau
hylifau
nwyon
llwch
aer cywasgedig

Cyfarwyddiadau a manylebau:
darluniau/cynlluniau
amserlenni
datganiadau dull
Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
gofynion cwsmeriaid
cyfarwyddiadau llafar

Uniondeb systemau trydanol - e.e. harneisiau weirio, cysylltiadau, daear, defnyddwyr trydanol (batris)

Dulliau diagnosis:
archwiliadau gweledol
profion ymarferol a gweithredol
cyfarpar diagnostig
systemau rheoli a monitro electronig o bell
adolygu data technegol

Risgiau a gyflwynir i systemau a chydrannau trydanol gan weithgareddau/digwyddiadau eraill - e.e. weldio, cylched byr, cylched agored batri, gorwefru, polaredd o chwith

Dyfeisiadau diogelwch - e.e. diogelu cylched, ffiwsiau, switshys diogelwch

Ynni wedi ei storio:
sbringiau
tyndra strap
pwysedd hydrolig
gollyngiad trydanol
gollyngiad cronnwr

Cyfarpar profi i fesur a dehongli - e.e. foltedd, llif cerrynt, parhad daear, ymwrthedd

Mathau o fatri - e.e. asid plwm, gel a dim cynnal a chadw 

Dilysu cydymffurfio - e.e. prawf fflach, archwiliad gweledol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO22

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2129

Geiriau Allweddol

ar y tir; cyfarpar; peiriannau; trydanol; peirianneg