Gwasanaethu ac atgyweirio systemau crogiant ar gyfarpar ar y tir

URN: LANLEO21
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

​Mae’r safon yn cynnwys gwasanaethu ac atgyweirio systemau crogiant ar gyfarpar ar y tir. Mae’n cynnwys y systemau crogiant a geir ar gyfarpar ar y tir, (e.e. crogiant cabiau, crogiant echel flaen, rheoli gogwydd, cerbydau ffrâm crogiant llawn) a chynnal a chadw ac atgyweirio’r systemau hyn.

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir sy’n defnyddio eu menter eu hunain mewn rôl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid. Gallai gynnwys mentora cydweithiwr iau i gynorthwyo gydag agweddau ar y gwasanaethu ac atgyweirio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
  2. bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
  3. dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  4. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd yn angenrheidiol i wneud y gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  5. sicrhau bod y cyfarpar ar y tir sydd angen ei wasanaethu a’i atgyweirio yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen
  6. cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogi a pheryglon lle bo angen
  7. defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau 
  8. pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
  9. asesu defnyddioldeb rhannau crogiant
  10. nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sydd eu hangen ar gyfer y gwaith
  11. symud ac amnewid systemau crogiant a’u cydrannau cysylltiedig ar gyfarpar ar y tir
  12. datgymalu, gwasanaethu ac atgyweirio ac adfer systemau a chydrannau crogiant yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchwyr
  13. symud ac amnewid cydrannau sydd wedi treulio ac wedi eu niweidio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
  14. cadarnhau bod cyfarpar wedi ei osod neu ei raddnodi’n gywir ar ôl ei wasanaethu a’i atgyweirio
  15. defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system sydd wedi ei ailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei ddychwelyd at y cwsmer
  16. ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni
  17. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. yr offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i wneud y gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  4. y gofynion cyfreithiol sy’n berthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio’r cyfarpar gwaith
  5. y ffordd y dylid paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer ei wasanaethu a’i atgyweirio
  6. y peryglon sydd yn cael eu creu gan ynni wedi ei storio a sut dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi
  7. y cemegau, y nwyon a’r sylweddau peryglus allai fod yn bresennol a ffyrdd y dylid ymdrin â nhw
  8. y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gyda systemau crogiant ar gyfarpar ar y tir a nodi’r achos sylfaenol 
  9. diffygion a namau cyffredin sydd yn digwydd gyda systemau a chydrannau crogiant ar gyfarpar ar y tir
  10. effaith crogiant diffygiol, wedi treulio ar berfformiad cerbyd
  11. y ffactorau sy’n effeithio ar werth gwasanaethu ac atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o fywyd gweithredol, angen brys am y cyfarpar
  12. y cydrannau sydd eu hangen ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael amnewidiadau
  13. mathau, adeiladwaith ac egwyddorion gweithredu systemau crogiant a’u cydrannau
  14. sut i symud ac amnewid systemau a chydrannau crogiant ar gyfarpar ar y tir
  15. sut i ddatgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer systemau a chydrannau crogiant yn unol â manylebau’r gweithredwr/cynhyrchydd
  16. y dulliau ar gyfer gosod neu raddnodi cyfarpar ar ôl ei gynnal a’i gadw neu ei atgyweirio
  17. y dulliau o brofi systemau crogiant wrth gwblhau gwaith i gadarnhau eu bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn eu dychwelyd at y cwsmer
  18. sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n bergyglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol a pholisi’r cwmni
  19. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  20. y wybodaeth y mae angen ei chofnodi, gweithdrefn y cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data

Cwmpas/ystod

​Gweithio ar o leiaf dau o’r systemau crogiant canlynol:

  1. crogiant nad yw’n annibynnol
  2. crogiant annibynnol
  3. crogiant aer
  4. crogiant dur
  5. crogiant hydrolig

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cydrannau - e.e

  • sbringiau deilen a choil
  • bar dirdro
  • sbringiau aer
  • siocleddfwyr
  • ôl-freichiau
  • cymalau pêl
  • atalwyr taro
  • bariau atal rholio
  • bariau sefydlogi
  • breichiau pendiliog

Namau - e.e.

  • uchder teithio (anghyfartal ac isel)
  • traul
  • synau wrth weithredu
  • hylif yn gollwng
  • teithio gormodol
  • sbonciau
  • ymdriniaeth gwael o’r cerbyd
  • siocleddfwyr wedi treulio
  • cymalau wedi treulio
  • cysylltiadau wedi eu niweidio

Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:

  • tanwydd
  • olewau
  • hylifau
  • nwyon
  • llwch
  • aer wedi ei gywasgu

Cyfarwyddiadau a manylebau:

  • darluniau/cynlluniau
  • amserlenni
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
  • Cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
  • gofynion y cwsmer
  • cyfarwyddiadau llafar

Dulliau diagnosis:

  • archwiliadau gweledol
  • profion ymarferol a gweithredol
  • cyfarpar diagnostig
  • systemau rheoli a monitro electronig o bell
  • adolygu data technegol

Ynni wedi ei storio:

  • sbringiau
  • tyndra strap
  • pwysedd hydrolig
  • gollyngiad trydanol
  • gollyngiad cronnwr

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO21

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2129

Geiriau Allweddol

ar y tir; cyfarpar; peiriannau; crogiant; gwasanaethu; atgyweirio